Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd yn anrhydeddu tri ymchwilydd o Brifysgol Bangor
Mewn seremoni arbennig i gyflwyno Anrhydeddau鈥檙 RCSLT (Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd) yn Nottingham yn ystod eu cynhadledd flynyddol fis Medi, dyfarnwyd gwobr 鈥淕iving Voice鈥 i Delyth Prys, Dewi Bryn Jones a Stefan Ghazzali o Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr. Roedd y tri, drwy eu project Lleisiwr, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi datblygu meddalwedd i greu llais synthetig personol yn y Gymraeg a fyddai鈥檔 gymorth i gleifion oedd ar fin colli eu llais eu hun. Roedd y project yn caniat谩u bancio llais y claf yn Gymraeg a Saesneg a鈥檌 ddefnyddio i adeiladu fersiwn digidol ohono.
Dywedodd y beirniaid y byddai hyn yn trawsffurfio bywydau pobl gyda chlefyd niwronau echddygol neu ganser y pen a鈥檙 gwddf. Roeddynt yn canmol hefyd y ffordd yr oedd y t卯m wedi llwyddo i gael cyhoeddusrwydd cenedlaethol i鈥檙 project, ac wedi dod ag anghenion pobl gydag anawsterau iaith, lleferydd a chyfathrebu i sylw鈥檙 cyhoedd ehangach.
Enwebwyd y tri gan Rhian Wyn, Therapydd Iaith a Lleferydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a fu鈥檔 gweithio gyda nhw ar y project Lleisiwr. Eglurodd Rhian: 鈥淓r bod gwasanaethau bancio llais ar gael ers dipyn i bobl drwy gyfrwng y Saesneg, 鈥榙an ni fel therapyddion iaith yn gwybod bod angen un trwy鈥檙 Gymraeg hefyd a bod eisiau鈥檙 ddwy iaith ar y cleifion yma sy鈥檔 siarad Cymraeg鈥. Dywedodd hefyd fod y gwaith wedi cael ei ffilmio ar gyfer rhaglen S4C o鈥檙 enw 鈥淎chub Llais John鈥 yn dilyn claf oedd wedi cael larynjectomi ac ei weld yn datblygu ei lais personol ei hun, ac ychwanegedd: 鈥淢ae wedi bod yn fraint cael gweithio hefo鈥檙 t卯m ac enwebu nhw am y wobr yma鈥. Gellir gweld copi o鈥檙 fideo byr ddarlledwyd ar waith y tri yn y noson wobrwyo ar .
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2019