Cydnabyddiaeth i fardd sy鈥檔 trydar
Mae llyfr arloesol o drydar cynganeddol o waith Dr Llion Jones wedi鈥檌 osod ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2013.
Mae鈥檙 gyfrol, Trydar mewn Trawiadau (Cyhoeddiadau Barddas), wedi鈥檌 disgrifio fel y casgliad cyntaf o drydar yn y Gymraeg, ac un o鈥檙 casgliadau cyntaf o drydargerddi mewn unrhyw iaith.
Ers dros dair blynedd, mae Llion Jones, Cyfarwyddwr a phrifardd cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol 2000, wedi bod yn gwneud defnydd creadigol o gyfrwng poblogaidd Twitter i drydar mewn cynghanedd yn unig, gan ddefnyddio鈥檙 140 nod cyfrifiadurol y mae Twitter yn eu caniat谩u i roi cipolwg ar y byd trwy gyfrwng cwpledi ac englynion.
Meddai Llion, 鈥淔y mwriad wrth gyhoeddi鈥檙 gyfrol oedd ceisio ennyn diddordeb mewn cynghanedd a barddoniaeth yn ogystal ag annog mwy o Gymry Cymraeg i wneud defnydd creadigol o鈥檙 cyfryngau newydd. Mae鈥檙 ymateb i鈥檙 gyfrol wedi bod tu hwnt i bob disgwyl ac mae鈥檙 gydnabyddiaeth gan banel beirniaid cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn goron ar y cyfan.鈥
Cyhoeddir enillwyr categori Llyfr y Flwyddyn 2013 - barddoniaeth, ffeithiol a ffuglen - cyn enwi Llyfr y Flwyddyn 鈥 teitl Cymraeg a Saesneg - mewn seremoni yng Nghaerdydd ar 18 Gorffennaf.
Mae鈥檙 gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan Llenyddiaeth Cymru ac mae manylion pellach amdani i鈥檞 cael ar
Gallwch ddarllen rhagor am Trydar mewn Trawiadau ar wefan neu ar
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mai 2013