Croeso i Adnoddau Dynol
Datganiad cenhadaeth adrannol Adnoddau Dynol yw cefnogi'r Brifysgol i wireddu ei hamcanion busnes strategol trwy roi i gleientau wasanaeth uchel ei ansawdd a chynhwysfawr sy'n gwella'n barhaus.
Mae’r Adran Adnoddau Dynol wedi mabwysiadu arferion gweithio deinamig y Brifysgol. Mae staff yn bresennol ar y campws, yn Bryn Afon, ar ddiwrnodau gwaith amrywiol a hefyd yn gweithio o gartref. Byddem yn annog pe bai gennych unrhyw ymholiad neu gais am wybodaeth eich bod yn parhau i anfon y rhain yn electronig. I’ch cynorthwyo i gyfeirio eich ymholiadau at yr aelod tîm mwyaf priodol, gweler y dudalen o’r enw ‘Cysylltiadau Staff a Lleoliad Swyddfa’.
Os bydd cydweithwyr yn dymuno cyfarfod â chynrychiolydd o AD yn bersonol, yna rhaid trefnu hyn ymlaen llaw. Mae staff AD hefyd ar gael ar gyfer cyfarfodydd/trafodaethau ynghylch TIMAU.
Diolch i chi am eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad parhaus.
Cynllun Diswyddo Gwirfoddol 2024
Yn dilyn yr ohebiaeth gan y Brifysgol a’r cyfarfod i’r holl staff a gynhaliwyd gan yr Is- ganghellor ddoe, rwy’n ysgrifennu i roi gwybod i gydweithwyr fod Cynllun Diswyddo Gwirfoddol y Brifysgol wedi cael ei lansio. Ffordd o wneud arbedion yw’r Cynllun a thrwy gynnig Diswyddo Gwirfoddol, ochr yn ochr â mesurau lliniarol eraill megis gostwng gwariant ac eithrio cyflogau, rydym yn rhagweld y gallwn gyflawni’r arbedion angenrheidiol.
Ceir mwy o wybodaeth am y Cynllun ynghyd â Chwestiynau Cyffredin ar yr adran Adnoddau Dynol. Does dim rhaid llenwi ffurflen, gallwch wneud cais trwy adnoddaudynol@bangor.ac.uk neu yn uniongyrchol trwy gysylltu a Nia Blackwell, Uwch Swyddog Adnoddau Dynol, Steffan Griffith, Dirprwy Brif Swyddog Pobl neu a fi, Tracy Hibbert.
Bydd y Cynllun ar agor am gyfnod cyfyngedig ac yn cau Ddydd Sadwrn, 30 Tachwedd 2024. Os hoffech fanteisio ar y Cynllun Diswyddo Gwirfoddol, gallwch naill ai drafod gyda’ch Pennaeth Ysgol neu Bennaeth eich Gwasanaeth Proffesiynol, neu os hoffech drafod eich opsiynau’n gyfrinachol, cysylltwch ag un o’r cydweithwyr a restrir uchod yn yr adran Adnoddau Dynol.
Polisi Cynllun Diswyddo Gwirfoddol & CC 2024
Tracy Hibbert, Chief People Officer
Prifysgol Bangor yn ennill gwobr arian Athena Swan i gydnabod gwaith ar gydraddoldeb rhywiol
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill gwobr arian sefydliadol Athena Swan. Prifysgol Bangor yw'r ail brifysgol yng Nghymru i ennill gwobr arian; mae llai na 40 o brifysgolion ledled y Deyrnas Unedig wedi ennill gwobr arian. Manylion llawn yma.
Canllawiau prosesu misol AD a Gyflogres
Mae dogfen wedi ei ddatblygu sydd yn nodi a diffinio’r dyddiad terfynol misol o ran prosesau’r Adnoddau Dynol a’r Gyflogres a’r camau y mae’n rhaid i’r Colegau Academaidd a’r Ysgolion, a Chyfarwyddiaethau’r Gwasanaethau Proffesiynol eu cymryd i weithredu newid ar y gyflogres. Os oes ganddo chi gyfrifoldebau swydd yn y mae yma, cymrwch ychydig o funudau I ddarllen y ddogfen hon.
Diweddariad system Newydd Adnoddau dynol/gyflogres iTrent
Gobeithiwn fod cydweithwyr bellach yn ymgyfarwyddo ag iTrent ac wedi dechrau defnyddio'r system. I'ch atgoffa, dyma'r hyn y mae i Trent yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer ar hyn o bryd.
