Picture of a garden at Chelsea Flower Show

Gardd sydd wedi ennill gwobr aur yn sioe flodau chelsea i gael ei lleoli yng Ngardd Fotaneg Treborth wedi鈥檙 sioe

Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno gardd yn Sioe Flodau Chelsea eleni ochr yn ochr 芒 Maint Cymru ac wedi ei noddi gan broject uchel ei barch - Project Giving Back. Mae'r prosiect hwn yn mynd y tu hwnt i arddangos yr hyn fedrwn ni ei wneud o ran dylunio; mae'n ymdrech ddiffuant i dynnu sylw at y rhan hanfodol y mae coedwigoedd trofannol yn chwarae wrth gynnal bioamrywiaeth y blaned. Bu fy nhad yn gweithio am dros ddegawd i elusen gwrth-ddatgoedwigo yn Affrica Is-Sahara, ac felly cefais fy magu鈥檔 rhannol yn y Swdan, felly mae鈥檙 materion hyn bob amser wedi bod yn agos at fy nghalon. Nod y cydweithrediad yw ysbrydoli ymwelwyr a sbarduno sgyrsiau am yr angen dybryd i weithredu arferion cadwriaethol a chynaliadwy.
Dan Bristow,  Cyfarwyddwr Studio Bristow

Mae Gardd Maint Cymru yn trochi ymwelwyr mewn tirwedd gyfoethog sy鈥檔 cynrychioli coedwigoedd trofannol, ond yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau planhigion sy鈥檔 ffynnu yn ein hecosystemau hanfodol ein hunain, yma yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn herio鈥檙 gwyliwr i gydnabod bod tirweddau eu cartref annwyl eu hunain hefyd dan fygythiad.

Ychwanegodd Nicola Pulman, Cyfarwyddwr Maint Cymru, 鈥淢ae coedwigoedd trofannol yn fannau hynod bwysig o ran bioamrywiaeth, gall un hectar gynnwys dros 300 o rywogaethau o goed ac maen nhw鈥檔 gartref i filiynau o bobl. Llynedd, cafodd 4 miliwn hectar o goedwig drofannol werthfawr ei ddinistrio ar draws y blaned, dwywaith maint Cymru. Rydym yn eich gwahodd ar ein taith RHS Chelsea, lle gyda鈥檔 gilydd gallwn sicrhau dyfodol gyda choedwigoedd.鈥

Mae 313 o rywogaethau o blanhigion yn cael eu defnyddio yn y plannu, gan adlewyrchu nifer y rhywogaethau coed sy鈥檔 bosib eu darganfod mewn dim ond un hectar o goedwig drofannol. Yn yr ardd, mae meindyrau main o goed colofnog yn esgyn tua'r awyr, wrth i blanhigion bach alpaidd grynhoi ymhlith y creigiau, wedi'u gwasgar drwyddi draw ag amrywiaeth o flodau melyn - lliw gobaith. Mae cwpl o doeau bach yn swatio ar ben pyst, gan ddwyn i gof natur fregus ein bodolaeth bresennol. Mae ffens ffwng yn rhoi llwyfan i'r deyrnas o ffyngau cudd yn bennaf, sydd mor hanfodol i iechyd pob coedwig yn y byd.

Mae pob elfen o鈥檙 ardd wedi鈥檌 churadu gyda gofal i bwysleisio harddwch a breuder ein coedwigoedd, gan wahodd ymwelwyr i ystyried 么l-effeithiau datgoedwigo ar raddfa leol a byd-eang.

Mae Natalie Chivers, Curadur Gardd Fotaneg Treborth, yn dychwelyd i RHS Chelsea am y chweched tro, eleni gyda th卯m o fyfyrwyr Prifysgol Bangor a gwirfoddolwyr Gardd Fotaneg Treborth i gynorthwyo Studio Bristow i blannu鈥檙 ardd yn gywrain, yn ogystal 芒 rhoi cymorth i adleoli'r ardd i dir Treborth ar 么l y sioe, ddechrau mis Mehefin.

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?