Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig
*cyrsiau sy'n ymwneudÌýâ Ffiseg
Pam Astudio Ffiseg?
Mae deall sut mae'r cefnforoedd yn gweithio yn allweddol i ragfynegi sut bydd ein planed yn ymateb i'r hinsawdd sy'n cynhesu. Mae hefyd yn bwysig os ydym am harneisio'r potensial enfawr o ynni adnewyddadwy o'r llanw sydd ddim yn cael ei ddefnyddio i raddau helaeth. Trwy astudio ffiseg y cefnfor, byddwch yn dysgu sut mae'r cefnfor yn gweithio ac yn rhyngweithio ag elfennau eraill o System y Ddaear, yr atmosffer a'r cryosffer. Byddwch hefyd yn dysgu sut i arsylwi'r cefnfor, o longau ac o'r gofod, ac i ddatblygu modelau rhifiadol i ragfynegi'r cefnfor.Ìý
Byddwch yn meithrin y sgiliau i allu ymdrin â phroblemau pwysig sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd ac echdynnu ynni o'r cefnfor.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?ÌýMae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Gwyddorau'r Eigion.Ìý
Ìý
Ìý
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?Ìý
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gwyddorau'r Eigion llwyddiannus ym Mangor?Ìý
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Gwyddorau'r Eigion ym Mangor?Ìý
- Sut ydw i yn gwybod mai Gwyddorau'r Eigion ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?Ìý
Ìý
Ein Hymchwil o fewn Ffiseg
Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar ddeall sut mae'r cefnfor yn gweithio ac yn rhyngweithio â chydrannau eraill o System y Ddaear. Yn benodol, mae ein hymchwil wedi arwain at newid sylweddol yn ein dealltwriaeth o foroedd ysgafell gyfandirol a'u swyddogaeth yn System y Ddaear. Mae hyn yn cynnwys nodi'r ffactorau sy'n rheoli rhaniad y moroedd hyn, a nodi mecanweithiau allweddol sy'n rheoleiddio gwasgariad dŵr croyw mewn aberoedd a moroedd arfordirol.
Nod ymchwil gyfredol yw gwella rhagfynegiadau'r hinsawdd a'r tywydd, gan ganolbwyntio'n arbennig ar swyddogaeth y llanw a'u hesblygiad yn ystod Hanes y Ddaear. Rydym wedi nodi "uwch gylch llanw" sy'n gysylltiedig â thectoneg platiau a swyddogaeth bosibl y llanw ar Wener gynnar wrth greu planed sy'n medru cynnal bywyd.
Mae ymchwil gyfredol hefyd yn canolbwyntio ar echdynnu ynni adnewyddadwy o'r cefnfor, yn gysylltiedig â'r llanw yn arbennig, ac effeithiau posibl echdynnu ynni.
Mae ein hymchwil yn seiliedig ar ddatblygu a chymhwyso technegau arsylwi a modelu rhifiadol o'r radd flaenaf. Yn arbennig, rydym wedi bod yn arwain ym maes datblygu dulliau i fesur cynnwrf yn yr amgylchedd morol ers dros ddau ddegawd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.