Blwyddyn Profiad Rhyngwladol (Gwaith)
Mae'r opsiwn hon yn rhoi'r hyblygrwydd a'r rhyddid i chi wneud lleoliad gwaith neu interniaeth dramor mewn maes yr hoffwch weithio ynddo, a mewn bron unrhyw wlad.
Ar y rhaglen hon, byddwch yn ychwanegu blwyddyn at eich cwrs ac yn treulio'r flwyddyn ychwanegol yn gwneud lleoliad gwaith dramor. Fel rheol, gallwch wneud hyn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd - rhwng eich blwyddyn cyntaf a'ch ail blwyddyn, rhwng eich ail blwyddyn a'ch trydedd blwyddyn, neu ar ôl eich trydedd blwyddyn. Mae myfyrwyr ar y mwyafrif o gyrsiau is-radd yn gymwys i ymgeisio am yr opsiwn hon ond mae rhai eithriadau, a mae rhai cyrsiau gradd yn galluogi i fyfyrwyr gymryd yr opsiwn ar adeg penodol yn unig (e.e. ar ôl eu blwyddyn olaf).
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys i gael arian Cyllid Myfyrwyr, er mae'n debyg bydd y swm yn llai. Mae Cyllid Myfyrwyr hefyd yn cynnig sy'n dibynnu ar brawf modd i fyfyrwyr sy'n gymwys.
Ar ôl i chi gwblhau'r Blwyddyn Profiad Rhyngwladol yn llwyddiannus, ychwanegir y geiriau 'gyda Phrofiad Rhyngwladol' at deitl eich gradd. Mae rhaid i chi gwblhau aseiniad gwerth 30 credyd Bangor yn ystod eich cyfnod dramor. Ni fydd y marc ar gyfer yr aseiniad yn cyfri tuag at eich gradd ond bydd y credydau'n cael eu hychwanegu at eich llwyth credydau arferol (fel rheol 360 credyd).
Mae rhaid i chi ddod o hyd i'ch lleoliad gwaith neu interniaeth eich hun ond gallwn eich cynghori ar sut i ddod o hyd i waith a chysylltu â cyflogwyr posib. Dim ond nifer bychan o ofynnion mae rhaid i'r lleoliad ei gyflawni:
- Mae rhaid i'r lleoliad gwaith fod o leiaf 24 wythnos o hyd (mae unrhyw gyfnodau gwyliau'n ychwanegol)
- Dylai'r gwaith for yn llawn-amser (yn gyfatebol i'r math o waith)
- Mae rhaid i'r lleoliad gwaith fod mewn cwmni (h.y. nid gyda theulu'n gofalu am blant, nid ar fferm, etc.)
Y mantais dros wneud Blwyddyn Profiad Rhyngwladol (Gwaith) ydy y gallwch greu cyfle pwrpasol sy'n siwtio'ch anghenion a'ch dymuniadau chi. Mae rhai myfyrwyr yn dewis gwneud lleoliad gwaith sy'n rhoi profiad gwaith iddynt mewn maes yr hoffent weithio ynddi ar ôl graddio. Mae rhai eraill yn dewis gwaith nad ydy'n ymwneud â pwnc eu gradd ond sydd yn dal i fod yn fanteisiol iddynt yn academaidd neu'n broffesiynol. Mae rhai yn dewis mynd i leoliad egsotic fel y Caribi, a mae rhai eraill yn dewis aros yn agosach at gartref yn Ewrop. Eich dewis chi ydy hi, ond cynghorwn i chi siarad â ni ynglŷn â'ch opsiynau cyn ymgeisio. Nodwch nad oes rhaid i chi fod wedi trefnu lleoliad gwaith cyn i chi ymgeisio ar gyfer y Blwyddyn Profiad Rhynglwadol (Gwaith).
Blwyddyn Profiad Rhyngwladol (Astudio)
Ar y rhaglen hon, byddwch yn ychwanegu blwyddyn at eich cwrs ac yn treulio'r flwyddyn ychwanegol yn astudio yn un o'n prifysgolion partner dramor. Fel rheol, gallwch wneud hyn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd - rhwng eich blwyddyn cyntaf a'ch ail blwyddyn, rhwng eich ail blwyddyn a'ch trydedd blwyddyn, neu ar ôl eich trydedd blwyddyn. Mae myfyrwyr ar y mwyafrif o gyrsiau is-radd yn gymwys i ymgeisio am yr opsiwn hon ond mae rhai eithriadau, a mae rhai cyrsiau gradd yn galluogi i fyfyrwyr gymryd yr opsiwn ar adeg penodol yn unig (e.e. ar ôl eu blwyddyn olaf).
