Mae pob un o'n safleoedd Preswyl â Thîm o Fentoriaid sy'n gyfrifol am eich lles ac am faterion disgyblaethol o fewn Llety'r Brifysgol. Rydym i gyd naill ai'n fyfyrwyr neu'n aelodau o staff y Brifysgol yn byw yn eich plith, ac rydym ar gael i'ch cynorthwyo ar unrhyw adeg tra byddwch yn aros mewn Neuaddau.
Gyda pha fath o broblemau y gall mentoriaid helpu?
Rydym yma i sicrhau lles myfyrwyr o fewn y lletyau, sy'n golygu ein bod yn barod i helpu i ddatrys unrhyw broblemau a fo'n peryglu hynny.  Gall hyn olygu cymydog swnllyd, rhai anniben yn rhannu fflat, hiraeth neu anhapusrwydd ynglŷn â'ch cwrs, lladron bwyd … neu unrhyw 'syrpréis' annisgwyl arall a gewch yn ystod y flwyddyn. Bydd eich mentor yn trin unrhyw beth a ddywedwch wrthynt fel pe bai'n llwyr gyfrinachol, felly peidiwch ag ofni cysylltu â ni.
Sut y mae Mentoriaid yn datrys problemau?
Yn awr eich bod wedi mynd oddi ar y nyth ac yn byw'n annibynnol, rydym o'r farn eich bod yn oedolion ifainc ac yn disgwyl, felly, y byddwch yn ymddwyn fel oedolion. Byddem bob amser yn eich annog i geisio datrys problem ymysg eich gilydd gyntaf. Efallai y byddwch yn awyddus i ofyn i'ch Mentor am gyngor ynglŷn â sut i wneud hyn - yn ôl ein profiad ni, siarad â'r rhai sy'n rhannu fflat â chi yw'r ffordd rwyddaf a chyflymaf o ddatrys unrhyw faterion.
Os ydych wedi ceisio'n aflwyddiannus, unwaith eto, efallai y byddwch yn awyddus i geisio cyngor gan unrhyw un ohonom ni; byddwn yn helpu i gyfryngu mewn trafodaeth i ganfod y broblem a chytuno ar ateb iddi. Os yw'r mater yn berthnasol i'r fflat yn ei chrynswth, efallai y byddwn yn galw cyfarfod o holl breswylwyr y fflat, neu gallwn drefnu cyfarfod llai rhwng y rheiny sy'n ymwneud â'r mater. Byddwn yn monitro'r sefyllfa hyd nes y bydd pethau'n gwella.
Os bydd yr anghydfod yn parhau, mae gan yr Uwch Wardeiniaid hawl i gymryd camau disgyblaethol yn erbyn unrhyw breswylydd a fo'n peryglu lles neu ddiogelwch preswylwyr eraill; yn gyffredinol, byddai hyn yn dechrau â rhybudd ond, lle bo'n briodol, gall yr Uwch Warden godi dirwyon ac, mewn achosion mwy difrifol, symud y myfyriwr o lety'r Brifysgol. Yn ddelfrydol, byddai'n well gennym pe câi problemau eu datrys cyn iddynt gyrraedd y pwynt hwn; fel rheol, mae modd gwneud hynny os trinnir y mater yn y modd priodol.   Fel aelodau o gymuned, mae gennym i gyd gyfrifoldebau cymunedol.
Beth y gallaf ei ddisgwyl oddi wrth fy mentor?
- Mae mentoriaid yn griw hynaws a hawdd siarad â hwy, ac rydym yn awyddus ichi deimlo'n rhydd i siarad â ni am unrhyw bryderon a fo gennych. Rydym yn eich annog i ddod atom am help a chyngor, yn enwedig os ydych eisoes wedi ceisio datrys y broblem drosoch eich hun i ddechrau. Gellwch siarad â ni ynglŷn ag unrhyw broblem neu fater a fo'n achosi pryder ichi, ac os nad yw'r ateb gennym, byddwn yn eich cyfeirio at rywun a all eich helpu.
