Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Er mwyn paratoi myfyrwyr at ein graddau ³Ò·É²â»å»å´Ç°ùÌýµþ¾±´Ç´Ú±ð»å»å²â²µ´Ç±ôÌý²¹ÌýGwyddorau Meddygol, mae ein Blwyddyn Sylfaen yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol, ond hanfodol, o egwyddorion biolegol a chemegol y maes. Yn ystod eich blwyddyn sylfaen, yn ogystal ag ennill sgiliau labordy ymarferol a datblygu sgiliau academaidd, cewch sylfaen drylwyr mewn amrywiol bynciau sy'n sail i raddau ym maes y gwyddorau meddygol. Mae'n gwrs delfrydol os oes gennych ddiddordeb mewn Gwyddorau Biomeddygol a Gwyddorau Meddygol, neu awydd dilyn gyrfa gysylltiedig, ond nid oes gennych gefndir gwyddonol angenrheidiol ar hyn o bryd i ddilyn y rhaglenni tair blynedd.
Caiff y Flwyddyn Sylfaen hefyd ei chynllunio i baratoi myfyrwyr at y rhaglenni gradd israddedig eraill, B100 Gwyddorau Meddygol, a'r posibilrwydd i drosglwyddo i un o'r rhaglenni hynny, yn amodol ar lwyddo yn y Flwyddyn Sylfaen.
Mae’r Gwyddorau Biomeddygol yn cwmpasu amrywiol bynciau sy’n sail i ymchwil wyddonol i iechyd ac afiechyd dynol.  Pwrpas y cwrs yw rhoi dealltwriaeth i chi o fioleg afiechyd, gan gynnwys cysyniadau a chymwysiadau modern y gwyddorau biomeddygol o ran ymchwilio, diagnosis, a thriniaethau ar gyfer anhwylderau clinigol.  Cewch eich annog a’ch cefnogi i ddysgu am y gwyddorau biolegol craidd er mwyn datblygu sgiliau mewn disgyblaethau biomeddygol mwy arbenigol, sef biocemeg glinigol, patholeg y gell, haematoleg a microbioleg feddygol.Ìý
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae staff gwyddonol a chlinigol ysbytai’r gogledd yn ymwneud â phob agwedd ar y dysgu. Bydd cyflwyniadau gwadd gan gwmnïau diagnostig rhyngwladol.
- Mae ymchwil wyddonol flaengar yn rhan annatod o'n rhaglenni ymchwil, ac yn treiddio i’n hamgylchedd dysgu. Mae ein harbenigedd yn cynnwys cynllunio cyfryngau therapiwtig newydd, ymchwilio i fecanweithiau sy'n rheoli carsinogenesis, astudio'r prosesau moleciwlaidd sy'n sail i ddiffygion geni a datblygu dulliau newydd o reoli clefydau trofannol.
- Cafodd gradd y Gwyddorau Biomeddygol ei hachredu gan Sefydliad y Gwyddorau Biomeddygol (IBMS)Â
- Caiff graddedigion arbenigo mewn un o blith nifer o ddisgyblaethau labordy yn y Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys Microbioleg Feddygol, Biocemeg Glinigol, Patholeg y Gell, Imiwnoleg, Haematoleg a Gwyddor Trallwysiad, neu ddilyn gyrfa mewn amryw o amgylcheddau meddygol, diagnostig ac ymchwil. Â Â
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn dilyn modiwlau sy’n werth 120 credyd bob blwyddyn a gaiff eu dysgu trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys darlithoedd, seminarau a sesiynau ymarferol mewn labordai. Mae’r modiwlau’n fwy arbenigol wrth i chi fynd trwy’r radd a nifer y modiwlau gorfodol yn amrywio o’r naill flwyddyn i’r llall.  Bydd yr asesu trwy gymysgedd o arholiadau, adroddiadau labordy ymarferol, gwaith cwrs a chyflwyniadau, gan gynnwys y prosiect ymchwil yn y flwyddyn olaf. Mae modiwlau cyfrwng Cymraeg ar gael hefyd, a gall y myfyrwyr ddewis tiwtor Cymraeg a chyflwyno gwaith yn Gymraeg neu Saesneg.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Pwrpas modiwlau'r Flwyddyn Sylfaen yw cynyddu eich hunanhyder, gwella'ch gwybodaeth bwnc, a thanio'ch brwdfrydedd dros y gwyddorau meddygol. I'r perwyl hwnnw byddwch yn dilyn modiwlau sy'n cwmpasu'r egwyddorion biolegol a chemegol hanfodol sy’n sail i'r hyn a ddysgwch at y dyfodol, gan gynnwys pynciau fel bioleg y gell, imiwnoleg, a bondiau moleciwlaidd. Bydd modiwlau sgiliau’n sicrhau bod gennych gefndir sylfaenol mewn rhifedd a'r arbenigedd academaidd i drafod heriau’r rhaglen radd. Bydd y sesiynau labordy’n datblygu eich sgiliau ymarferol a chewch eich dysgu i weithio'n ddiogel, yn fanwl ac yn gywir mewn labordy proffesiynol.
