Nyrsio

Nyrsio

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Nyrsio

Gr诺p o fyfyrwyr yn astudio a siarad yn y llyfrgell

Pam Astudio Nysrio

Mae pobl sy'n dewis gyrfa mewn nyrsio yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Mae nyrsio yn rhoi llawer o foddhad, yn newid ac yn tyfu'n gyson ac yn broffesiwn cyffrous.听Mae nyrsys cofrestredig yn gweithio o fewn un neu fwy o bedwar maes; oedolyn, iechyd meddwl, anableddau dysgu neu blant.听Bydd y graddau Baglor Nyrsio a gynigir ym Mhrifysgol Bangor yn rhoi'r 听wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gynnig gofal nyrsio tosturiol ar sail tystiolaeth.听

360 Taith Rithwir Gwyddorau Iechyd

Fideo - Astudio Nyrsio

Dyma Ameer Rana sef cyflwynydd teledu S4C yn cyflwyno'r cyrsiau Nyrsio sydd ar gael yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor.

Erin Jones

Proffil Myfyriwr Erin Jones

Nyrsio

"Dwi'n mwynhau cyfarfod ffrindiau newydd a chael bod mewn awyrgylch gartrefol Gymraeg. Hefyd, cael mynd allan ar leoliadau clinigol, gwneud a mwynhau'r gwaith yr wyf eisiau ei wneud yn y dyfodol - nyrsio!"

Cyfleoedd Gyrfa mewn Nyrsio

Mae datblygiadau mewn triniaethau a thechnoleg yn creu cyfleoedd gyrfa newydd i nyrsys cofrestredig sy'n darparu gwahanol wasanaethau, yn cyflawni gwahanol swyddogaethau ac yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd. Mae llawer o wahanol agweddau ar nyrsio o fewn y pedwar maes a nifer o wahanol gyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa a gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae cyfleoedd gyrfa yn amrywio o weithio fel nyrs staff mewn ysbyty neu yn y gymuned, er enghraifft, i swyddi mwy arbenigol ac arweiniol fel nyrsys arbenigol neu ymgynghorol. Mae sawl math o swydd ar gael i nyrsys cofrestredig ac maent yn cynnig datblygiad a dilyniant gyrfa o nyrs staff i nyrs arbenigol, rheolwr ward, metron, arweinydd, ymchwilydd, addysgwr ac ymgynghorydd nyrsio ym mhob maes. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am听.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i鈥檆h helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Nyrsio.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?听

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Nyrsio llwyddiannus ym Mangor?听
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Nyrsio ym Mangor?听
  • Sut ydw i yn gwybod mai Nyrsio ym Mangor yw鈥檙 dewis iawn i mi?听

Ein Hymchwil o fewn Nyrsio

Mae ein grwpiau ymchwil i gyd yn rhan o听Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor听(BIHMR). Rydym yn adeiladu ar lwyddiant Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor yn REF 2021 i gynnal a chynyddu rhagoriaeth mewn ymchwil feddygol, ymchwil i iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn cynnal ymchwil o'r safon uchaf sy'n cyfrannu at welliannau mewn iechyd a gofal iechyd lleol, yn ogystal 芒 chael effaith ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?