Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:
M Arts building Covid FAQ

Buddion Bangor

Yn helpu'ch cyflog i fynd ychydig ymhellach.

Croeso i'ch tudalen wybodaeth Buddion Bangor. Yma fe welwch amrywiaeth o ganllawiau a gwybodaeth am wahanol Fuddiannau y mae Prifysgol Bangor wedi'u sefydlu ar eich cyfer, i ychwanegu at eich profiad cyflogaeth a helpu'ch cyflog i fynd ychydig ymhellach.

Nod ein pecyn gwobrau a buddion yw cynnig hyblygrwydd a dewis i chi i weddu i'ch anghenion amrywiol a chyfnewidiol. Bydd sut a beth y mae pob un ohonoch yn ei ddefnyddio yn amrywio, yn ddibynnol ar eich sefyllfa a'ch dewis personol.

Pecyn Gwobrau

Mae eich pecyn gwobrau a buddion yn fwy na’r cyflog a gewch yn unig, ac mae’r pecynnau hyn yn amrywio o sefydliad i sefydliad.

Yma ym Mangor rydym yn cynnig llu o delerau ac amodau ychwanegol, gwobrau a threfniadau cydnabod a all ddod at ei gilydd i ffurfio cyfanswm eich pecyn gwobrau, eich helpu i gynilo a rhoi gwerth ychwanegol i chi mewn sawl ffordd.

Astudiaethau Achos

Cymerwch gip ar rai astudiaethau achos enghreifftiol i weld sut mae gwahanol unigolion yn cael buddion gwahanol o'u profiad yma yn y Brifysgol.Ìý

Cymerwch gip ar rai astudiaethau achos enghreifftiol i weld sut mae gwahanol unigolion yn cael buddion gwahanol o'u profiad yma yn y Brifysgol.Ìý

Eich buddion

Cymerwch gip ar y buddion amrywiol sydd ar gael a gweld beth allai gyfrannu at gyfanswm eich pecyn gwobrwyo.

Graddfeydd Cyflog

Mae Graddfeydd Cyflog y Brifysgol yn cyd-fynd â'n cynllun Gwerthuso Swyddi HERA i bennu gradd cyflog teg ar gyfer dyletswyddau a chyfrifoldebau ar draws y sefydliad. Rydym wedi ymrwymo i’r sylfaen cyflog byw go iawn ac mae cyflogau’n cael eu hadolygu a dyfarniadau cyflog yn cael eu hystyried yn flynyddol drwy drafodaethau bargeinio cyflog cenedlaethol gyda’r Undebau Llafur cydnabyddedig.

Graddfeydd Cyflog

Gwyliau

Mae'r Brifysgol yn cynnig i'w staff wyliau blynyddol uwch, dros y 28 diwrnod statudol. Gall staff llawn amser gael 42 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata ar gyfer staff rhan amser) bob blwyddyn. Cliciwch yma ac ewch i'r dudalen Gwyliau Blynyddol am ragor o fanylion.

Gwyliau

Tâl Salwch

Pan fydd ein hiechyd corfforol neu feddyliol yn newid, yn aml efallai y bydd angen amser i ffwrdd o'r gwaith ar unigolion ar gyfer triniaeth ac adferiad ond gall pryderon ariannol fod yn elfen fawr pan fydd angen yr amser hwn i ffwrdd. Mae'r Brifysgol yn cynnig cynllun Tâl Salwch uwch, yn ogystal â thâl salwch statudol, sy'n cynyddu ar sail hyd gwasanaeth, gan gynnig hyd at 6 mis llawn a 6 mis hanner tâl ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.Ìý

Polisi Salwch

Pensiwn

Mae Prifysgol Bangor yn cyfrannu at bensiynau unigol o dan Gynlluniau USS a BUPAS, gall staff gael mynediad at gyfraniadau hael yn ogystal â’u taliadau eu hunain i’r cynllun, gyda’r Brifysgol yn talu 14.5% o gyflog i mewn i USS a 12.5% o gyflog yn BUPAS.

Mae gan y Brifysgol hefyd fenter sy'n caniatáu i aelodau Cynllun Blwydd-dal y Prifysgolion (USS) a Chynllun Pensiwn ac Aswiriant Prifysgol Bangor (UPAS) i gynyddu eu tâl mynd adref tra'n parhau i gronni buddion yn y cynllun pensiwn.

