Cyngor ar sut i ysgrifennu'r Datganiad Personol

Y Datganiad Personol yw eich cyfle i werthu eich hunain, eich diddordebau, talentau a llwyddiannau. Os na chewch chi wahoddiad am gyfweliad, bydd y tiwtoriaid personol (y bobl sy鈥檔 penderfynu pwy sy鈥檔 cael lle ar y cwrs) yn dibynnu ar eich datganiad i wneud eu penderfyniad.听听

Mae pob datganiad personol yn cael ei ddarllen!听

Rydych yn cystadlu yn erbyn llawer o ymgeiswyr eraill felly mae angen i chi werthu eich hun. Mae'n bwysig bod yn ofalus wrth ystyried yr hyn rydych am ei ddweud a sut i'w ddweud.

I ysgrifennu datganiad llwyddiannus mae angen i chi fod yn sicr am yr hyn rydych yn ei gynnwys, a pham. Edrychwch ar y pwnc a manylion y cwrs i gael darlun cliriach o'r hyn y mae'r cyrsiau'n cynnig, a chofiwch y gallwch ffonio'r tiwtor derbyn os oes gennych unrhyw gwestiynau.听

Mae tiwtoriaid yn hoffi gweld unigolion cyfrifol gydag amrywiaeth o ddiddordebau sy'n gallu ymdopi ag astudiaeth ar lefel prifysgol. Maent yn edrych am gymhelliant a photensial ac yn disgwyl i'r datganiad fod yn berthnasol i'r cwrs.听

Bydd tiwtoriaid yn darllen cannoedd o ddatganiadau ac mae llawer ohonynt yn ddiflas, felly gwnewch un chi'n ddiddorol!听

Pan yn ysgrifennu eich Datganiad Personol UCAS, dylech esbonio pam eich bod eisiau astudio'r pwnc yna rhowch resymau penodol am eich diddordeb yn y cwrs. Dangoswch dystiolaeth o waith ymchwil a gwnewch yn glir eich bod yn paratoi ar gyfer astudio'r cwrs - yn enwedig os yw'n gwrs galwedigaethol neu yn bwnc nad ydych wedi ei astudio o'r blaen. Beth yw eich cynlluniau gyrfa pan fyddwch wedi gorffen y cwrs?听

Dylech gynnwys gwybodaeth am unrhyw swydd berthnasol, lleoliad gwaith neu brofiad gwirfoddol - yn enwedig os yw wedi helpu i ddatblygu sgiliau a rhoi profiad na fyddech yn ei gael drwy'r ysgol neu goleg. Soniwch os ydych wedi mynychu unrhyw ysgolion haf neu ddarlithoedd sy'n gysylltiedig.听

Os ydych yn gwneud cais ar gyfer gwahanol bynciau ar yr un ffurflen, bydd angen i chi esbonio'ch penderfyniadau yn glir neu gallai鈥檙 sefydliadau deimlo nad ydych yn gallu gwneud penderfyniad am eich dyfodol.听

Nid yw cymwysterau academaidd yn unig yn ddigon ar gyfer Tiwtoriaid Mynediad. Maent wrth eu boddau gyda myfyrwyr sydd yn cyflawni pethau tu allan i鈥檙 dosbarth h.y. maent eisiau gwybod beth yw eich diddordebau.

Gallwch gynnwys unrhyw ddiddordebau sydd gennych ac eglurwch, os medrwch, sut y maent yn eich gwneud yn fyfyriwr gwell. Soniwch hefyd am unrhyw grwpiau allgyrsiol yr ydych yn perthyn iddyn nhw.听

Os yn bosib, cofiwch gynnig unrhyw beth sy鈥檔 dangos bod gennych ddiddordeb deallusol am y byd. Nodwch hefyd unrhyw gyfrifoldebau, prawf o hunan anogaeth ac unrhyw rwystrau yr ydych wedi eu trechu a defnyddiwch y rhain i ddangos eich cymeriad a鈥檆h cryfder. Os ydych yn ystyried cymryd blwyddyn allan, esboniwch pam.

Yr uchafswm yw 47 llinell 鈥 tua 500-550 o eiriau, ffont maint 12. Uchafswm yw 4000 nod ac mae hyn yn bylchau yn cyfrif.听听

Y peth cyntaf mae鈥檙 tiwtoriaid yn chwilio amdano yw鈥檙 rheswm pam eich bod eisiau astudio鈥檙 cwrs yr ydych wedi ei ddewis ac felly dyma ddechrau addas i鈥檆h datganiad.听听

OND 鈥 peidiwch 芒 chychwyn y datganiad drwy ddweud 鈥淩wyf wedi bod eisiau astudio鈥檙 cwrs hwn erioed鈥︹澨

Mae鈥檔 bwysig eich bod yn dal sylw'r Tiwtor Mynediad o鈥檙 cychwyn cyntaf. Os oes gennych rhywbeth unigryw i鈥檞 gynnig, dyma lle y dylech chi nodi hynny.听

Canllawiau

Byddwch yn bersonol a phositif heb fod yn ddiflas.

Llun agos o law myfyriwr yn ysgrifennu nodiadau mewn llyfr nodiadau
  • Peidiwch 芒 chychwyn bob brawddeg efo 鈥淩wyf鈥澨
  • Ysgrifennwch yr hyn sy鈥檔 dod yn naturiol i chi听
  • Peidiwch ag ysgrifennu yn rhy gyfarwydd nac yn rhy ffurfiol听
  • Byddwch yn onest - peidiwch 芒听 dweud celwydd听
  • Gorffennwch y datganiad ar nodyn positif听
  • Dangoswch eich datganiad i鈥檆h ffrind neu i ymgynghorydd gyrfaoedd听
  • Gwnewch gop茂au听
  • Cymerwch eich amser, byddwch yn amyneddgar er mwyn ei wneud yn iawn听
  • Ail-ddarllenwch y prospectws a鈥檙 wybodaeth am y cwrs/pwnc cyn cychwyn听
  • Peidiwch ag enwi prifysgolion听
  • Gwnewch yn si诺r fod pob brawddeg yn ychwanegu rhywbeth newydd.听
  • Defnyddiwch yr enghreifftiau mwyaf diweddar ac addas o ddiddordebau a gweithgareddau allgyrsiol.听
  • Byddwch yn bersonol, yn bositif a pheidiwch 芒 bod yn ddiflas听

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?