- Rydym yn falch o fedru sicrhau lle i bob myfyriwr sydd ar ei flwyddyn gyntaf ac sy'n gwneud cais o fewn yr amser penodedig.
- Byddwn yn gofyn i chi ddewis neuaddau penodol fyddai orau gennych a gwnawn ein gorau glas i gynnig ystafell o'ch dewis. Er hyn, ni allwn sicrhau y cewch ystafell o'ch dewis. Mae'n anochel y bydd rhai o'r neuaddau yn fwy poblogaidd na'i gilydd ac yn llenwi'n gyflym.
- Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i newid eich dyraniad ystafell cyn cyrraedd, gan gynnwys yn yr un neuadd neu i neuadd wahanol yn 么l yr angen er mwyn rheoli'r preswylfeydd yn effeithlon ac yn ddiogel. Bydd hyn bob amser i ystafell tebyg-yn-debyg neu'n well yn ddarostyngedig i argaeledd ar yr adeg honno.
- I'ch helpu i ddewis neuaddau penodol, defnyddiwch y ddewislen ar y dde i ddysgu mwy am ein neuaddau.
- Mae'r Brifysgol wedi trefnu yswiriant cynnwys sylfaenol gan 'Endsleigh Insurance' ar gyfer myfyrwyr sy'n byw mewn neuadd breswyl. Mae'r yswiriant yma yn gwarchod eitemau yn eich ystafell yn erbyn lladrad, t芒n a dilyw. I weld y manylion, lawrlwythwch eich t. Nid yw gliniaduron, tabledi a ffonau wedi eu yswirio tu allan i'ch ystafell, felly mae'n bosib hoffech gymryd yswiriant pellach. Mae Endsleigh yn cynnig pecynnau i wneud hyn a cewch fwy o fanylion yma:
- Unwaith y bydd y Myfyriwr wedi derbyn eu cynnig, bydd y Myfyriwr yn rhwym drwy gontract i dalu'r Rhent am y Cyfnod Preswylio llawn. Nid oes cyfnod ailfeddwl neu hawl i ganslo. Bydd y Myfyriwr wedi ei rwymo i'r contract pan fydd y Myfyriwr yn derbyn eu Cynnig.聽
- Cyn symud i'r llety, rhaid i bob myfyriwr gytuno a llofnodi telerau cytundeb preswylio .聽 Mae'r cytundeb yn amlinellu聽telerau taliadau'r聽llety'n glir.聽 Gall y myfyrwyr dalu am ffioedd y neuadd yn llawn ymlaen llaw, neu drwy ddewis un o'r cynlluniau talu sydd ar gael trwy randaliadau cerdyn rheolaidd.聽 Caiff y myfyrwyr hynny sy'n derbyn bwrsariaeth fisol dalu trwy gynllun talu 芒 llaw misol; mae modd gwneud hynny yn y Swyddfa Neuaddau. Mae polisi a gweithdrefn rheoli credyd y neuaddau preswyl yma.
Cliciwch ar y neuaddau unigol am fwy o wybodaeth am brisiau ac yn y blaen.
Mae'r safleoedd yn cael eu rheoli gan y Swyddfa Neuaddau. Mae cefnogaeth ar gael yn ystod y dydd gan y Swyddfa Neuaddau, Staff Diogelwch y Brifysgol a Gweinyddu a Gwasanaethau Myfyrwyr ac mae cefnogaeth ar gael tu allan i oriau gwaith ac ar benwythnosau gan Uwch Wardeiniaid ac Mentoriaid. Mae'r Brifysgol yn cyflogi Mentoriaid Myfyrwyr hefyd sy'n byw ym mhob neuadd breswyl ac ar gael i roi help llaw neu gyngor ac i feithrin a chynnal amgylchedd preswyl diogel. Gall myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol fyw, astudio a chymdeithasu mewn amgylchedd heddychol a diogel. Mwy o wybodaeth ar Mentoriaid.
Beiciau
Nodwch:
Ar ddiwedd bob blwyddyn academaidd, mae'n angenrheidiol clirio beiciau sydd wedi cael eu gadael gan fyfyrwyr nad ydynt yn byw mewn Neuaddau Preswyl bellach.
Er mwyn i'r ymarfer hyn ddigwydd, cymerwch unrhyw feic rydych chi'n berchen arnoch chi pan fyddwch chi'n gadael Neuaddau. Os na allwch fynd 芒'ch beic gyda chi am unrhyw reswm, rhowch wybod i'r Swyddfa Neuaddau ar unwaith. Os na fyddwch yn cael gwared ar y beic o fewn 7 diwrnod i ddiwedd eich contract, bydd y Brifysgol yn cael gwared ar y beic a'i waredu fel y gw锚l yn dda. Lle bo modd, rhoddir beiciau i achosion elusennol.
Os byddwch chi'n colli'r allwedd ar gyfer eich cadwyn beic neu'ch clo, gall y Swyddfa Neuaddau drefnu i gontractwr lleol dorri'r clo a rhyddhau'r beic. Mae'n rhaid cyflwyno tystiolaeth eich bod chi, yn wir, yn berchennog y beic i'r Swyddfa Neuaddau. Byddwch yn codi t芒l rhyddhad o 拢 30, a fydd yn ymddangos ar eich cyfrif Prifysgol.