Cynllun Disgownt

Gall staff ddefnyddio platfform gostyngiadau a gwneud arbedion ar wariant o ddydd i ddydd ar draws ystod o allfeydd manwerthu gan gynnwys archfarchnadoedd, bwytai, sinema, teithio a mwy.

Meithrinfa Tir Na NÓgÌý

Mae Meithrinfa'r Brifysgol yn agored i bawb, gan gynnwys myfyrwyr a staff y brifysgol ac aelodau'r cyhoedd. Gall staff arbed ar ffioedd trwy’r drefniant aberthu cyflog.

Buddion eraill

Mae hefyd buddianau eraill ar gael, sydd ddim trwy drefniant aberthu cyflog, fel y canlynol:

  • Mynediad am ddim i gwasanethau Llyfrgelloedd y Prif Ysgol,Ìý Cliciwch am fanylion pellach
  • Mae Kennedy Burchill yn cynnig gwasanaethÌýparatoi Ewyllus am ddimÌýi Staff y Brifysgol, drwy wasanaeth anhysbell.Ìý CliciwchÌýymaÌýam fanylion pellachÌý(nodwch fod y wasanaeth yma ar gael drwy gyfrwn y saesneg yn unig)
  • Gall staff rwan sefydlu cyfrif cynilo neu fenthyca arian drwy'rÌýUndeb Credyd CambrianÌýa thalu yn uniongyrchol o'u cyflog. CliciwchÌýymaÌýam fanylion pellach.
  • Mae gan staff yn y Brifysgol bellach y cyfle i gael yr un gostyngiadau a gynigir i fyfyrwyr trwyÌýGerdyn Gostyngiadau TOTUMÌý. Cliciwch yma am fanylion pellach:ÌýCerdyn Disgownt TOTUMÌýÌý
  • Clwb Teithio Cyflogwyr ArrivaÌý– yn rhoi disgownt i staff i deithio ar bysiau Arriva. Mae staff yn gallu elwa o ddisgownt ar gost y tocyn, talu yn uniongyrchol drwy debyd uniongyrchol, gyda’r tocyn yn cael ei anfon i’r cyfeiriad cartref. Does dim angen cytuno i ymuno am gyfnod penodol, ac mae’r cynllun yn rhoi’r hawl i fyny at ddau blentyn teithio am ddim ar benwythnosau a gwyliau bank. CliciwchÌýÌýam rhagor o wybodaeth.
  • Mae gan aelodau staff hefyd yr hawl i gael gostyngiad a’r y gost o ddefnyddioÌýcyfleusterau Chwaraeon a Hamdden y Prifysgol. CliciwchÌýymaÌýam rhagor o wybodaeth am y cyfleusterau ar gost.
  • Chwilio am yswiriant rhag ofn i chi fod mewn damwain beicio.ÌýÌý MaeÌýSerious Cycle SchemeÌýyn cynnig yswiriant am ddim i weithwyr y Brifysgol.ÌýÌý

  • Chwilio am gymorth cyfreithiol i werthu neu archebu TÅ·, mae’r cyfreithwyrÌýMackenzie JonesÌýyn cynnig disgownt i weithwyr y Brifysgol.ÌýCliciwch yma am wybodaeth bellach.
  • Angen cefnogaeth efo trawsgludo.ÌýÌý MaeÌýExpress ConveyancingÌýyn cynnig gostyngiad o hyd at 20% ar ffioedd cyfreithiol.ÌýÌýCliciwch yma am ragor o wybodaeth.
  • Hacker & CaseÌý- Gall staff arbed 10% drwy archebu ar y safle we.ÌýÌý
  • CotswoldÌý- Gall staff arbed 15% drwy archebu yn y sip ne ar y safle we.ÌýÌýCliciwch yma am ragor o wybodaeth.
  • CostCoÌý- Mae staff yn gallu ymgeisio am aelodaeth i Cost Co.ÌýÌýCliciwch yma am ragor o wybodaeth
  • StGerards - Mae staff yn gallu arbed 20% ar gostau ysgol.Ìý Cliciwch yma am ragor o wybodaeth
  • Penderyn -Ìý All staff gael arbdiad ar cynnigion y safle.Ìý ÌýCliciwch yma am ragor o wybodaeth

Rhaglen Cymorth i Weithwyr

Ar adegau pan fyddwch chi angen rhywun i siarad hefo, cefnogaeth ymarferol neu ychydig o help ychwanegol i ddelio ag amseroedd anodd manteisiwch ar y Rhaglen Cymorth i Weithwyr gan VIVUP (Am Ddim a Chyfrinachol).

