Llythyrau enghreifftiol: Byd gwaith
Llythyr yn dangos diddordeb mewn swydd
Llythyr yn gofyn i rywun roi geirda (reference)
Llythyr egluro sy’n mynd gyda chais am swydd
Llythyr yn gofyn ar hap oes swydd ar gael
Llythyr yn derbyn swydd
Llythyr yn gwrthod swydd
Tŷ Hafod Aberafon Sir Gaerfyrddin SA55 3AB Ffôn: 01234 567891 30 Mehefin 2006
Mr Meirion Morus Rheolwr Adnoddau Dynol Cyngor Penybryn Swyddfeydd y Cyngor Penybryn Sir Gaerfyrddin SA56 2NA Annwyl Mr Morus Roeddwn yn falch iawn o gael eich llythyr yn cynnig swydd i mi fel Swyddog Datblygu’r Gwasanaethau Cyhoeddus gyda Chyngor Penybryn. Mae’n bleser cael derbyn y cynnig. Cadarnhaf y byddaf yn gallu dechrau gweithio ar 5 Gorffennaf 2006. A wnewch chi roi gwybod i mi i ba swyddfa y dylwn i fynd wrth gyrraedd y bore hwnnw, a pha amser y byddwch chi’n fy nisgwyl i? Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddod yn aelod o’r tîm gweinyddu. Yn gywir
A B Efans (Ms) |
Tŷ Hafod Aberafon Sir Gaerfyrddin SA55 3AB Ffôn: 01234 567891 3 Gorffennaf 2006
Mr John Jones Pennaeth Gweinyddu Cyngor Aran Swyddfeydd y Cyngor Caer-y-bryn Sir Gaerfyrddin SA12 3AB Annwyl Mr Jones Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am gynnig swydd i mi fel Gweinyddwr dros dro. Ond, yn anffodus, rhaid i mi wrthod y cynnig am fy mod wedi derbyn swydd barhaol gyda Chyngor Penybryn. Er fy mod wedi gwneud cais am y swydd gyda Chyngor Penybryn pan gysylltais â chi i holi ynglŷn â gwaith, nid oeddwn yn teimlo bod digon o brofiad gennyf iddyn nhw fy ystyried ar ei chyfer. Felly roedd cynnig y Cyngor yn annisgwyl pan ddaeth. Rwy’n ymddiheuro’n fawr os wyf wedi achosi unrhyw anghyfleustra i chi. Yn gywir
A B Efans (Ms) |