Ym Mhrifysgol Bangor fe gewch brofiad trawsnewidiol a chefnogol.聽
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o brofiadau 'ymarferol' yn y labordy ac yn yr amgylchedd hyfforddi. Mae gennym 40 mlynedd o brofiad a chwricwlwm dan arweiniad ymchwil, sy'n ymdrin 芒 phynciau craidd Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer sef ffisioleg, seicoleg, ymarfer corff, iechyd a meddygaeth, biomecaneg a hyfforddi effeithiol. Mae'r arbenigedd sydd gennym ynghyd ag haddysgu o ansawdd uchel yn golygu y byddwn yn eich helpu i gael y canlyniad gorau posibl yn eich gradd.聽聽
Byddwn hefyd yn eich helpu i feithrin yr wybodaeth a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i ddilyn gyrfa ym maes chwaraeon, ymarfer corff ac antur, sy'n farchnad twf.
Mae ein strategaeth cyflogadwyedd yn seiliedig ar bedair colofn: (i) cydweithredu 芒 chyflogwyr i nodi'r cymwyseddau allweddol yn y sector chwaraeon, iechyd ac ymarfer corff (ii) ymgorffori a datblygu'r cymwyseddau allweddol hyn yn ein cwricwlwm (iii) darparu profiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli fel y gall myfyrwyr drosglwyddo gwybodaeth i ymarfer a (iv) rydym yn parhau i gefnogi ein myfyrwyr yn ystod a thu hwnt i raddio gyda staff academaidd ymroddedig, ein gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd a'n t卯m cysylltiadau cyn-fyfyrwyr.
Rydym yn falch o'r dangosyddion ansawdd allanol ac annibynnol hyn, ond mae ein myfyrwyr yn aml yn dweud wrthym mai'r hyn y maen nhw yn ei werthfawrogi mewn gwirionedd yw bod yn rhan o amgylchedd bach, cyfeillgar a chael llawer o amser cyswllt gyda staff. Ym Mhrifysgol Bangor byddwch yn astudio yn un o adrannau Gwyddorau Chwaraeon gorau'r Deyrnas Unedig, sy'n arbenigo mewn:
- Perfformiad chwaraeon el卯t
- Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Lles
- Gwyddorau Chwaraeon Antur
- Addysg Gorfforol
- Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer
Rydym yn darparu ymchwil arloesol o'r radd flaenaf i'r marchnadoedd Chwaraeon ac Ymarfer ac mae hynny'n llywio ein cwricwlwm yn uniongyrchol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael eich dysgu am y cynnwys mwyaf diweddar a chyffrous yn ystod eich cwrs gradd, a hynny'n defnyddio'r dulliau mwyaf arloesol posibl.
Trwy gydol eich gradd, cewch gymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil cyffrous a blaengar. Enghraifft o hynny yw taith i'r Himalayas yn Nepal lle bu ein gr诺p Ymchwil Eithafion yn astudio sut mae pobl yn ymateb ac yn addasu eu perfformiad mewn amgylcheddau eithafol.聽 Mae'r Sefydliad Seicoleg Perfformiad El卯t hefyd wedi bod yn arwain ar ymchwil gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr ac UK Sport i lywio eu rhaglenni adnabod a datblygu talent.
Os hoffech gael profiad mewn gwlad arall, mae ein Blwyddyn Profiad Rhyngwladol yn gadael ichi astudio dramor fel rhan o'ch gradd gwyddorau chwaraeon. Yn y gorffennol mae myfyrwyr wedi bod i UDA (Iowa, Maine a Gorllewin Florida), Awstralia a Chanada.聽
Ar y rhan fwyaf o'n cyrsiau gradd, gallwch hefyd ddewis treulio blwyddyn ar leoliad gwaith, sy'n eich galluogi i weithio gydag arbenigwyr mewn maes sy'n berthnasol i'ch gradd ac i'ch gyrfa yn y dyfodol.
Mae pob aelod o'n staff yn gwneud ymchwil ac yn gweithio gyda pherfformwyr chwaraeon ac arbenigwyr meddygol ar y lefelau uchaf yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd.聽 Mae arbenigedd o'r fath yn golygu bod gennym gysylltiadau cryf yn y sectorau perfformiad chwaraeon ac iechyd ar y lefelau uchaf. Mae'r ethos ymchwil hwn yn greiddiol o ran meddwl yn feirniadol i ansawdd uchel a beth a sut y byddwch yn ei ddysgu.聽
Byddwch yn datblygu sgiliau i lunio cwestiynau blaengar eich hun ac yn cael eich arfogi i gynllunio dulliau i ateb y cwestiynau hyn. Yn syml, byddwch yn cael y sgiliau y bydd arnoch eu hangen i feddwl a gweithio'n annibynnol, ynghyd 芒'r wybodaeth a'r hyder i barhau i ddysgu ac arwain ar ddatblygu gwybodaeth ar 么l graddio. Dyma enghreifftiau o bwy yr ydym yn gweithio ochr yn ochr 芒 nhw:
- GIG
- British Psychological Society
- Bwrdd Criced Cymru a Lloegr
- UK Sport
- English Institute of Sport
- Rugby Football Union
- Y Weinyddiaeth Amddiffyn
- British Gymnastics
- Manchester City FC
- Outlook Expeditions
- Rygbi Gogledd Cymru
- MENCAP
- Adventure Parc Snowdonia
- Camu i'r Copa
- Codi Pwysau Cymru
- Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru
- Canolfan Awyr Agored Conwy
- GB Triathlon
- Swim England
- GB Hockey
- GB Rowing
- British Canoeing
- RYA Cymru
- Yr Awyrlu Brenhinol
- UK Deaf Sport
- England Athletics
Rydym wedi ein lleoli mewn adeilad hardd sy'n adeilad rhestredig Gradd II ar lannau'r Fenai ac mewn ardal sy'n angerddol am chwaraeon ac iechyd. Yn ogystal 芒 thraethau, mynyddoedd, llynnoedd a choedwigoedd cyfagos ym Mharc Cenedlaethol Eryri, bydd gennych fynediad at labordai lle ceir offer o'r radd flaenaf ar gyfer ffisioleg a seicoleg chwaraeon ac ymarfer, rheolaeth a dygsu echddygol, a dadansoddi symudiadau gan gynnwys:
- Labordy addysgu 拢1M
- siambr uchder (hypocsia)
- sawl labordy dadansoddi symudiad 3D
- sganiwr amsugnofetreg pelydr-x ynni-deuol (DXA)
- labordai profion ymarfer ac adfer
- siambr amgylcheddol
- ystafelloedd profion seicoleg, seicoechddygol a seicoffisioleg
- labordai bioleg celloedd a biocemeg
Mae gradd o Brifysgol Bangor yn golygu y bydd gennych radd chwaraeon o un o'r prifysgolion gwyddorau chwaraeon 'gwreiddiol' ac un o'r mwyaf blaenllaw yn y Deyrnas Unedig. Gallwch hefyd fanteisio ar ein rhaglenni cyflogadwyedd penodol a'n lleoliadau gwaith i'ch helpu i wneud eich marc.