Cyfrifiad mewn Cymraeg clir
Bydd dylanwad , Prifysgol Bangor i鈥檞 brofi ym mhob cartref yng Nghymru dros yr wythnosau nesaf wrth i holiaduron Cyfrifiad 2011 gael eu llenwi.
Bydd dylanwad , Prifysgol Bangor i鈥檞 brofi ym mhob cartref yng Nghymru dros yr wythnosau nesaf wrth i holiaduron Cyfrifiad 2011 gael eu llenwi. Mae Eleri Jones o Uned Cymraeg Clir y ganolfan wedi bod yn ganolog i鈥檙 gwaith o sicrhau bod y fersiwn Gymraeg yn un y gall siaradwyr Cymraeg ei deall a鈥檌 defnyddio yn ddidrafferth.
Yn dilyn beirniadaeth yn y gorffennol fod iaith y fersiwn Gymraeg yn anodd ac anystwyth, mae swyddogion y Swyddfa Ystadegau wedi ymdrechu鈥檔 daer i sicrhau na fydd holiadur 2011 yn darllen fel cyfieithiad. Am y tro cyntaf yn hanes y cyfrifiad, mae holiadur Cymraeg 2011 wedi cael ei ddatblygu ar y cyd 芒鈥檙 fersiwn Saesneg, a hynny gyda chefnogaeth t卯m o arbenigwyr, yn cynnwys arweinydd Uned Cymraeg Clir Canolfan Bedwyr.
Meddai Eleri Jones: 鈥淩oedd yn bleser ac yn fraint cael bod yn aelod o鈥檙 Gr诺p Cefnogi a oedd yn helpu swyddogion y Swyddfa Ystadegau i greu鈥檙 fersiwn Gymraeg o holiaduron Cyfrifiad 2011. Fy r么l i oedd ceisio cadw iaith yr holiaduron mor glir, syml a naturiol 芒 phosib fel bod Cymry Cymraeg a dysgwyr o bob oed a gallu鈥檔 fodlon mynd ati i lenwi holiadur Cymraeg.鈥
Dywedodd Wyn Thomas, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor: 鈥淵n ogystal 芒鈥檌 gwaith yn cefnogi a datblygu defnydd o鈥檙 Gymraeg yn fewnol yn y Brifysgol, rydym yn falch iawn o鈥檙 modd y mae Canolfan Bedwyr yn rhannu ei harbenigedd yn allanol er budd yr iaith a鈥檌 siaradwyr.鈥
Meddai Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr: 鈥淕yda strategaeth newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y Gymraeg yn rhoi ei phrif bwyslais ar gynyddu defnydd o鈥檙 iaith, y mae gwaith yr Uned Cymraeg Clir yn magu arwyddoc芒d a phwysigrwydd cynyddol. Rydym yn edrych ymlaen at gynorthwyo rhagor o gyrff a sefydliadau i greu dogfennau cyhoeddus clir a dealladwy.鈥
Am ragor o wybodaeth am waith yr Uned Cymraeg Clir, cysylltwch ag Eleri Jones ar 01248 383242 neu e-bostiwch eleri.jones@bangor.ac.uk.
Am ragor o wybodaeth am waith Canolfan Bedwyr, cysylltwch 芒 Dr Llion Jones ar 01248 388054 neu e-bostiwch llion.jones@bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2011