Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:

Digwyddiadau Rhithiol ac Ar-lein

Dyma rai o’n hawgrymiadau ar sut i ddefnyddio’r we, apiau a chyfryngau cymdeithasol i wneud cysylltiadau â’ch prifysgolion ddewisol.
Ìý

Digwyddiadau ar-lein neu rhithwirÌý

Mae llawer o brifysgolion yn cynnal digwyddiadau ar-lein neu rithwir. Mae'r rhain yn ffordd wych i chi gysylltu â myfyrwyr, darlithwyr a staff eraill a dyma'r peth gorau nesaf i fynychu diwrnod agored. Mae'r mathau hyn o ddigwyddiadau yn amrywio o ddiwrnodau agored rhithwir - sy'n cynnwys dolenni byw, fideos, a theithiau 360 - i ddigwyddiadau sgwrsio byw gyda sesiynau holi ac ateb. Gall y pynciau a drafodir amrywio o wybodaeth am gyrsiau a bywyd myfyriwr i gyllid a llety myfyrwyr.

Dilynwch brifysgolion ar gyfryngau cymdeithasol

Gallwch ddarganfod y newyddion diweddaraf a chadw golwg ar unrhyw wybodaeth bwysig, megis diwrnodau agored sydd ar y gweill, trwy edrych ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol.

MaeÌýInstagram, TikTok a YouTube hefyd yn ffynhonnell ardderchog o bob math o fideos - o fideos myfyrwyr i rai penodol am gyrsiau. Ac edrychwch am luniau a fideos o lleoliad y brifysgol, fel y gallwch weld sut le yw'r campws a'r ardal gyfagos.

Ìý

Sgwrsio â myfyrwyr ar-lein

Mae llawer o brifysgolion yn caniatáu ichi gysylltu â myfyrwyr ar-lein, naill ai ar eu gwefan eu hunain neu trwy'r platfform Unibuddy ar wefan UCAS. Mae myfyrwyr cyfredol yn gwybod yn union sut yr ydych yn teimloÌýa gallant gynnig cyngor gwych ar astudio, bywyd myfyrwyr, llety a llawer mwy.

Mae rhai prifysgolion hefyd yn cynnig llwyfannau Sgwrsio Grŵp Cymunedol. Os byddwch yn gwneud cais i Brifysgol Bangor ac yn cael cynnig lle yma, fe'ch gwahoddir i ymuno â'n cymuned o ymgeiswyr sydd yn dal cynnig ar ein ap Bangor CampusConnect, lle byddwch yn gallu sgwrsio â'n llysgenhadon myfyrwyr a chysylltu â ymgeiswyr eraill.
Ìý

Dewch â'ch holl ymchwil at ei gilydd

Ar ôl i chi orffen eich ymchwil a'ch bod yn hapus â'ch dewisiadau prifysgol a chwrs, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch wedi'i chadw mewn un lle. Yna gallwch ddod â phopeth at ei gilydd a phwyso a mesur eich opsiynau cyn penderfynu ar eich dewisiadau terfynol ar gyfer eich Cais UCAS.