Rydym yn awyddus i sicrhau eich bod yn cael cynnig llety addas. Os oes angen听ystafell wedi'i haddasu arnoch (gweler isod) neu os oes gennych unrhyw anghenion llety sy'n gysylltiedig ag anabledd, cysylltwch 芒'r Gwasanaeth Anableddau. Gallant hefyd drafod pethau fel oergelloedd ar gyfer meddyginiaeth, ein system rhybuddio 芒 swnydd dirgrynol ar gyfer y larwm t芒n, agosrwydd yr ystafell at y golchdai, mynediad llawr gwaelod / lifft ac ati.
Mae'n well trafod eich anghenion cyn i chi wneud cais am eich ystafell mewn Neuaddau er mwyn i ni allu cynnig llety priodol. Gwnewch hyn cyn gynted 芒 phosibl.
Gallwch gysylltu 芒'r Gwasanaeth Anableddau drwy ffonio +44 (0)1248 382032 neu e-bostio gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk
Ystafelloedd Wedi鈥檜 Haddasu
Mae'r ystafelloedd en-suite mwy hyn yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, gydag ystafelloedd ymolchi mwy wedi'u gosod 芒 rheiliau llaw, seddi cawod a llinynnau tynnu brys. Mae鈥檙 ceginau hefyd yn cynnwys addasiadau ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Gallwch weld ystafell hygyrch nodweddiadol yma.
Cymorth Gofal Personol
Os oes angen gofalwr sy鈥檔 byw gyda chi, mae鈥檔 hanfodol eich bod yn cynnwys yr wybodaeth hon yn eich cais. Gallwn hefyd drefnu mynediad i ofalwyr i ymweld 芒鈥檆h ystafell yn y Neuaddau. Mae'n bwysig nodi mai鈥檙 myfyrwyr eu hunain sydd i drefnu cymorth gofal personol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma: Cymorth Gofal Personol.
Eich cais
Os yw鈥檆h anghenion sy鈥檔 gysylltiedig ag anabledd yn effeithio ar eich dewis ystafell, nodwch hyn yn eich cais. Bydd hyn yn ein helpu i ddarparu ystafell briodol neu archwilio dewisiadau eraill os nad yw eich dewis cyntaf ar gael. Yn ogystal, sicrhewch eich bod yn trafod eich anghenion gyda'r Gwasanaeth Anableddau.
Mae hefyd yn bwysig nodi unrhyw beth a allai effeithio ar eich Iechyd a Diogelwch neu Iechyd a Diogelwch y rhai o鈥檆h cwmpas.
听