Iechyd Galwedigaethol

Mae gan y Brifysgol ei Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol mewnol ei hun, sy’n gallu rhoi cyngor ac arweiniad i reolwyr ac unigolion sy’n ymdrin a anawsterau a heriau iechyd sydd yn cael effaith arnynt yn y gweithle o ganlyniad.

Canolfan Hamdden Brailsford

Cadwch eich hun yn actif ac yn iach ac arbedwch ychydig hefyd. Mae gan aelodau staff hawl i gyfraddau gostyngol yng nghyfleuster Chwaraeon a Hamdden y Brifysgol.

Mwy

Iechyd a Diogelwch

Mae Prifysgol Bangor yn ceisio sicrhau eich bod yn cael eich cadw'n ddiogel ac yn iach yn y gwaith gyda chyfres o Bolisïau ac Arferion Iechyd a Diogelwch yn eu lle.

Lles Ariannol

Mewn cyfnod anodd gall rheoli ein harian fod yn bryder cyfrinachol ac yn ystyriaeth heriol y mae llawer ohonom yn ceisio ei rheoli bob dydd. Mae'r Brifysgol yn deall yr effaith y gall anawsterau a heriau ariannol ei chael ar les unigolion ac am y rheswm hwn mae'n cynnig ystod o delerau ac amodau sy'n rhagori ar gyfraddau a gofynion statudol. Yn ogystal, gall unigolion ystyried.

Kennedy Burchill yn cynnig gwasanaeth ysgrifennu ewyllys o bell am ddim i Staff Prifysgol Bangor , cliciwch i weld y daflen wybodaeth am y gwasanaeth a sut i gael mynediad iddo

  • Undeb Credyd - Yn cael ei gynnig gan Undeb Credyd Cambrian, gall unigolion gael mynediad at gynilion a benthyciadau , trwy'r gwasanaeth ariannol cydymdeimladol hwn a sefydlu taliadau trwy eu tâl misol. Cliciwch i weld tudalen Undeb Credyd a darganfod mwy.
  • Cymorth Dyled - Fel rhan o'r Rhaglen Cymorth i Weithwyr gall staff gysylltu â Gofal yn Gyntaf am gymorth ac arweiniad ymarferol gydag anawsterau yn ymwneud â Dyled a phroblemau ariannol eraill.
  • Datblygiad Cyn Ymddeol - Cyrchwch y gweithdai rhad ac am ddim hyn i'ch helpu i gynllunio ar gyfer ymddeoliad cyn iddo gyrraedd.
  • Gwasanaeth Ysgrifennu Ewyllys Am Ddim

Pension Welling Provisions

Gall unigolion sy'n aelodau o gynlluniau pensiwn USS neu BUPAS a gynigir gan y Brifysgol gael mynediad at ystod o fuddion lles ychwanegol fel rhan o'u haelodaeth.

Mae'r cynlluniau'n rhoi sicrwydd a mynediad i fudd-daliadau gan gynnwys Ymddeoliad Afiechyd, Darpariaeth Pensiwn Priod a Phlant a mwy os yw unigolion yn wynebu anawsterau iechyd neu'n marw.

WHA Gofal Iechyd

Mae cynllunio am salwch neu drafferthion iechyd ac unrhyw gefnogaeth feddygol yn ystyriaeth sylweddol heddiw i nifer o unigolion. Mae WHA yn cynnig cynllun gofal iechyd rhesymol efo’r gallu i dalu cyfraniadau misol yn uniongyrchol o’ch cyflog.

