Lansio Cyfrol o Ysgrifau a Chanllawiau Cyfieithu
Mae cyfrol newydd o鈥檙 enw Ysgrifau a Chanllawiau Cyfieithu newydd ei chyhoeddi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a bydd yn cael ei lansio yng Nghanolfan Bedwyr, nos Iau yr 21ain o Ionawr.
Mae鈥檙 gyfrol yn ffrwyth grant bach a ddyfarnwyd i Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr y Brifysgol gan y , ac mae鈥檔 cynnwys saith pennod ar gyd-destun cyfieithu yng Nghymru, cyweiriau iaith y Gymraeg, theori ac ymarfer, technoleg cyfieithu, ac adnoddau defnyddiol megis geiriaduron termau.
Golygyddion y gyfrol yw Delyth Prys a Robat Trefor, sydd hefyd wedi cyfrannu penodau, a鈥檙 cyfranwyr eraill yw Tegau Andrews, Gruffudd Prys a Mared Roberts, hefyd yn aelodau o鈥檙 Uned, Sylvia Prys Jones, pennaeth Uned Gyfieithu Prifysgol Bangor, a Heini Gruffudd, arbenigwr ar gyfieithu sy鈥檔 byw yn Abertawe.
Dywedodd Delyth Prys: 鈥淎g ystyried mor bwysig yw鈥檙 diwydiant cyfieithu yng Nghymru heddiw, mae鈥檔 syndod cyn lleied sydd wedi鈥檌 ysgrifennu yn y Gymraeg i helpu cyfieithwyr a darpar-gyfieithwyr. Fe aethon ni ati i lanw鈥檙 bwlch ein hunain felly, gan ein bod ni i gyd wedi darlithio ac arwain nifer o weithdai yn y maes.
Mae鈥檙 gyfrol hefyd yn ffrwyth y cwrs Tystysgrif 脭l-radd Mewn Astudiaethau a Thechnoleg Cyfieithu ym Mhrifysgol Bangor, a gynlluniwyd yn unswydd i roi hyfforddiant rhan-amser i gyfieithwyr proffesiynol. Mae鈥檙 gyfrol wedi鈥檌 chyflwyno i鈥檙 21 myfyriwr sydd wedi ennill y dystysgrif honno yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.鈥
Mae鈥檙 gyfrol ar gael ar ffurf e-lyfr yn unig, yn rhad ac am ddim o wefan .
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ionawr 2016