Digwyddiadau Rhithiol ac Ar-lein

Ymchwilio eich opsiynau

Dewch o hyd i gwrs a phrifysgol delfrydol

Defnyddiwch wefan UCAS i edrych ar restr听cyrsiau

Mae UCAS yn rhestru'r holl gyrsiau a gynigir, a gallwch chwilio yn 么l prifysgol, pwnc neu leoliad. I gael gwybodaeth sydd wedi ei听deilwra a'i phersonoli, defnyddiwch hwb UCAS i gadw听eich gwybodaeth mewn un lle.听

Ewch i wefannau prifysgolion

Gallwch ddarganfod pa gyrsiau sydd ar gael a gweld gwybodaeth fanwl am y cwrs, y modiwlau y gallwch eu hastudio ac opsiynau eraill a gynigir megis blynyddoedd lleoliad gwaith neu gynlluniau astudio dramor.

Gan na all prifysgolion gynnal digwyddiadau mawr ar y campws ar hyn o bryd, mae llawer yn cynnal digwyddiadau rhithwir. Mae'r rhain yn ffordd wych i chi gysylltu 芒 darlithwyr a staff eraill a dyma'r peth gorau nesaf i fynychu diwrnod agored.

Bydd y mwyafrif o ddigwyddiadau rhithwir yn cynnwys fideos, teithuau 360听a Sgwrs Fyw gyda staff a myfyrwyr, gan gwmpasu'r holl bynciau yr hoffech chi ddarganfod amdanynt ar Ddiwrnod Agored go iawn, fel Bywyd Myfyrwyr, Cyllid Myfyrwyr a Llety.

Sgwrsio 芒 myfyrwyr ar-lein

Mae llawer o brifysgolion yn caniat谩u ichi gysylltu 芒 myfyrwyr ar-lein, naill ai ar eu gwefan eu hunain neu trwy'r platfform Unibuddy ar wefan UCAS. Mae myfyrwyr cyfredol yn gwybod yn union sut yr ydych yn teimlo听a gallant gynnig cyngor gwych ar astudio, bywyd myfyrwyr, llety a llawer mwy.

Dilynwch brifysgolion ar gyfryngau cymdeithasol

Gallwch ddarganfod y newyddion diweddaraf a chadw golwg ar unrhyw wybodaeth bwysig, megis pa ddigwyddiadau rhithwir sydd ar y gweill trwy edrych ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol.

Mae听Instagram a YouTube hefyd yn ffynhonnell ardderchog o bob math o fideos - o fideos myfyrwyr i rai penodol am gyrsiau. Ac edrychwch am luniau a fideos o lleoliad y brifysgol, fel y gallwch weld sut le yw'r campws a'r ardal gyfagos.

Dewch 芒'ch holl ymchwil at ei gilydd

Ar 么l i chi orffen eich ymchwil a'ch bod yn hapus 芒'ch dewisiadau prifysgol a chwrs, gwnewch yn si诺r bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch wedi'i chadw mewn un lle. Yna gallwch ddod 芒 phopeth at ei gilydd a phwyso a mesur eich opsiynau cyn penderfynu ar eich dewisiadau terfynol ar gyfer eich Cais UCAS.

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?