Dathlu Llwyddiant ar Ddydd G诺yl Dewi
Bydd Prifysgol Bangor yn nodi Dydd G诺yl Dewi eleni trwy gynnal digwyddiad i ddathlu llwyddiant tri th卯m sydd wedi sgorio鈥檙 marciau uchaf posib mewn arolwg annibynnol o wasanaethau Cymraeg.
Llwyddodd t卯m y Switsfwrdd Canolog a th卯m Derbynfa Pontio i sgorio 100% mewn ymchwiliad i wasanaethau ff么n a derbynfa gan Gomisiynydd y Gymraeg. Yn ystod ymarfer siopwr cudd gan swyddfa鈥檙 Comisiynydd, cysylltwyd 芒鈥檙 timau hyn dair gwaith a llwyddodd y timau i gynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn a chwrtais bob tro. Roedd yr Arolwg Sicrwydd gan Swyddfa鈥檙 Comisiynydd yn un cenedlaethol a dim ond nifer cymharol fychan o weithleoedd a lwyddodd i sgorio 100%.
Fel rhan o鈥檙 Arolwg Sicrwydd, cynhaliodd Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg hefyd arolwg pen desg o dudalennau a gwasanaethau ar-lein y Brifysgol. Mae canlyniadau鈥檙 arolwg yn dangos fod 97% o鈥檙 tudalennau gwe a 100% o鈥檙 gwasanaethau ar-lein yn cynnig opsiwn Cymraeg ac o鈥檙 un safon 芒鈥檙 ddarpariaeth yn Saesneg. Unwaith eto, y mae鈥檙 canrannau hyn llawer uwch na鈥檙 ganran genedlaethol.
Meddai鈥檙 Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg: 鈥淢ae鈥檙 canlyniadau yma yn dangos ymrwymiad Prifysgol Bangor i gynnig gwasanaethau Cymraeg rhagorol i fyfyrwyr, staff a鈥檙 cyhoedd. Rydym yn ymhyfrydu yn sgiliau dwyieithog ein staff. Blwyddyn wedi i ni lansio ein Cynllun Strategol ar Ddatblygu鈥檙 Defnydd o鈥檙 Gymraeg yn y Gwaith, rydym yn parhau i sicrhau fod staff yn cael y cyfle i ddatblygu a defnyddio鈥檜 Cymraeg. Mae canlyniadau arolwg Comisiynydd y Gymraeg yn dangos ein llwyddiant yn creu gweithle gwirioneddol ddwyieithog.鈥
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal am 1yp y tu allan i鈥檙 Stiwdio yn Pontio ac yng nghmwni鈥檙 Is-Ganghellor.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2017