Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:
Amgueddfa Hanes Naturiol Brambell

Swoleg

Yn y 10% uchaf o blith prifysgolion y byd o ran cynaliadwyedd (QS World Rankings: Sustainability 2024).

Os ydych chi yn angerddol am anifeiliaid, y byd naturiol, atal newid yn yr hinsawdd, cynaliadwyedd a'r amgylchedd; yna gradd mewn ³§Åµ´Ç±ô±ð²µ ym Mhrifysgol Bangor yw'r radd i chi.

Ar y dudadeln yma:
Ein cyrsiau Swoleg
Gwnewch gais cyn 6yh ar Ddydd Mercher, 29 Ionawr 2025 i gychwyn eich cwrs ym Medi 2025

Ein cyrsiau Swoleg

Mae'r addysgu a'r cyrsiau y mae Bangor yn eu cynnig heb eu hail.

Steve Backshall,  Darlithydd er Anrhydedd ac un o dîm addysgu Prifysgol Bangor; naturiaethwr, fforiwr a chyflwynydd

[0:03] Mor, mor gyffrous! Mae hi’n grêt cwrdd gyda Steve! Mae’n gyfle mor grêt i hyd yn oed cael gweldÌý

[0:09] y Fenai mewn ffordd wahanol hefyd.

[0:12] Un o’r rhesymau i mi ddewis dod i Fangor oedd i gael bod mewn ardal fel hon,Ìý

[0:16] Does dim ffordd well o dreulio’r prynhawn i ddweud y gwir!Ìý

[0:23] Rydym yn mynd allan i’r afon Menai Fenai ac yna i Ynys Seiriol gyda chriw o fyfyrwyr gwyddorau naturiolÌý

[0:28] i gael blas o’r gorau sydd gan yr ardal yma i’w chynnig.Ìý

[0:47] Wel, hyd yma rydym wedi gweld y gorau o’r bywyd gwyllt o’r rhan yma o’r byd, yn enwedig yr adar. Ìý

[0:53] Mae’r ysgafelloedd yn dew, bron i bob centimedr, wedi ei orchuddio gyda heligogod, gwylanodÌý

[0:59] ac rydym wedi gweld mulfrain gwyn ac wrth gwrs y palod (puffins).

[01:02] Mae’n debyg mai dyma pam wnes i benderfynu creu perthynas gyda Bangor.Ìý

[01:06] Oherwydd yr hyn rydych yn ei weld yn y fan yma. Gall unrhyw sefydliad fuddsoddi mewn isadeiledd.

[01:11] Gall unrhyw sefydliad gael adeiladau mwy, neu gael mwy o addysgu.

[01:14] Ond does dim buddsoddiad yn y byd all gael hyn.Ìý

[01:18] Hyn ar ein trothwy, sy'n gwneud Bangor y lle gorau i astudio’r gwyddorau naturiol.

[01:30] Mae’n wych. Yn amlwg dim ond jyst y cwmni gyda Steve yma, mae gweld y bywyd gwyllt, y gwylanod coes-ddu...Ìý

[01:37] y mulfrain, y morloi a’r math yna o beth. Hollol ryfeddol a phrofiad unigryw iawn.

[01:41] Mae Steve yn ddyn clên iawn. Ia, hollol anhygoel. Does unman gwell i fod.Ìý

[01:46] Mae hi wedi bod yn brynhawn anhygoel. Dwi’n teimlo fy mod wedi cael fy ergydio ychydig ac yn rynllyd.

[01:51] Ond, i allu dod allan yma, a mi allwch weld y Brifysgol o fan hyn.

[01:56] Gallwch weld y neuaddau preswyl o fama. I fod yn fyfyriwr yma, a meddwl y gallwch orffen astudioÌý

[02:01] a dod lawr yma a padlfyrddio neu gaiacio allan ar y Fenai a chael hyn fel ffordd o leihau straen arholiadau.

[02:08] Mae hynna yn hollol anhygoel i mi.

Sir David Attenborough

Gradd er Anrhydedd Syr David Attenborough

"Mae gan Brifysgol Bangor enw rhagorol ym maesÌýastudio gwyddorau'r amgylchedd a'r môr. Mae arnom angen pobol efo'r arbenigaeth a'r sgiliau ymchwil hollbwysig i geisio datrys problemau'r byd."

Y fyfyrwraig Amy Stout

Proffil Myfyriwr Amy Stout

"Bu astudio ³§Åµ´Ç±ô±ð²µ gydag Ymddygiad Anifeiliaid yn brofiad anhygoel. Mae yma ddarlithwyr ysbrydoledig yn ymchwilio i lawer o bynciau amrywiol,Ìýac o’n cwmpas mae bioamrywiaeth anhygoel Gogledd Cymru."

Y myfyrwir James Szewczyk

Proffil Myfyriwr James Szewczyk

"Mae swoleg gyda herpetoleg yn darparu amrywiaeth eang o fewn y modiwlau, a phob un yn wirioneddol ddiddorol a hwylus."

Bydd ein cyfleusterau yn dod â'r hyn rydych wedi ei ddysgu yn fyw

Mae’r cyfleusterau yn cynnwys:

  • ein hamgueddfa hanes natur ein hunainÌý
  • gardd fotaneg
  • acwaria dŵr croyw a morol
  • casgliad o nadroedd gwenwynig
  • labordy pridd tanddaearol mwyaf EwropÌý
  • adardai
  • llong ymchwil sy'n mynd dros y môr
  • fferm ymchwil weithredol
Myfyriwr yn gwisgo siwmper felen yn ysgrifennu mewn llyfr nodiadau, wedi ei hamgylchynau gyda phlanhigion yn y tÅ· gwydr yng Ngardd Fotaneg Treborth.
Yn y tÅ· gwydr, Gardd Fotabeg Treborth

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?ÌýMae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Swoleg.Ìý

Ìý

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?Ìý

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Swoleg llwyddiannus ym Mangor?Ìý
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Swoleg ym Mangor?Ìý
  • Sut ydw i yn gwybod mai Swoleg ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?Ìý

Ìý

Ein Hymchwil o fewn Swoleg

Mae darlithwyr ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor yn gwneud ymchwil i nifer fawr o feysydd sŵolegol, ac mae'r gwaith hwnnw yn mynd â nhw i bob cwr o'r byd. Rydym yn annog myfyrwyr i ymwneud â nifer o'r projectau hyn ac i fanteisio ar y cyfleusterau blaengar sydd ar gael yma. Mae gennym sylfaen ymchwil helaeth a thrwyadl sy'n cynnwysÌý ecoleg foleciwlaidd, biogeocemeg a gwyddor planhigion, ffisioleg, ymddygiad a chadwraeth anifeiliaid. microbioleg, parasitoleg a biotechnoleg, geneteg pysgodfeydd, DNA hynafol, bioleg esblygiadol a chadwraeth, biogeocemeg, biohydrofeteleg, biocemeg cynnyrch planhigion a ffisioleg straen (planhigion), biogeocemeg gwlypdiroedd, niwroffisioleg anifeiliaid cramennog, niwroffisioleg anifeiliaid cramennog, ymatebion anifeiliaid i straen a microbioleg gymhwysol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.