Yn y blynyddoedd dilynol, byddwch yn dilyn yr un modiwlau â B102 Gwyddor Biofeddygol neu B100 Gwyddorau Meddygol gan ddibynnu ar y brif radd a dewiswch.Ìý
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn gyffredin i bob un o'r tair gradd sy'n gyfle i chi ddewis un o'r graddau eraill (yn amodol ar feini prawf cymhwysedd). Cynlluniwyd y rhaglenni i roi dewis i chi ddilyn llwybr gradd gwahanol naill ai ar ôl eich blwyddyn sylfaen neu ar ôl blwyddyn un, cyn ymrwymo i un o'r llwybrau gradd yn eich ail flwyddyn.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Gwyddor Biofeddygol (gyda Blwyddyn Sylfaen) BSc (Anrh) .
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Gwyddorau Meddygol
- Mae gennym gyfres o labordai a adnewyddwyd yn ddiweddar yn Adeilad Brambell. Mae'r rhan fwyaf o'n gwaith labordy yn digwydd yn labordai A1, B1 a C4, sydd â systemau clyweled o'r radd flaenaf i'ch galluogi i ddilyn yn fanwl yr hyn sy'n cael ei arddangos.ÌýMae gennym hefyd labordy arbenigol Cat 2 a ddefnyddir ar gyfer gwaith gydag asiantau  biolegol risg ganolig a pheryglon, ac organebau a addaswyd yn enetig.
- Byddwch yn defnyddio ystod o offer wrth weithio yn y labordai hyn, gan gynnwys: cloriannau, allgyrchyddion, sbectromedrau ac offer arbenigol.
- Efallai y gall myfyrwyr sy’n gwneud prosiect ymchwil eu blwyddyn olaf elwa ar arbenigedd a chyfleusterau eang Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin. Ar wahân i offer labordy hanfodol (allgyrchyddion, deoryddion, ac ati), mae offer o'r radd flaenaf ar gael yn cynnwys microsgopau cydffocal, cytomedr llif a robot sgrinio trwybwn uchel. Mae’n bosib hefyd defnyddio cyfleusterau sbectrometreg màs a dilyniannu DNA trwybwn uchel ac ati.
- Bydd ein cyfleusterau newydd ar anatomi dynol yn barod erbyn 2022, a byddant yn ymgorffori technoleg flaengar fel bwrdd , sef y bwrdd dyrannu rhithiol cyntaf yn y byd. Rhagwelwn y caiff ei ddefnyddio gan israddedigion BMedSci Gwyddorau Meddygol yn ogystal â myfyrwyr ar ein cwrs MA Cynorthwywyr Meddygon a’r rhaglen radd Meddygaeth C21 Gogledd Cymru i raddedigion (a gyflwynir yn gyfan gwbl yng ngogledd Cymru gan Brifysgol Bangor mewn partneriaeth ag Ysgol Feddygol Caerdydd).
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Â
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 48 - 96 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefelau A (gan gynnwys: Safonau UG, Astudiaethau Cyffredinol)
- Bagloriaeth Ryngwladol
- Cymhwyster Project Estynedig
- Derbynnir Diplomâu a Thystysgrif BTECÂ
- Derbynnir Diplomâu a Thystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Derbynnir Diploma Estynedig Uwch City & Guilds
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Scottish Higher
- Derbynnir Tystysgrif Gadael Ysgol Iwerddon
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Caiff myfyrwyr aeddfed a/neu'r rheini â chymwysterau eraill eu hystyried yn ôl teilyngdod unigol
*Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir.
