Arwain gydag e-lyfrau
Bydd gwaith arloesol staff ym maes e-lyfrau Cymraeg yn cael lle blaenllaw ar y rhaglen Pethe ar S4C heno (26 Mawrth 2012).
Yn ogystal 芒 rhoi sylw i鈥檙 gwaith ymchwil ym maes e-gyhoeddi y mae staff yr Uned Technolegau Iaith wedi鈥檌 wneud yn ddiweddar ar ran Cyngor Llyfrau Cymru, bydd y rhaglen hefyd yn dangos sut y mae cyfarwyddwr y ganolfan, Dr Llion Jones, wedi torri tir newydd fel y bardd Cymraeg cyntaf i gyhoeddi cyfrol aml-gyfrwng ar gyfer yr iPad.
Mae cyfrol Llion Jones, Pethe Achlysurol, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2007 ar ffurf cyfrol clawr papur, bellach yn cynnwys cynyrchiadau fideo o nifer o鈥檙 cerddi ac yn cael ei chynnig yn rhad ac am ddim trwy wefan iTunes.
Dywedodd Llion Jones: 鈥淯n o brif ganfyddiadau鈥檙 adroddiad a luniodd Uned Technolegau Iaith ar gyfer y Cyngor Llyfrau oedd bod cynnig darpariaeth e-lyfrau deilwng yn y Gymraeg yn fater brys, nid yn unig er mwyn rhoi鈥檙 un cyfleoedd i ddarllenwyr Cymraeg, ond hefyd er mwyn cryfhau delwedd y Gymraeg fel iaith gyfoes a deniadol. Fel canolfan, rydym yn falch iawn o allu cyfrannu mewn gwahanol ffyrdd at faes sydd mor allweddol o ran ffyniant y Gymraeg.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2012