- Gweinyddu unrhyw Weithgareddau Dysgu a drefnir gan AD ac i gynnal digwyddiadau dysgu a gynhelir yn lleol
- Pob gwyliau blynyddol.
- Pob cyfnod o absenoldeb salwch.
- Hawliadau Teithio a Chynhaliaeth.
- Ceisiadau Gweithio Hyblyg, a phob math o absenoldeb sy'n ystyriol o deuluoedd (megis Mamolaeth, Tadolaeth, Mabwysiadu ac ati).
- Pob newid cytundebol a gyflwynir ar ran aelodau staff, er enghraifft unrhyw newid mewn oriau, estyniad i gontractau.
- Recriwtio i rolau heb eu hysbysebu, er enghraifft penodiadau tymor byr, ymchwilwyr penodol, staff darlithio rhan-amser.
Mae llu o ddeunyddiau wedi'u datblygu i gefnogi cydweithwyr ar eu taith i ddefnyddio i Trent. Mae'r rhain yn amrywio o Gwestiynau Cyffredin, canllawiau manwl i ddefnyddwyr, i fideos sy'n rhoi trosolwg o'r gwahanol swyddogaethau a restrir uchod. Gellir eu gweld trwy'r dudalen we ac mae'r rhain yn cael eu diweddaru'n rheolaidd i fynd i'r afael ag ymholiadau a ddaw i law.
Yn ogystal â darparu’r adnoddau hyn y gall pawb eu defnyddio ar eu cyflymder a’u hamser eu hunain, rydym hefyd yn gwerthfawrogi nad oes dim byd arall ar adegau i ryngweithio wyneb yn wyneb a darparu cymorth ymarferol. Gyda hynny mewn golwg, trefnir nifer o sesiynau galw heibio, lle gall galw I mewn i ofyn cwestiynau, a derbyn y cymorth sydd ei angen. Nodir dyddiadau, amseroedd a lleoliad y sesiynau hynny .
O'r mis Hydref 2023 ymlaen ni fydd slipiau cyflog yn cael eu hanfon drwy e-bost mwyach. Bydd y rhain yn cael eu postio i'r porth Hunanwasanaeth I weithwyr (ESS) ac eto, bydd y tudalennau gwe a amlygir uchod yn amlinellu sut y gellir eu gweld.
Dyma’r cam cyntaf tuag at ddefnyddio iTrent, a bydd mwy o ymarferoldeb yn cael ei gyflwyno maes o law. Enghreifftiau yw recriwtio (iTrent yw'r system y bydd ymgeiswyr yn ei defnyddio i wneud cais am swyddi gwag yn y Brifysgol) a chofnodi gweithgarwch hyfforddi a datblygu.
Rhennir diweddariadau a manylion pellach ar sut y bydd iTrent yn trawsnewid prosesau adnoddau dynol mewn bwletinau staff.
Gofynion adrodd am Covid-19
Bydd cydweithwyr yn ymwybodol bod y Brifysgol, ers mis Mawrth 2020, wedi bod â phroses ar waith i ofyn i staff a myfyrwyr roi gwybod am achosion cadarnhaol o Covid-19.
Mae deddfwriaeth Covid-19 bellach wedi’i diddymu, ac o’r herwydd, nid oes gofyniad bellach i’r adrodd canolog hwn ddigwydd. Fodd bynnag, mae’r Brifysgol yn cadw ei dyletswydd i reoli a lliniaru risgiau yn y gweithle a gofynnwn i gydweithwyr fod yn ymwybodol o’u heffaith bosibl ar bobl eraill ac i beidio â dod ar y campws na chymysgu ag eraill os ydynt yn amau ​​bod ganddynt Covid-19 neu unrhyw afiechydon trosglwyddadwy eraill. Er nad yw’r adrodd yn ganolog o fod yn Covid bositif yn ofyniad bellach, byddem yn gofyn i gydweithwyr ddilyn y gweithdrefnau adrodd am absenoldeb salwch arferol, a chyfathrebu â’u Rheolwr Llinell / Goruchwyliwr, yn unol â’r Polisi a Gweithdrefn Absenoldeb Salwch.
Ceir rhagor o wybodaeth yn
Hysbysiad Preifatrwydd Data Staff
Cliciwch yma i weld Hysbysiad Preifatrwydd Data Staff Prifysgol Bangor