Gweinidog yn ymweld 芒 chanolfan sy鈥檔 gefn i鈥檙 Gymraeg
Mae Canolfan Bedwyr, sef canolfan gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol, wedi sicrhau enw da iddi鈥檌 hun, nid yn unig am ei gwaith yn datblygu a hyrwyddo鈥檙 Gymraeg yn y Brifysgol ei hun ond hefyd am ei gwaith yn hwyluso defnydd ohoni y tu hwnt i鈥檞 muriau.
Yn ddiweddar, mae鈥檙 ganolfan wedi ennill cytundebau sylweddol gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru i arwain cynllun i ddatblygu sgiliau Cymraeg athrawon a darlithwyr ac i ddatblygu terminoleg ar gyfer y sectorau uwchradd ac addysg bellach. Yn ogystal 芒 manteisio ar y cyfle i weld cynnydd y projectau hyn drosto鈥檌 hun bu鈥檙 gweinidog yn dysgu am y gwaith sy鈥檔 cael ei wneud i gefnogi defnydd o鈥檙 Gymraeg yn y gweithle.
Yn ystod yr ymweliad rhoddwyd cryn sylw i ddatblygiadau ym maes technolegau iaith, gan gynnwys technoleg lleferydd ac offer ac adnoddau newydd ar gyfer cefnogi鈥檙 diwydiant cyfieithu.
Mae Canolfan Bedwyr hefyd yn gartref i鈥檙 Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Bangor a dangoswyd i鈥檙 gweinidog y math o gefnogaeth sydd ar gael i staff sy鈥檔 datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg newydd ac i fyfyrwyr sy鈥檔 dewis ymgymryd 芒 hi.
Wrth drafod ei ymweliad nododd Leighton Andrews 鈥淢ae gan Brifysgol Bangor hanes maith o hyrwyddo addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys yn fwy diweddar, ei chefnogaeth i鈥檙 gwaith o sefydlu鈥檙 Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae鈥檙 gwaith y mae鈥檔 ei gyflawni yn mynd i gyfrannu鈥檔 allweddol hefyd i nod y Llywodraeth o hyrwyddo鈥檙 iaith Gymraeg a sicrhau ei bod yn ffynnu.鈥
Dywedodd yr Athro John G. Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor 鈥淔el Prifysgol, rydym yn gwbl gefnogol i weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ffyniant y Gymraeg ac yn falch iawn o鈥檙 cyfraniad y mae Canolfan Bedwyr yn ei wneud tuag at wireddu鈥檙 weledigaeth honno o fewn y Brifysgol ei hun a thu hwnt i鈥檞 muriau.鈥
Meddai Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr: 鈥淩oedd yn bleser cael croesawu Leighton Andrews i gartref newydd Canolfan Bedwyr yn Neuadd Dyfrdwy a rhoi鈥檙 cyfle iddo brofi nifer o ddatblygiadau arloesol. Yng nghyd-destun strategaeth newydd y Llywodraeth ar gyfer y Gymraeg, roedd yn gyfle amserol i ni ddangos holl ystod y gwaith sy鈥檔 cael ei wneud yn y Ganolfan i hwyluso defnydd o鈥檙 Gymraeg a sicrhau isadeiledd ar gyfer ei datblygiad鈥.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2011