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys i gael arian Cyllid Myfyrwyr, er y gall y swm fod yn llai. Mae Cyllid Myfyrwyr hefyd yn cynnig sy'n dibynnu ar brawf modd i fyfyrwyr sy'n gymwys.
Ar ôl i chi gwblhau'r Blwyddyn Profiad Rhyngwladol yn llwyddiannus, ychwanegir y geiriau 'gyda Phrofiad Rhyngwladol' at deitl eich gradd. Mae rhaid i chi basio'r cyfwerth o 30 credyd Bangor yn eich prifysgol derbyn dramor. Ni fydd y marciau'n cyfri tuag at eich gradd ond bydd unrhyw gredydau rydych yn eu pasio'n trosglwyddo i Fangor ac yn cael eu hychwanegu at eich llwyth credydau arferol (fel rheol 360 credyd).
Cliciwch ar Ein Prifysgolion Partner i ddod o hyd i lle gallwch chi wneud Blwyddyn Profiad Rhyngwladol (Astudio), ond cadwch mewn cof y gall y rhestr newid ar fyr-rybudd a na fydd llefydd cyfnewid ar gael ym mhob un o'n prifysgolion partner ym mhob blwyddyn academaidd.
Mae modiwlau mewn nifer eang o bynciau ar gael yn ein prifysgolion partner ond nid yw pob un yn cynnig yr un pynciau â Bangor. Gallwch astudio pwnc gwahanol i'ch cwrs gradd ar y Blwyddyn o Brofiad Rhyngwladol (Astudio) ond dylech bob tro wirio safle we'r brifysgol partner cyn ymgeisio i fynd yno er mwyn sicrhau eu bod yn cynnig unrhyw bwnc penodol. Cytundebau ar gyfer un pwnc penodol ydy'r cytundebau gyda rhai o'n prifysgolion partner rhyngwladol a phob un o'n prifysgolion partner yn Ewrop. Golygai hyn y byddwch yn cael eich cyfyngu i'r pwnc penodol sy'n gysylltedig â'r bartneriaeth hwnnw'n unig. Er enghraifft, gallwn ddanfon myfyrwyr Coedwigaeth yn unig at UBC yn Vancouver.
Mae modiwlau sy'n cael eu dysgu drwy gyfrwng y Saesneg ar gael yn y mwyafrif o'n prifysgolion partner sydd mewn gwledydd lle nad ydy Saesneg yn iaith gynhenid, ond mae'r dewis yn aml yn gyfyngedig a ceir myfyrwyr y cyfle weithiau i ddysgu'r iaith gynhenid mewn dosbarthiadau i ddechreuwyr.
Cynghorwn i chi siarad â ni ynglŷn â'ch opsiynau cyn ymgeisio.
Blwyddyn Profiad Rhyngwladol (Interniaeth yn y Ganolfan Addysg Rhyngwladol)
Os hoffech gael profiad rhyngwladol heb fynd dramor, gallwch ymgeisio i wneud interniaeth gyda ni yn y Ganolfan Addysg Rhyngwladol. Basech yn dal i fod yn fyfyriwr cofrestredig yma ym Mangor ar y rhaglen 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' ond basech yn cael eich lleoli gyda ni yn lle bod dramor. Yn gyffredinol, basem yn recriwtio pedwar intern yn y meysydd isod:
- Cyfnewidiadau Rhyngwladol
- Recriwtio Rhyngwladol
- Marchnata Rhyngwladol, a
- Recriwtio/Marchnata Rhyngwladol (yn swyddfa Prifysgol Bangor yn Beijing, Tsieina)
Mae interniaid yn derbyn grant hyfforddi o tua £370 y mis a'n gweithio gyda ni am flwyddyn gyfan.
Ysgol Haf
Os hoffech dreulio amser byr yn unig dramor, gallwch ymgeisio i gymryd rhan mewn Ysgol Haf Rhyngwladol yn un o'n prifysgolion partner. Rhaglenni diwylliannol rhwng 2 a 6 wythnos o hyd yw'r rhain. Ar hyn o bryd, mae tair Ysgol Haf Rhyngwladol ar gael a gallwch ddarganfod mwy o fanylion amdanynt isod. Mae ffioedd y rhaglen a'r llety'n cael eu hepgor ar gyfer myfyrwyr Bangor ym mhob un o'r rhain.
