Arweiniad Byr i’r Ardal
Diwylliant ac Atyniadau Bangor
Mae Bangor yn ddinas hanesyddol sy’n llawn cymeriad, gyda digon i’w weld a gwneud yma. Os ydych yn cerdded o amgylch un o hen adeiladau’r ddinas yn dysgu mwy am yr hanes neu’n manteisio o’i lleoliad gwych, diflaswch chi fyth ar Fangor.
Yr Amgueddfa a’r Oriel...
I wybod mwy am hanes a diwylliant y ddinas, dylech ymweld ag Amgueddfa Bangor ar Ffordd Gwynedd. Yno cewch gyfle i edrych drwy hen greiriau a gweld sut beth oedd bywyd pob dydd yn yr ardal tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae yno hefyd Oriel Gelf sy’n arddangos gwaith ystod eang o artistiaid gan gynnwys paentiadau hanesyddol a chelf fodern.
Yr Eglwys Gadeiriol...
Y peth amlycaf am Fangor yw’r Eglwys Gadeiriol ddeniadol sy’n sefyll yng nghanol y ddinas. Wedi ei sefydlu yn 525 O.C., dyma un o’r eglwysi cadeiriol hynaf ym Mhrydain. Mae’r gadeirlan wedi ei hailadeiladu sawl tro ers iddi gael ei sefydlu yn gyntaf gan Sant Deiniol. Cafodd yr adeilad sydd yno heddiw ei adeiladu rhyw dro rhwng 1870 ac 1880. Mae bedd un o dywysogion Cymru, Owain Gwynedd, hefyd i’w weld yno. Os ydych chi’n ymweld â’r Eglwys Gadeiriol, pam na dreuliwch chi ychydig funudau yng ngardd y Beibl sydd o’i blaen.
Y Pier...
Mae gan Fangor bier Fictoraidd a gafodd ei adeiladu yn 1896 ac yna ei adfer yn yr 1980au. Mae’r pier yn ymestyn hanner ffordd dros y Fenai ac mae wedi ei amgylchynu a nifer o dafarndai traddodiadol a thai bwyta. Mae’r pier hefyd yn lle poblogaidd gan fyfyrwyr sy’n astudio tuag at arholiadau ym misoedd cynnar yr Haf.
Siopau...
Pan mae’n dod i siopa, mae gan Fangor rhywbeth i blesio pawb, mae amrywiaeth o siopau bach a mawr yma yn ogystal â chanolfan siopa fodern.
Mae Bangor yn ymfalchio yn y ffaith fod ganddi’r Stryd Fawr hiraf yng Nghymru sy’n cynnwys cymysgedd dda o siopau gan gynnwys enwau adnabyddus a busnesau bach.
Ni fydd raid i chi adael y ddinas i ddod o hyd i’r hyn yr ydych ei angen, boed o’n ddilledyn newydd, yn llyfr Cymraeg, yn offeryn cerddorol neu hyd yn oed yn bysgodyn aur.
Gerddi Botanegol...
Os ydych yn hoff o natur mi fyddwch chi wrth eich bodd yng ngerddi botanegol Treborth. Mae’r Brifysgol yn defnyddio’r gerddi am resymau addysgol ac i wneud ymchwil ond maent hefyd yn agored i’r cyhoedd. Mae’r gerddi yn gorchuddio 40 acer o dir ac yn cynnwys dros 2,000 o wahanol fathau o blanhigion a bywyd gwyllt.
Rhaeadr Fawr...
Mae miloedd o bobl yn teithio i Abergwyngregyn pob blwyddyn i weld y Rhaeadr Fawr. Mae wedi ei lleoli rhwng y mynyddoedd a’r arfordir oddi ar yr A55. Credir mai’r Rhaeadr Fawr yw’r rhaeadr serchaf yng Nghymru a Lloegr.
Y Pontydd...
Pan ewch i Ynys Môn o Fangor, bydd rhaid i chi groesi naill ai Pont Menai a gafodd ei hadeiladu gan Thomas Telford neu Bont Britannia a gafodd ei hadeiladu fel pont rheilffordd. Pont Menai oedd y cysylltiad cyntaf rhwng Ynys Môn a’r tir mawr.
I gael blas am yr hyn sy’n eich disgwyl yr ochr arall i’r bont ac yn yr ardal gyfagos, ewch i’n tudalennau Tu Hwnt i Fangor neu weld am fwy o atyniadau.