Llythyrau enghreifftiol: Cwyno
Canllawiau cyffredinol
Llythyr yn cwyno am waith gwael
Llythyr yn cwyno am ddiffyg – gofyn am gael atgyweirio’r eitem
Llythyr yn cwyno am ddiffyg – gofyn am gael eich arian yn ôl
Llythyr terfynol cyn cyfeirio mater at lys
Os ydych chi wedi cael gwaith neu wasanaethau gwael neu wedi prynu nwyddau diffygiol, mae’n bwysig i chi gwyno’n syth trwy ysgrifennu llythyr. Gallwch chi ffonio’r cwmni neu’r crefftwr i drafod y mater. Ond, os nad yw’r cwmni’n fodlon datrys y broblem yn syth, efallai y bydd rhaid i chi fynd â’r mater i lys barn. Felly mae’n well bod â chymaint o dystiolaeth ysgrifenedig â phosib i gadarnhau’r ffeithiau.
Mae cynnwys eich llythyr cwyno’n bwysig iawn. Rhowch y ffeithiau yn unig yn y llythyr. Peidiwch â gwylltio a mynd yn ymosodol na bygwth y cwmni mewn unrhyw ffordd, ond gallwch chi ddweud eich bod chi’n bwriadu cyfeirio’r mater at lys barn os na chewch chi eich bodloni. Cadwch dôn eich llythyr yn gwrtais ac yn bwyllog a rhowch gyfle i’r cwmni ddelio â’r broblem.
Mae’n bwysig i chi anfon copi o unrhyw ddogfennau pwysig gyda’ch llythyr, er enghraifft, derbynneb (receipt), gwarant (guarantee) ac unrhyw adroddiad sy’n sôn am y nam neu’r diffyg. Peidiwch ag anfon y dogfennau gwreiddiol. Cadwch gopi o’ch llythyr hefyd.
Dilynwch y patrwm yma wrth greu llythyr cwyno:
Paragraff 1 – Rhestrwch fanylion y nwydd neu’r gwasanaethau’n gyntaf: dyddiadau, prisiau, unrhyw rif cyfeirnod (reference number) a rhif model.
Paragraff 2 – Disgrifiwch y broblem. Rhestrwch y diffygion, y gwaith gwael neu’r nam sydd wedi creu’r anghydfod.
Paragraff 3 – Disgrifiwch yr hyn a wnaethoch chi i geisio datrys y broblem, er enghraifft: mynd i’r siop i gwyno, ymweliadau unrhyw beirianwyr â’ch cartref, unrhyw waith atgyweirio a wnaed, galwadau ffôn, ac ati. Peidiwch â manylu gormod. Cynhwyswch y ffeithiau moel yn unig.
Paragraff 4 – Dywedwch beth rydych chi am i’r cwmni ei wneud i ddatrys y broblem a rhowch amserlen bendant i’r gwaith gael ei wneud. Peidiwch â rhoi amserlen afreal ac afresymol (mae o leiaf 7 diwrnod gwaith yn rhesymol yn y rhan fwyaf o achosion).
Paragraff 5 – Yn olaf, gallwch chi ddisgrifio beth rydych chi’n bwriadu ei wneud os nad yw’r broblem yn cael ei datrys. Fel arfer, mae hyn yn golygu cyfeirio’r mater at lys barn.
Nodyn: os yw’r swm dan sylw’n llai na £5,000, mae’n werth i chi ddilyn trywydd y llys mân ddyledion (‘small claims court’).
(Gallwch chi gael cyngor am ddim gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth – http:www.adviceguide.org.uk/CY/Wales.htm. Cofiwch hefyd y gallwch chi hawlio gan gwmni eich cerdyn credyd os defnyddioch chi eich cerdyn i dalu am y nwydd ac mae’n werth dros £100. Yn yr achos hwnnw, anfonwch gopi o’ch llythyr at y cwmni cardiau credyd.)