Prynnu Gwyliau

Weithiau mae angen ychydig o amser ychwanegol arnom, i ffwrdd o'r gwaith, i gydbwyso ein bywyd gwaith a chartref neu reoli ymrwymiadau eraill. Yn ogystal â'i hawl gwyliau hael, mae'r Brifysgol yn cynnig y cyfle i unigolion brynu gwyliau blynyddol ychwanegol, a gwneud arbedion ar y gost trwy aberthu cyflog

Mamolaeth, Mabwysiadau, Seibiant Rhieni a Rhiant a Rennir

Ar gyfer yr adegau arbennig hynny pan fyddwch angen amser i ffwrdd o'r gwaith i ymrwymo i groesawu ychwanegiadau newydd i'ch bywyd, mae gan y Brifysgol gyfres o becynnau i'ch helpu yn ystod absenoldeb Mamolaeth, Mabwysiadu, Tadolaeth a mwy, gan gynnig taliadau uwch i'r rhai a nodir mewn darpariaethau statudol.

Gweithio'n hyblyg

Weithiau mae angen yr hyblygrwydd ychwanegol yn ein bywyd i reoli ein holl ymrwymiadau a dod o hyd i'r cydbwysedd cywir. Mae'r Brifysgol yn cynnig y gallu i staff ofyn am weithio’n hyblyg pan fo angen.

Gweithio Deinamig

Yn y byd ar ôl Covid mae ffyrdd newydd o weithio wedi dod i’r amlwg, lle bo’n bosibl, mae’r Brifysgol yn ceisio cynnig trefniant gweithio deinamig

Amser i ffwrdd arall

Mae llawer ohonoch yn rhoi o'ch amser i gefnogi dyletswyddau ac achosion cyhoeddus ac weithiau mae angen amser ar bob unigolyn i ddelio â cholli anwyliaid neu i gefnogi'r rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ar adegau o angen ac argyfyngau.

I gefnogi hyn mae’r Brifysgol yn cynnig buddion ychwanegol i helpu gan gynnwys , Amser i ffwrdd mewn , .

Cycle to Work

In partnership with Sodexo Limited and Halfords, Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ offer individuals an opportunity to hire a bike and equipment from various independent and large retailers to aid them with cycling to work. Bikes can be hired and savings made on the cost via a salary sacrifice arrangement.Ìý

Arriva Travel

Enables staff to access discounted bus travel on Arriva bus routes. Staff members are able to access their discounted ticket on-line, pay directly by direct debit and the ticket is sent to the home address. There is no minimum contract period and the scheme also allows free travel for up to two children on weekends and bank holidays.Ìý

Cynllun Prydles Ceir

Gall staff gael mynediad i’r Cynllun Prydles Ceir a gynigir gan bartner allanol a chael cerbyd newyddÌýÌýgyda gwasanaeth a chynnal a chadw llawn a thalu am hynÌý
trwy drefniant aberthu cyflog ac mae’n cynnig yr opsiwn i ddewis cerbydau mwy ecogyfeillgar a chyfrannu at ymrwymiadau cynaliadwyedd y Brifysgol.

Cynllun Prydles Ceir Tusker

Datblygu Gyrfa, Hyrwyddo ac Ailraddio

Mae cydnabod cyfraniad a llwyddiannau unigolion a helpu unigolion i symud ymlaen gyda'u dewis yrfaoedd yn bwysig i Brifysgol Bangor. Mae'r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o lwybrau ar gyfer Datblygu Gyrfa, Dyrchafiad, Ailraddio a Chydnabyddiaeth.

Dysgu a Datblygu

Gan eich cefnogi i gadw eich sgiliau, gwybodaeth a chymhwysedd yn gyfredol, mae'r Brifysgol yn darparu cyfres o gyfleoedd Dysgu a Datblygu i unigolion gael mynediad iddynt, yn rhad ac am ddim ac yn ystod oriau gwaith.

Datblygu Ymchwilwyr

Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo'n llwyr i'r Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr ac felly i ddatblygu ei staff ymchwil ym mhob cam gyrfa

Hyfforddi a Mentora

Ar brydiau efallai y bydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol arnom gyda materion yn y gwaith neu ddatblygu ein rolau a'n gyrfa. Mae gan y Brifysgol ddau gynllun rhad ac am ddim ar gael i staff sy'n dymuno cael mynediad i Hyfforddiant neu Fentora.