Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Daeth deall sut iÌýfynd i'r afael â materion amgylcheddol megis llygredd, newid yn yr hinsawdd, mae defnyddÌýanghynaliadwyÌýo adnoddau yn un oÌýheriau pwysicaf ein canrif.  Mae angen i ni ddeall sut y gallwn warchod rhywogaethau a'u cynefinoedd yn effeithiol. Mae'r cwrs hwn ynÌýrhoi dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol o'r materion sy'n ymwneud â chadwraeth amgylcheddol. Byddwch yn dysgu sgiliau allweddol sydd eu hangen ar weithwyr proffesiynol cadwraeth i fonitro cynefinoedd a rhywogaethau a sut mae angen i'r rhain ystyriedÌýffactorau cymdeithasol ac economaidd i sicrhau cadwraeth lwyddiannus. ÌýÌý
Mae cadwraeth lwyddiannus ynÌýdibynnu ar ddefnyddio dull rhyngddisgyblaethol. Mae ein staff yn gefnogol, yn gyfeillgar ac yn hawdd mynd atynt ac mae ganddynt amrywiaeth o arbenigeddau sy'n cwmpasu cadwraeth, ecoleg, gwyddorau’r amgylchedd, coedwigaeth, a gwyddorau cymdeithas. Mae'r Ganolfan Cadwraeth ar sail Tystiolaeth, canolfan a gydnabyddir yn fyd-eang am y gwaith yn trosi gwyddor cadwraeth yn bolisi, wedi'i lleoli yma ym Mangor.Ìý
Mae ein lleoliad, rhwng y Fenai a Pharc Cenedlaethol Eryri, yn cynnig cyfleoedd heb eu hail i ddysgu am ecoleg, cadwraeth a'r amgylchedd naturiol y tu allan i’r ddarlithfa.Ìý Mae ein cyrsiau yn llawn o deithiau maes a sesiynau ymarferol.Ìý
Mae gennym gysylltiadau agos â llawer o gyrff cadwraeth lleol yn cynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyfoeth Naturiol Cymru acÌýYmddiriedolaethÌýOrnitholegÌýPrydain sy'n helpu ein myfyrwyr i ddeall ymarfer cadwraeth.Ìý
Mae gennym gysylltiadau ardderchog â sefydliadau cadwraeth ledled y byd. Ar hyn o bryd mae gennym staff a myfyrwyr yn gweithio ym Madagascar, Costa Rica, Colombia, Ghana, Kenya a Bangladesh, er enghraifft.Ìý
Mae'n bosibl cymryd y cwrs naill ai fel gradd tair blynedd neu dros bedair blynedd gyda blwyddyn ar leoliad yn gweithio gyda sefydliad cadwraeth perthnasol yn y Deyrnas Unedig neu dramor.Ìý
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae'r cyflwynydd teledu Steve Backshall bellach yn rhan o'n tîm addysgu.