- Trwy gydol y flwyddyn, byddwn yn ymweld yn wythnosol â'ch ceginau; mae hefyd Mentor ar alw 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.  Rydym yn byw yn y Neuaddau, felly nid yw byth yn anodd ichi gael hyd inni, ac er na fyddai gwahaniaeth gennym ichi guro wrth ein drysau ffrynt yn ddirybudd, byddem yn gwerthfawrogi rhywfaint o rybudd ymlaen llaw, lle bo modd.Â
- Mae gan Mentoriaid brofiad eang o weithio gyda myfyrwyr; byddwn yn trin unrhyw wybodaeth a rannwch â ni fel pe bai'n llwyr gyfrinachol. Byddwn bob amser yn rhoi cyfle ichi adrodd eich fersiwn chi o ddigwyddiadau mewn unrhyw anghydfod neu broblem, a byddwn bob amser yn trin preswylwyr yn deg a chyda pharch.
- Hoffem ddatrys problemau cyn gynted ag y bo modd, felly unwaith y bydd yr holl ffeithiau'n hysbys, gallwn eich sicrhau y byddwn yn cymryd pa gamau bynnag sy'n angenrheidiol i gael hyd i ateb. Â Os nad ydym yn gwybod yr ateb i rywbeth, byddai'n bleser gennym geisio'r wybodaeth neu'ch cyfeirio at y lle priodol.
Beth y mae fy mentor yn ei ddisgwyl oddi wrthyf i?
- Dewch yn gyfarwydd â'r contract meddiannaeth neu, o leiaf, darllenwch y crynodeb yn y llyfryn gwybodaeth am Neuaddau; ni fyddwn yn derbyn anwybodaeth fel esgus pan aiff pethau o chwith.
- Byddwch yn rhannu eich fflat â sawl myfyriwr arall, felly byddwch yn ystyriol ynglŷn â'u hanghenion a dangoswch barch atynt.  Nid yw'r ffaith nad oes gennych ddarlith tan amser cinio yn golygu eu bod hwythau yn yr un sefyllfa.  Mae gan rai pobl ddarlithoedd cyn hanner dydd; mae rhai pobl yn hoffi astudio yn eu hystafelloedd, mae rhai pobl yn hoffi mynd i'r gwely'n gynnar. Rydym am ichi i gyd gael hwyl, ond nid ar draul pobl eraill. Rydym yn anelu at gydbwyso anghenion llawer o bobl wahanol, ac mae eich cydweithrediad yn hollbwysig er mwyn i hyn lwyddo.
- Mae eich fflat yn mynd i fod yn gartref ichi am y 10 mis nesaf, fwy neu lai, ac rydych CHI'n rhannu cyfrifoldeb dros ei chadw'n lân, yn daclus ac yn ddiogel.  Rydym yma i'ch helpu pan aiff pethau o chwith, ond eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich cartref yn un hapus. Os na wyliwch yr hyn yr ydych yn ei goginio, rydych nid yn unig yn peryglu eich bywyd eich hun, ond hefyd bywydau'r rhai sy'n rhannu fflat â chi a'ch cymdogion; os gadewch ddrws eich coridor ar agor neu'ch ystafell heb ei gloi, rydych yn peryglu diogelwch y rhai sy'n rhannu fflat â chi a'ch holl eiddo.   Hoffem ichi edrych ar ôl eich gilydd bob amser, a helpu i greu cymuned hapus i ni i gyd fyw ynddi.
- Weithiau, efallai y bydd angen ichi dderbyn fod rhai materion na allwn eich helpu i'w datrys. Pan fyddwch yn rhannu fflat/ neuadd â sawl un arall ac yn byw ar safle preswyl prysur, mae rhai pethau'n anorfod: prin y bydd y gegin fel pin mewn papur, ni cheir distawrwydd perffaith yn aml iawn, efallai na fyddwch yn ffrindiau gorau â'r person drws nesaf ichi, ac mae'n fwy na thebyg na chewch eich ffordd bob amser; weithiau, mae angen inni wneud y gorau o'r hyn sydd gennym ac, os ydych yn fodlon cyfaddawdu ar rai materion, byddwn yn gallu eich helpu'n llawer mwy effeithiol.
Mae'r Tîm Mentoriaid yn gobeithio y byddwch yn mwynhau eich amser mewn Neuaddau, a byddwn yn eich helpu i fyw mewn cymuned hapus a diogel..