Tu hwnt i Fangor
Ynys Môn...
Ynys Mon ydy un o’r llefydd mwyaf poblogaidd gan ymwelwyr sy’n dod i ogledd Cymru. Gan mai Ynys ydyw, nid oes modd bod yn rhy bell o’r môr ar unrhyw adeg, sy’n fantais gan fod cymaint o draethau bendigedig i’w cael yno. Felly pam na wnewch chi groesi’r bont a mynd i dorheulo efo’ch ffrindiau pan fo’r haul yn gwenu neu os ydych chi’n un am chwaraeon dwr, ewch i syrffio’r tonnau.
Medrwch godi un bore a phenderfynu mynd i Iwerddon am y dydd, a thrwy Ynys Mon yr ewch chi yno. Mae’r fferi gyflym yn golygu fod rhyfeddodau Dulyn yn llai na dwy awr i ffwrdd o Gaergybi.
Os ydych yn ymweld â’r Ynys, mae digon o bentrefi a threfi diddorol i’ch diddanu gan gynnwys Biwmares, tref hynod hardd efo castell hanesyddol, siopau, tafarndai a thai bwyta. Neu beth am ymweld â’r pentref sydd a’r enw hiraf ym Mhrydain sef cyflym a chael hwyl am ben yr ymwelwyr sy’n trio’i ynganu.
Parc Cenedlaethol Eryri...
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn baradwys i’r rhai hynny ohonoch sy’n gwerthfawrogi natur ar ei harddaf. Mae’r parc yn 25 milltir o drysor cenedlaethol sy’n cynnwys nifer o atyniadau a llefydd gwych i gael picnic.
Mae Llanberis yn bentref sy’n eistedd yn falch yng nghanol y Parc efo’i golygfeydd bendigedig. Os ydych chi’n barod am sialens pan na wnewch chi ddringo i gopa’r Wyddfa, neu os nad ydych chi’n fodlon ar hynny, mae yna ffordd ddiog o fynd i fyny yno drwy fynd ar dren bach yr Wyddfa.
Trefi cyfagos...
Mae Caernarfon a Llandudno yn drefi cyfagos sydd werth eu gweld ac yn cynnig amryw o dafarndai, clybiau nos, siopa, tai bwyta ac atyniadau.
Mae tref frenhinol Caernarfon tua 8 milltir o Fangor ac yn enwog am ei chastell.
Tua 15 milltir y tu allan i Fangor, i lawr yr A55, mi ddowch chi o hyd i Landudno, sy’n dref boblogaidd iawn gydag ymwelwyr. Mae hefyd yn lle da i fynd i siopa.
Ddim yn bell o Landudno mae Conwy, tref ganoloesol sy’n berchen ar gastell hanesyddol a golygfeydd gwych.
Pentrefi gwerth eu gweld...
Oherwydd lleoliad gwych Bangor, mae nifer o bentrefi cyfagos y medrwch chi ymweld â nhw. Maent yn bentrefi unigryw, llawn cymeriad, ac yn rhywle da i fynd am dro yn eich amser rhydd.
Mae Betws y Coed yn bentref poblogaidd iawn efo cerddwyr a dringwyr, ond os nad oes gennych sgidiau dringo, peidiwch â phoeni, mae’r pentref yn cynnig amryw o siopa a llefydd bwyta.
Mae Beddgelert yn bentref darluniadwy arall sydd â golygfeydd bendigedig o’r Wyddfa. Unwaith eto mae Beddgelert yn boblogaidd iawn efo cerddwyr a dringwyr. Mae’n werth ymweld â Beddgelert i glywed y chwedl tu ol i’r enw ac i weld lle mae Gelert wedi ei gladdu.
Ychydig ymhellach...
Os oes gennych chi amser i’w sbario, ac eisiau dod o hyd i ddillad crand ar gyfer Dawns yr Haf neu anrhegion Nadolig, cofiwch mai dim ond awr a hanner i ffwrdd ydy Gaer.
Mae Pen Llŷn hefyd yn rhywle bendigedig y dylech chi ymweld ag ef, yn enwedig yn ystod misoedd cynnar yr haf pan fo pentrefi fel Aberdaron ac Abersoch ar eu gorau. Mae Abersoch yn lle poblogaidd iawn i syrffio, yn enwedig ym Mhorth Neigwl. Mae’r ardal hefyd yn cynnal yr ŵyl donfyrddio fwyaf yn Ewrop.
Mae Porthmadog yn enwog am Bortmeirion, y pentref Eidalaidd a gafodd ei ddefnyddio fel lleoliad ar gyfer y gyfres deledu The Prisoner, y rhaglen olaf un o Cold Feet, a fideo ar gyfer y gan ‘Alright’ gan Supergrass.