- Mae ein lleoliad, rhwng y Fenai a Pharc Cenedlaethol Eryri, yn cynnig cyfleoedd heb eu hail i ddysgu am ecoleg, cadwraeth a'r amgylchedd naturiol.Ìý
- Mae gennym gysylltiadau agos â llawer o'r sefydliadau cadwraeth lleol a ledled y byd: Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Ornitholeg Prydain, Parc Cenedlaethol Eryri ac ati. Ar hyn o bryd mae gennym staff a myfyrwyr yn gweithio ym Madagascar, Costa Rica, Indonesia, Bolivia, Kenya a Bangladesh.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Mae'r modiwlau yr ydym yn eu cynnig ar y radd hon yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau addysgu yn amrywio o ddarlithoedd, sesiynau ymarferol a gwaith maes i seminarau a thiwtorialau. Mae'r seminarau a'rÌýtiwtorialau'n canolbwyntio ar ddatrys problemau, datblygu sgiliau astudio ac atgyfnerthu deunydd a addysgir mewn darlithoedd;Ìýmae'r awyrgylch hamddenol ac anffurfiol hefyd yn annog trafodaeth fywiog am faterion cyfoes a dadleuol. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau i asesu gwaith myfyrwyr ac ar gyfartaledd mae'r rhaniad yn 60% gwaith cwrs a 40% arholiad. Mae pob modiwl yn gwneud defnydd helaeth o amgylchedd dysgu rhithiol y brifysgol, sy’n rhoi mynediad uniongyrchol at adnoddau dysgu, dogfennau'r cwrs a nodiadau darlithoedd. Os byddwch yn dewis blwyddyn ar leoliad, byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn yn gweithio gyda sefydliad perthnasol yn magu profiad gyrfa gwerthfawr.Ìý
Byddwch yn astudio 120 credyd bob blwyddyn ar y cwrs hwn, trwy amrywiaeth o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau a gwaith maes. Mae einÌýcyrsiau’n rhai modiwlaidd. Er bod rhai modiwlau’n orfodol, o anghenraid, mae eraill yn ddewisol, gan eich galluogi i ymestyn eich astudiaethau i feysydd newydd neu ddatblygu arbenigeddau sydd o ddiddordeb arbennig i chi.Ìý
Yn y flwyddyn olaf byddwch yn cymryd modiwl gorfodol mewn agweddau dynol ar gadwraeth yn ogystal â dewis o blith amrywiaeth eang o fodiwlau eraill, gan gynnwys ecoleg bywyd gwyllt a chadwraeth, cadwraeth acÌýecsbloetiaethÌýy môr, rheoli uwchdiroedd ac ymdopi â phlaned sy’n newid. Byddwch hefyd yn gweithio gyda goruchwyliwr i gynllunio a chyflawni ychydig o ymchwil gwreiddiol. Mae'r cynllun rheoli - lle mae'r myfyrwyr yn datblygu cynllun ar gyfer ardal o Barc Cenedlaethol Eryri - yn nodwedd unigryw o radd ym Mangor ac yn darparu hyfforddiant proffesiynol gwerthfawr.Ìý Gallwch ddewis fynd ar gwrs maes iÌýTenerifeÌýneu Uganda am wythnos.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cadwraeth Amgylcheddol BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Gwyddorau NaturiolÌý
- Amgueddfa Hanes Naturiol gyda chasgliad eithriadol o gynhwysfawr o ddeunydd fertebratau, sy'n cynnwys casgliad amrywiol o sbesimenau o fertebratau ac infertebratau, yn cynnwys primatiaid.
- Acwaria morol a dŵr croyw helaeth gyda chyfres o ystafelloedd sydd â’u tymheredd wedi ei reoli.Ìý
- Colomendy i wneud ymchwil ar wybyddiaeth, ffisioleg a biomecaneg adar. Ìý
- Gardd Fotaneg Treborth, sy'n 18 hectar o faint ar lannau’r Fenai. Mae'n cynnwys labordy gwreiddiau tanddaearol mwyaf Ewrop (y rhizotron), labordy dysgu, gwelyau gardd ffurfiol, gardd gerrig, gardd goed a chasgliad cadwraeth.Ìý
- Cyfleusterau cnofilod ac ymlusgiaid.Ìý
- Mae fferm y brifysgol sydd wedi ei lleoli yn Henfaes, tua 7 milltir o Fangor ac yn cynnwys cyfanswm o 252 hectar. Mae'n darparu cyfleusterau ymchwil ac addysgu ym maes amaethyddiaeth iseldir, coedwigaeth, hydroleg, gwyddor yr amgylchedd a chadwraeth. Rydym yn cynnal teithiau maes a gallwch gynnal eich arbrawf ar raddfa fawr eich hun ar gyfer eich project.Ìý
- Alpaca, defaid a chychod gwenyn ar fferm y brifysgol yn Henfaes.Ìý
- Rydym ar yr arfordir, ger Môr Iwerddon a’r Fenai, sy’n golygu bod gennym amrywiaeth o wahanol gynefinoedd ar gyfer cyrsiau maes a safleoedd astudio ar gyfer projectau blwyddyn olaf.Ìý
- Cyfleusterau ymlusgiaid pwrpasol, yn cynnwys ystafelloedd nadroedd gwenwynig. Ìý
- Ystafelloedd a reolir yn amgylcheddol ar gyfer gwaith project.Ìý
- Ystafelloedd trychfilod.Ìý
- °ä´Ç±ð³Ù¾±°ù´Ç±ð»å»å.Ìý
- Labordai addysgu ac ymchwil modern mawr, a chanolfan bwrpasol i fyfyrwyr weithio ar eu traethawd hir.Ìý
- Cyfleusterau delweddu.Ìý
- Amrywiaeth fawr iawn o offer dadansoddol, fel y gallwch ddysgu sut i ddadansoddi samplau amgylcheddol yn y maes ac yn y labordy.Ìý
- Ein casgliad daeareg ein hunain - sydd gyda’r gorau yn y wlad.ÌýÌý
- Labordai cyfrifiadurol i ddatblygu eich sgiliau mewn meysydd allweddol fel mapio digidol a modelu amgylcheddol.Ìý
- Llyfrgell goed.
