Dyma drosolwg cyflym o'n cyrsiau Tsieneeg. Cofiwch gallwch gyfuno eich astudiaeth o Tsieneeg ag un neu ddwy iaith arall ar ein rhaglen BA Ieithoedd Modern.Ìý
Pam Astudio °Õ²õ¾±±ð¾±²Ôë±ð²µ?
Yn amgylchedd byd-eang heddiw, ni fu arbenigedd mewn ieithoedd modern erioed yn bwysicach. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi gwybodaeth ryngddiwylliannol a sgiliau amlieithog yn fawr a bydd yr elfennau hyn yn rhoi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad ryngwladol.
Gall Bangor danio eich brwdfrydedd a'ch awch am ieithoedd.Ìý Nid dysgu iaith yn unig fyddwch chi, ond cewch gyfle hefyd i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o ddiwylliant Tsieineaidd.ÌýByddwch yn dysgu mewn dosbarthiadau bach, lle byddwch yn dod i adnabod y staff a'ch cyd-fyfyrwyr mewn awyrgylch cyfeillgar. Yr un pryd, mae ein hystod fawr ac amrywiol o fodiwlau yn eich galluogi i deilwra eich gradd i'ch anghenion personol.ÌýMae myfyrwyr yn elwa o ganolfan Ieithoedd Modern ac offer cyfieithu pwrpasol ar y safle.
Mae nifer o'n cyrsiau'n eich galluogi i astudio °Õ²õ¾±±ð¾±²Ôë±ð²µ fel dechreuwr. Mae'r dewis hwn ar gael ar gyfer llawer o'n graddau lle mae °Õ²õ¾±±ð¾±²Ôë±ð²µ wedi'i chyfuno â phwnc arall.ÌýAm ragor o fanylion gweler ein gwybodaeth am gyrsiau.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?ÌýMae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Ieithoedd Modern.Ìý
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?Ìý
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Ieithoedd Modern llwyddiannus ym Mangor?Ìý
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Ieithoedd Modern ym Mangor?Ìý
- Sut ydw i yn gwybod mai Ieithoedd Modern ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?Ìý
Ymunwch a'n cymuned glos - Dilynwch ni ar Instagram
Cysylltu â ni
Newyddion o'r Ysgol
Gweld MwyEin Hymchwil o fewn °Õ²õ¾±±ð¾±²Ôë±ð²µ
Mae ein proffil ymchwil rhyngwladolÌý mewn ieithoedd modern yn deillio o waith deinamig ein staff academaidd ac ymchwil, sydd wedi creu projectau o bwys, yn unigol ac mewn cydweithrediad ag eraill, ym meysydd hanes, diwylliannau a gwleidyddiaeth y byd Ffrengig, Sbaenaidd, Almaenig ac Eidalaidd, gydag arbenigedd cynyddol mewn Astudiaethau Cyfieithu ac Astudiaethau °Õ²õ¾±±ð¾±²Ôë±ð²µ.ÌýMae gennym gryfderau ymchwil arbennig ym meysydd safbwyntiau ôl-drefedigol at ddiwylliannau Ffrengig a Sbaenaidd, gwleidyddiaeth cofio a choffáu, llên teithio, astudiaethau Catalanaidd a Galisaidd, troseddu trefnedig yn yr Eidal, cyfieithu, grym a disgwrs beirniadol, ffilm a hunaniaeth genedlaethol, diwylliannau poblogaidd a chomics, diwylliannau materol a thestunau materol, diwylliannau gweledol a chelf gyfoes.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.