Myfyrwyr Rhyngwladol: Derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol).ÌýI wybod mwy ewch i'r dudalen yma.Ìý
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 64 - 112 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefelau A (gan gynnwys: Safonau UG, Astudiaethau Cyffredinol)
- Bagloriaeth Ryngwladol
- Cymhwyster Project Estynedig
- Derbynnir Diplomâu a Thystysgrif BTECÂ
- Derbynnir Diplomâu a Thystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Derbynnir Diploma Estynedig Uwch City & Guilds
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Scottish Higher
- Derbynnir Tystysgrif Gadael Ysgol Iwerddon
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Caiff myfyrwyr aeddfed a/neu'r rheini â chymwysterau eraill eu hystyried yn ôl teilyngdod unigol
*Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir.
Myfyrwyr Rhyngwladol: Derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol).ÌýI wybod mwy ewch i'r dudalen yma.Ìý
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌý²¹dran Astudio ym Mangor.ÌýÂ
Gyrfaoedd
Mae ein Blwyddyn Sylfaen yn eich galluogi i gael mynediad i’n rhaglenni BSc Gwyddorau Biomeddygol, BMedSci Gwyddorau MeddygolÌý²¹ BSc Bioleg Feddygol (yn amodol ar fodloni gofynion penodol y rhaglen), gyda'ch penderfyniad terfynol yn cael ei wneud cyn dechrau'r ail flwyddyn.
Gyda gwybodaeth wyddonol integredig a sgiliau allweddol fel cloriannu beirniadol, cyfathrebu a datrys problemau, mae gan ein graddedigion gyfleoedd gwych am swyddi mewn meysydd sy'n seiliedig ar y gwyddorau meddygol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae ein cyn-fyfyrwyr wedi dilyn gyrfaoedd yn y diwydiant fferyllol, ymchwil feddygol, gwyddor bwyd, iechyd y cyhoedd, y lluoedd arfog, y proffesiwn addysgu, a gwyddoniaeth fforensig, i enwi ond ychydig o'r nifer o opsiynau sydd ar gael.
Anogwn a chefnogwn interniaethau a phrofiad gwaith yn ystod eich gradd, i'ch helpu chi ennill dealltwriaeth o fyd gwaith a rhoi mantais gystadleuol i chi. Cewch gyfle i fynd ar leoliadau gwaith byr (dros wyliau’r haf) neu leoliadau 'rhyngosod' am flwyddyn, ar ein holl raglenni gradd. Mae gan lawer o'n myfyrwyr ddiddordeb mewn gyrfaoedd clinigol ac ânt i ddilyn hyfforddiant ôl-radd i ddod yn Gynorthwywyr Meddygon, Radiograffwyr, Parafeddygon, Ffisiotherapyddion, a gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd. Bydd myfyrwyr sydd am ddilyn gyrfa ymchwil uwch yn y byd academaidd neu mewn diwydiant, mewn sefyllfa ddelfrydol i gyflawni rhaglenni MSc a PhD ac ar gyfer swyddi ymchwil yn y Gwasanaeth Iechyd (gan gynnwys Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr y GIG). Mae graddedigion BMedSci diweddar wedi mynd ymlaen i wneud cyrsiau MSc Gwyddorau Cardiofasgwlar, Niwroddelweddu, Seicoleg, Rheoli Clefydau Heintus a Hybu Iechyd.Ìý
Mae llawer o'n graddedigion gwyddorau biomeddygol yn dilyn gyrfaoedd yn labordai patholeg y GIG, gan helpu ein gwasanaeth iechyd gyda diagnosis cleifion. Mae ein hachrediad IBMS yn helpu i’w paratoi at waith cyflym a diddorol mewn labordy patholeg modern a’r disgyblaethau'n amrywio o drefnu trallwysiadau gwaed i ganfod heintiau firaol mewn cleifion.
Ar ôl cwblhau gradd BMedSci yn llwyddiannus, mae myfyrwyr uchel eu cyflawniad yn gymwys i wneud cais am Raglen Meddygaeth Mynediad i Raddedigion pedair blynedd Prifysgol Caerdydd (MBBCh).  Gall myfyrwyr cymwys wneud cais i astudio Meddygaeth yng Nghaerdydd, neu aros ym Mangor ar gyfer gradd MBBCh 4 blynedd. Gweler Tudalen cwrs MBBCh C21 Meddygaeth Mynediad i Raddedigion y Gogledd am fwy o wybodaeth. Noder, i wneud cais am y rhaglen honno rhaid cyflawni holl feini prawf ychwanegol Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys ymhlith pethau eraill, TGAU a lefel A penodol a chwblhau'r arholiad mynediad yn llwyddiannus (GAMSAT).
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.