Dankook University (canol mis Mehefin hyd at ddechrau mis Awst)
Cynnigir DKU brofiad diwylliannol ac academaidd tair wythnos o hyd i'ch cyflwyno i amryw o agweddau o Dde Korea'n cynnwys iaith, hanes a thraddodiad drwy ddosbarthiadau, gweithgareddau grŵp a theithiau maes. Mae llety am ddim a cewch ad-daliad am gost eich awyren hyd at US$1,000 os y cewch eich derbyn hefyd ar raglen 'English Village' Dankook, lle byddwch yn dysgu Saesneg i fyfyrwyr o Dde Korea am dair wythnos cyn ddechrau'r rhaglen diwylliannol.
Pukyong National University (mis Gorffennaf)
Cynnigir PKNU raglen tair wythnos o hyd yn ymwneud â diwylliant a iaith De Korea gyda amryw o ddosbarthiadau, gweithgareddau grŵp a theithiau maes. Mae llety am ddim ond rhaid i chi dalu eich costau teithio.
Sydney Institute of Language and Commerce, Shanghai University (mis Gorfennaf)
Rhaglen pythefnos o hyd ydy Ysgol Haf SILC Prifysgol Shanghai sy'n canolbwyntio ar agweddau economaidd a busnes Tsieina, ond sydd hefyd yn cynnwys gweithgareddau diwylliannol a dosbarthiadau ar y cyd gyda myfyrwyr gwirfoddol o Shanghai. Mae llety wedi'i rhannu rhwng dau o bobl am ddim ond rhaid i chi dalu eich costau teithio. Nid oes rhaid i chi fod yn fyfyriwr Busnes ym Mangor i drio am y cyfle hwn. Mae digon o fyfyrwyr o bynciau eraill wedi cymryd rhan.
Lleoliad Amgen
Gall myfyrwyr ar rhai cyrsiau ymgeisio i fynd dramor ar leoliad Amgen. Nid yw pob myfyriwr yn gymwys. Er enghraifft, ni fedrith myfyrwyr sydd ar gyrsiau gradd sy'n cael eu hachredu gan gorff allanol fel Cymdeithas y Cyfreithwyr neu Gymdeithas Seicolegol Prydain ymgeisio. Rhaid i chi fod yn eich blwyddyn cyntaf i ymgeisio i fynd dramor ar y rhaglen hwn oherwydd y byddech yn treulio semester o'ch ail-blwyddyn, neu eich ail blwyddyn cyfan, yn astudio yn un o'n prifygolion partner dramor yn lle ym Mangor.
Rhaid i chi basio eich asesiadau a'ch arholiadau i gyd yn y brifysgol derbyn dramor er mwyn trosglwyddo cyfwerth 60 credyd Bangor ar gyfer lleoliadau un-semester, neu 120 credyd Bangor ar gyfer lleoliadau blwyddyn, yn ôl i Fangor i gymryd lle credydau eich ail blwyddyn. Gallwn dim ond eich danfon at brifysgolion partner sy'n cynnig modiwlau digon cyffelyb i'r rhai y basech wedi eu cymryd yn yr ail flwyddyn ym Mangor, a mae hyn yn cyfyngu ar lle gallwch chi fynd. Mewn rhai achosion, nid oes unrhyw un o'n prifysgolion partner yn cynnig modiwlau priodol i fyfyriwr gael ymgeisio i wneud lleoliad Amgen.
Gall astudio mewn system academaidd anghyfarwydd dramor, cael meini prawf mwy llym mewn rhai llefydd a'n aml cael dewis cyfyngedig o fodiwlau wneud cymryd rhan mewn lleoliad Amgen fod yn risg, felly rhaid i chi siarad â ni a'r Cydlynnydd Astudio Dramor yn eich ysgol academaidd i drafod eich opsiynau a phenderfyny a fydd y cyfle o fantais i chi'n academaidd. Cynghorwn i chi siarad hefyd â'ch tiwtor personol cyn ymgeisio. Rhaid i chi fod yn gry'n academaidd a chael cefnogaeth llawn eich ysgol academaidd i gael eich dewis i wneud lleoliad Amgen.
Nodwch na fydd y geiriau 'gyda Phrofiad Rhyngwladol' yn cael eu hychwanegu at deitl eich gradd drwy wneud lleoliad Amgen. Mae rhaid i chi gyrmyd rhan mewn Blwyddyn o Brofiad Rhyngwladol (Astudio neu Waith) i gael hyn.