Llwyddiant Womenspire i Delyth Prys
Mae Pennaeth Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor, Delyth Prys, wedi derbyn gwobr gan brif elusen Cymru ym maes cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a hynny am ei gwaith arloesol ym maes technolegau ieithoedd lleiafrifol.
Mae Delyth yn arwain t卯m o raglennwyr, datblygwyr meddalwedd a therminolegwyr yn yr Uned Technolegau Iaith, uned arbenigol yng Nghanolfan Bedwyr, sef Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg Prifysgol Bangor. Mae鈥檙 uned yn arloesi ar ymchwilio a datblygu technolegau testun a lleferydd, safoni termau, ac agweddau eraill ar Brosesu Iaith Naturiol ac Ieithyddiaeth Gyfrifiadurol. Mae ei phrif ffocws ar y Gymraeg a鈥檙 ieithoedd Celtaidd eraill, ac ar agweddau amlieithog cyfathrebu. Ymhlith diddordebau arbennig yr uned mae adfywio ieithoedd drwy dechnolegau iaith, a galluogi ieithoedd llai eu hadnoddau i ffynnu yn yr oes ddigidol.
Derbyniodd wobr y 鈥楤uilding Wales Award鈥 yn nigwyddiad blynyddol y Womenspire Awards yng Nghaerdydd ar 5 Mehefin. Mae鈥檙 gwobrau yn cael eu trefnu a鈥檜 cynnal gan elusen Chwarae Teg, elusen sy鈥檔 hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac mae gwobrau blynyddol Womenspire yn dathlu llwyddiannau merched ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru.
Roedd y categori 鈥楤uilding Wales鈥 yn canolbwyntio ar fenywod sy鈥檔 gweithio ym maes gwyddoniaeth, adeiladu, technoleg a pheirianneg. Ei nod yw dathlu'r menywod hynny sy'n adeiladu Cymru newydd trwy hyrwyddo eu taith gyrfa eu hunain a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w sectorau. Enwebwyd Dr Yueng-Djern Lenn o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn yr un categori.
Meddai Delyth ar derfyn y noson wobrwyo:
鈥淢ae鈥檔 anrhydedd fawr i fi, ac roeddwn i wrth fy modd yn derbyn y wobr. Mae鈥檔 gydnabyddiaeth o waith o鈥檙 t卯m cyfan yn yr Uned Technolegau Iaith, ac rwy鈥檔 ddiolchgar iawn iddyn nhw am fy enwebu. Mae ymchwil i greu offer cyfathrebu cyfrifiadurol Cymraeg mor bwysig ar gyfer dyfodol yr iaith, ac roedd hi鈥檔 wych cael y cyfle i roi cyhoeddusrwydd i鈥檔 gwaith.鈥
Yn llongyfarch Delyth ar dderbyn y wobr, meddai Dirprwy Is-ganghellor (Cyfrwng Cymraeg ac Ymgysylltu 芒鈥檙 Gymuned) Prifysgol Bangor, Yr Athro Jerry Hunter:
鈥淟longyfarchiadau mawr i Delyth ar ei llwyddiant haeddiannol yng ngwobrau Womenspire elusen Chwarae Teg. Mae鈥檙 gwaith y mae鈥檔 ei gyflawni yn Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn gyfraniad allweddol at ffyniant y Gymraeg ac ieithoedd lleiafrifol eraill, ac yn ysbrydoliaeth i fenywod eraill i ddatblygu gyrfaoedd gwerthfawr yn y maes pwysig hwn.鈥
Mae Prifysgol Bangor yn ymrwymedig i hyrwyddo gyrfaoedd menywod ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, meddygaeth a mathemateg (STEMM), egwyddorion sydd wedi eu hymgorffori yn rhan o fenter Siarter Athena Swan. Mae鈥檙 Brifysgol wedi llwyddo i ennill y Wobr Efydd ac wedi ymrwymo i wella ar hynny. Mae mentrau a phrojectau Athena SWAN yn rhoi sylw i staff a myfyrwyr ac o fudd i鈥檙 naill a鈥檙 llall.
Ceir mwy o wybodaeth am elusen Chwarae Teg a Gwobrau Womenspire yma:
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2018