Paratoi ar gyfer y dyfodolÂ
Mae profiad gwaith yn holl bwysig i sicrhau swydd raddedig yn y dyfodol. I roi hwb i'ch cyflogadwyedd, gallwch ddewis gwneud lleoliad gwaith fel rhan o bron pob un o’n graddau israddedig. Gall lleoliadau fod yn flwyddyn o hyd (rhwng blynyddoedd 2 a 3), tri mis neu bythefnos o hyd.
Pam gwneud Blwyddyn Lleoliad?
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau newydd. Yn ystod y lleoliad, byddwch yn gweithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd a chewch gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaethau Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Cewch bersbectif gwahanol ar eich pwnc a gwneud cysylltiadau hynod ddefnyddiol mewn byd gwaith. Pan fyddwch wedi cwblhau’r lleoliad, rydych yn siwr o ddychwelyd i Fangor yn fwy brwdfrydig, annibynnol a hyderus.