Parafeddyg banc - Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn bennaf
Cydymaith Meddygol - Meddygaeth Teulu
Darlithydd mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol
Pryd ddechreuoch chi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?
2003.
Pam ddewisoch chi weithio yn y Gwasanaeth Iechyd?
Swydd ddiogel a sicr a helpu'r gymuned leol a gweithio a byw ynddi.
Disgrifiwch yr hyn rydych chi'n ei wneud
Fel parafeddyg, rwy鈥檔 mynychu argyfyngau sy'n peryglu bywyd i ddechrau triniaethau a sefydlogi cleifion yn y fan a'r lle a鈥檜 cludo i'r ysbyty am fewnbwn pellach. Rwy鈥檔 gweithio fel Cydymaith Meddygol mewn Meddygaeth Teulu鈥檔 brysbennu鈥檙 rhestr glinigol yn y bore ac yn adolygu cleifion o鈥檙 rhestr brysbennu ac sydd 芒 chyflyrau cronig yn y prynhawn, fel na fydd yn rhaid mynd i鈥檙 ysbyty鈥檔 ddiangen a gwella鈥檙 canlyniadau i鈥檙 cleifion o鈥檙 herwydd a lleihau鈥檙 pwysau ar adnoddau tenau lle bo modd.聽
Fel darlithydd ceisiaf ysbrydoli ymgeiswyr newydd sy鈥檔 astudio tuag at y cymhwyster a gallu ymarfer o dan y model meddygol a chyflawni cofrestriad gyda鈥檙 Cyngor Meddygol Cyffredinol, ac egluro cyflyrau clinigol a pharatoi ymgeiswyr at weithle鈥檙 Gwasanaeth Iechyd at y dyfodol.
Beth ydych yn ei fwynhau fwyaf am eich r么l?
Y cyswllt 芒鈥檙 claf.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n meddwl am yrfa yn y Gwasanaeth Iechyd?
Gall gweithio i鈥檙 Gwasanaeth Iechyd fod yn werth chweil, ond gall hefyd fod yn straen ar brydiau ac mae鈥檔 bwysig cydweithio ar bob adeg i helpu cleifion ac amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd yn y dyfodol.
Sut byddech chi鈥檔 disgrifio鈥檙 Gwasanaeth Iechyd mewn gair?