Rydym yn defnyddio'r dulliau diweddaraf (e.e. isotopau radio ac isotopau sefydlog, synwyryddion pridd a d诺r cydraniad amserol uchel, siambrau allyriadau nwyon t欧 gwydr symudol yn y maes, dulliau omics datblygedig) i gael gwell dealltwriaeth sylfaenol o faetholion (e.e. N, P , K ac S) a chylchu carbon mewn systemau daearol (amaethyddiaeth, coedwigaeth, naturiol), systemau ymylol (arfordirol, gwlyptiroedd) a systemau dyfrol (afonydd, llynnoedd a chefnforoedd).
Rydym yn canolbwyntio ar feintioli effeithiau newid amgylcheddol ac arferion rheoli ar dynged maetholion, metelau trwm, carbon a llygryddion newydd (e.e. microblastigion) mewn amrywiol ffyrdd o ddefnyddio tir, a defnyddio'r wybodaeth hon i brofi atebion arloesol i heriau cymdeithasol. Mae鈥檙 ymchwil yn cynnwys optimeiddio effeithlonrwydd maetholion wrth fewnbynnu adnoddau anorganig ac organig i briddoedd (gwrteithwyr mwy effeithlon, uwch-brosesu adnoddau organig) a lleihau llygredd gwasgaredig i dd诺r (e.e. nitradau, ffosffadau, metelau trwm, pathogenau yn cynnwys firysau, microblastigion) ac aer (e.e. allyriadau nwyon t欧 gwydr ac amonia).
Rydym yn cydweithredu 芒 llawer o grwpiau ymchwil ledled y byd, mewn hinsoddau cyferbyniol, mewn systemau defnydd tir o amrywiol ddwyster, ac ar wahanol fathau o bridd. Cyhoeddir ein hymchwil mewn cyfnodolion effaith uchel a chaiff ei ddefnyddio i danategu a dylanwadu ar bolisi ac ymarfer.