Mae ymchwil mewn swoleg Ysgol Gwyddorau Naturiol yn rhychwantu amrywiaeth eang o bynciau a systemau biolegol. Rydym yn defnyddio technegau labordy a thechnegau maes i astudio pynciau megis sail foleciwlaidd rhythmau circadaidd, rheolaeth hormonaidd ecdysis mewn anifeiliaid cramennog, egn茂eg a biomecaneg symudiadau anifeiliaid, ymddygiad anifeiliaid ac ecoleg, llywio ac ymfudo, ffisioleg atgenhedlu, personoliaeth anifeiliaid ac ymddygiad cymdeithasol. Yn ogystal 芒 gofyn cwestiynau sylfaenol yngl欧n 芒 pham a sut mae anifeiliaid yn gwneud yr hyn maent yn ei wneud, rydym hefyd yn gweithio ar gwestiynau cymhwysol megis effeithiau aflonyddwch anthropogenig ar anifeiliaid, er enghraifft ymatebion metabolaidd a ffisiolegol i newid amgylcheddol mewn organebau morol, effaith ecodwristiaeth a newid cynefin ar straen ac atgenhedlu mewn primatiaid, ac effaith s诺n ar signalu anifeiliaid ac ymddygiad llywio.