- Nid ydym yn medru sicrhau y bydd derbyniad digonol ym mhob adeilad ac nid ydym yn darparu cysylltiad erial. Bydd angen erial mewnol arnoch.
- Mae pob ystafell mewn neuadd breswyl yn fan breswyl ar wah芒n, mae hyn yn golygu os ydych chi'n defnyddio teledu mae angen i chi brynu trwydded deledu eich hun hyd yn oed os oes gan y neuadd ei hun drwydded.
- Mae angen trwydded dilys arnoch os ydych chi'n defnyddio teledu, neu'n defnyddio teledu sy'n defnyddio peiriannau fel recordydd fideo, bocs digidol neu os ydych chi'n defnyddio cyfrifiaduron gyda cherdyn darlledu.
- Mae angen trwydded dilys arnoch os ydych chi'n defnyddio'ch cyfrifiadur i dderbyn data llif arlein - llif byw ac amser real - i wylio rhaglenni sydd wedi'u cynnwys ar y wasanaeth darlledu. (Mae amser real yn cael ei ddiffynio fel gwylio rhaglenni ar bron yr union amser a phan maent yn cael eu darlledu) Mae newid yn y gyfraith yn golygu bod angen cael trwydded deledu i lawrlwytho neu wylio rhaglenni BBC ar alw ar iPlayer y BBC.聽 Gweithredir hyn yn achos unrhyw declynnau, yn cynnwys teledu clyfar, cyfrifiadur bwrdd gwaith neu liniadur, ff么n symudol, tabled, bocs digidol neu gonsol gemau.
- Os ydych chi am rannu t欧, fel arfer byddai cytundeb tenantiaeth ar y cyd yn golygu mai un drwydded yn unig sydd ei hangen, hyd yn oed os oes mwy nag un teledu yn y t欧. Mae cytundeb tenantiaeth ar wah芒n yn golygu bod angen Trwydded Deledu arnoch os oes gennych chi deledu yn eich ystafell. Dim ond un drwydded sydd ei angen os mai un teledu sydd ym man gymunedol y t欧.
- Gall teledu sy'n rhedeg ar fatris mewnol e.e. Teledu poced neu ff么n symudol, gael ei drwyddedu o dan drwydded deledu eich rhieni. Er hyn, ni ddylech chi bweru'r ddyfais o'r prif gyflenwad wrth wylio teledu. Os nad oes trwydded yn nh欧 eich rhieni, bydd angen i chi brynu trwydded eich hun.
Ad-daliad ar eich Trwydded Deledu
Os nad ydych chi'n aros yn y Brifysgol dros yr haf, ac nad oes arnoch angen eich trwydded eto cyn iddi ddod i ben, gellwch chi fod yn gymwys am ad-daliad am unrhyw chwarter (3 mis calendr lawn). Felly, os gwnaethoch chi brynu'ch trwydded fis Hydref ac nad oes arnoch ei hangen ar gyfer Gorffennaf, Awst a Medi, gellwch chi fod yn gymwys am ad-daliad.
Trefnu eich ad-daliad a gwybodaeth bellach...
- I drefnu ad-daliad neu am fanylion pellach cysylltwch ar 0300 790 6090 neu ewch i wefan