Gwybodaeth i reolwyr
Lles
Gall ystod o ffactorau cysylltiedig â gwaith effeithio ar les staff, gan gynnwys llwyth gwaith, ymreolaeth, cysylltiadau gwaith, cefnogaeth tîm a'r amgylchedd gweithio.
Gall ffactorau allanol hefyd effeithio ar les fel diffyg cwsg, pryderon ariannol, cyflyrau iechyd, cyfrifoldebau gofalu, cyfrifoldebau gofal plant ac amgylchiadau personol eraill.
Efallai y byddai'n fuddiol ystyried trafod iechyd a lles gyda'ch staff trwy amserlennu sgyrsiau lles rheolaidd. Gellir cynnwys hyn mewn trafodaethau sy'n bodoli eisoes, neu ei chael fel trafodaeth ar wahân. Gwelwch yr adnoddau atodedig sy'n rhoi arweiniad ar gynnal sgyrsiau lles gyda'ch staff
Mae Mind hefyd yn cynnig adnoddau am ddim a allai fod yn ddefnyddiol i gefnogi'ch staff a chi'ch hun gyda Chynlluniau Gweithredu Canllawiau i Les am ddim
Rheoli Absenoldeb Salwch
Mae'r Polisi a'r Weithdrefn Absenoldeb Salwch yn bodoli er mwyn darparu dull teg a chyson o reoli absenoldeb salwch yn y gwaith.
Rheolwyr yn cyfeirio staff at iechyd galwedigaethol
Gall cyfeirio aelod staff i gael ei asesu gan Iechyd Galwedigaethol eich cynorthwyo i'w cefnogi gyda phroblem iechyd, sy'n effeithio ar eu gallu i wneud eu gwaith. Bydd Iechyd Galwedigaethol yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i fynd â'r mater yn ei flaen mewn ffordd deg.
- Ffurflen Gyfeirio Iechyd Galwedigethol
- Canllawiau cyfeirio aelodau staff at Iechyd Galwedigaethol
- Gwybodaeth am Gwnsela
Cefnogaeth Covid-19
Sylwer y daw'r canllawiau canlynol oddi wrth gorff allanol ac felly maent ar gael yn Saesneg yn unig.