- Labordai ymchwil amgylcheddol pwrpasol.
- Un o'n cyfleusterau gorau yw'r amgylchedd sydd ar garreg ein drws - cewch gyfle i ymweld â llawer wahanol leoedd ar ein teithiau maes, a fydd yn cadarnhau eich dysgu a'ch dealltwriaeth o bynciau.Ìý Ìý
- Defnyddir ein labordai biolegol, cemegol ac amgylcheddol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau addysgu a dysgu. Mae gennym labordai ymchwil penodol wedi eu lleoli yng Nghanolfan yr Amgylchedd Cymru, sy'n cynnwys labordy isotopau radio a sefydlog, labordy pathogenau categori 2, ystafell ficrosgop dywyll, labordai paratoi samplau a labordy gydag offer dadansoddol pwrpasol.Ìý
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: GanÌýgynnwys gradd C mewn pwnc gwyddonol ar lefel A2 (e.e. Bioleg,ÌýDaearyddiaeth, Daeareg, Gwyddorau/Astudiaethau'r Amgylchedd,ÌýCemeg, Ffiseg,ÌýMathemateg, Economeg, Ystadegau, Seicoleg). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Sgiliau Allweddol.Ìý
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys H5 mewn pwnc gwyddonol)
- Mynediad: Cwrs Mynediad Gwyddonol/Amgylcheddol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM-DDM mewn pwnc perthnasol (e.e. Rheolaeth Cefn Gwlad, GwyddoniaethÌýGymhwysol, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, neu Reolaeth Anifeiliaid)
- Diploma Technegol Estynedig Uwch City & Guilds (1080): DMM-DDM mewn pwnc perthnasol (e.e. Rheolaeth Cefn Gwlad, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, Rheolaeth Tir a Bywyd Gwyllt)
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol neu Sgiliau Labordy**: DMM-DDM
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: GanÌýgynnwys gradd C mewn pwnc gwyddonol ar lefel A2 (e.e. Bioleg,ÌýDaearyddiaeth, Daeareg, Gwyddorau/Astudiaethau'r Amgylchedd,ÌýCemeg, Ffiseg,ÌýMathemateg, Economeg, Ystadegau, Seicoleg). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Sgiliau Allweddol.Ìý
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys H5 mewn pwnc gwyddonol)
- Mynediad: Cwrs Mynediad Gwyddonol/Amgylcheddol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM-DDM mewn pwnc perthnasol (e.e. Rheolaeth Cefn Gwlad, GwyddoniaethÌýGymhwysol, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, neu Reolaeth Anifeiliaid)
- Diploma Technegol Estynedig Uwch City & Guilds (1080): DMM-DDM mewn pwnc perthnasol (e.e. Rheolaeth Cefn Gwlad, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, Rheolaeth Tir a Bywyd Gwyllt)
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol neu Sgiliau Labordy**: DMM-DDM
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae graddedigion y rhaglen hon wedi mynd ymlaen i fod yn rheolwyr cadwraeth neu amgylcheddol yn y DU a thramor yn ogystal â mynd ymlaen i astudiaethau pellach neu wneud ymchwil neu hyfforddi fel athrawon.ÌýÌý
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Gwyddor yr Amgylchedd (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý