Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:
Astudio sleidiau gyda microsgop.

Gwyddorau Meddygol

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Gwyddorau Meddygol

8fed

yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Gwyddor Biofeddygol)

Complete University Guide 2024

6ed

yn y DU am Werth Ychwanegol (Gwyddor Biofeddygol)

Guardian Good University Guide 2023

9fed

yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Gwyddor Biofeddygol)

Complete University Guide 2024

9fed

yn y DU am Anatomeg a Ffisioleg

Times Good University Guide 2023

Pam Astudio Gwyddorau Meddygol?

Er mwyn llwyddo i gael gwaith ym maes gwyddorau meddygol, amgylcheddau clinigol ac ymchwil a byrddau iechyd cenedlaethol a diwydiannau cysylltiedig ag iechyd mae'n rhaid bod yn weithwyr ac arweinwyr aml-broffesiynol hynod flaengar a medrus. Bydd ein hathrawon, ymchwilwyrÌý ac arbenigwyr sy'n cynnig darpariaeth iechyd cymwys a medrus yn cyflwyno'r lefel ofynnol o addysg ôl-raddedig i'ch galluogi i ddiwallu'r anghenion hyn.ÌýÌý

  • Mae ein graddau yn y Gwyddorau Meddygol yn seiliedig ar ymarfer meddygol modern ac fel un o'n graddedigion, bydd gennych y sgiliau i ddilyn amrywiaeth o lwybrau at yrfa clinigol, meddygol a gofal iechyd.ÌýÌý
  • Mae ein hysgol fach, gyfeillgar yn caniatáu ichi ddod i adnabod ein staff academaidd yn dda iawn a chael cymorth academaidd a bugeiliol yn hawdd, fydd ynÌýeich galluogi i berfformio ar eich gorau. Mae ein staff yn cynnwys academyddion, clinigwyr ac ymchwilwyr gyda phrofiad sylweddol yn y GIG, mewn prifysgolion ac ym myd masnach.Ìý
  • Mae ffocws a chwmpas ein cyrsiau yn amrywio fel y gellwch ddod o hyd i arbenigedd sy'n addas i'ch diddordebau a'ch dyheadau gyrfaol. Mae ein graddau meistr wedi eu gwreiddio'n gadarn yn yr ymchwilÌýdiweddaraf, ac mae'r cynnwys yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd er mwyn sicrhau y byddwch yn cael y wybodaeth ddiweddaraf mewn maes sy'n symud yn gyflym.ÌýÌý
  • Byddwch yn profi amrywiaeth eang o addysgu wrth astudio ym Mhrifysgol Bangor, ganÌýgynnwys darlithoedd a seminarau rhyngweithiol, astudio unigol dan gyfarwyddyd, cefnogaeth astudio un i un a nifer o gyfleoedd i gymhwyso gwaith ymarferol, mewn sesiynau ymarferol strwythuredig unigol a grwpiau bach.Ìý
  • Arbenigedd sy'n ymdrin â phob maes allweddol o arferion labordy ac arbenigeddau gwyddorau biofeddygol ôl-raddedig. Ìý
  • Byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau ymchwil arloesol sy'n gysylltiedig â meddygaeth gan olygu y bydd eich set sgiliau a'ch dealltwriaeth o'r radd flaenaf

Hefyd mae gennym gysylltiadau rhagorol âÌý, un o'r byrddau iechyd mwyaf yn y DU, aÌýSefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, yr elusen ganser flaenllaw ar gyfer gogledd orllewin Lloegr a gogledd Cymru. Mae rhai darlithwyr yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac i'r brifysgol ar yr un pryd sy'n golygu y cewch eich dysgu gan staff a darlithwyr er anrhydedd sydd ag 'ymbarél' cynhwysfawr o sgiliau ac arbenigedd - o fainc labordy i erchwyn gwely cleifion.ÌýÌý

Cyflawni'ch nodauÌý

Felly mae astudio gyda ni yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol yn cynnig cyfle unigryw i chi ddysgu a chyflawni'ch nodau addysgol. Gallwn eich helpu i ddod yn weithiwr neu'n arweinydd aml-broffesiynol llwyddiannus, rhagweithiol, medrus, gyda'r sgiliau a'r wybodaeth am gymhwyso meddygaeth ymarferol sy'n ofynnol ar gyfer eich gyrfa newydd lwyddiannus neu'r cam nesaf ar yr ysgol gydag amrywiaeth o gyflogwyr meddygol allweddol.Ìý

Cyfleoedd Gyrfa mewn Gwyddorau Meddygol

Bydd ein graddau ôl-radd MSc yn eich paratoi at yrfa yn y dyfodol mewn amrywiaeth o swyddi sy'n gysylltiedig â meddygaeth a biwyddoniaeth gan gynnwys (dolenni gwe allanol i dudalennau Saesneg):Ìý

  • Ìý
  • Ìý
  • ,Ìý,Ìý,Ìý)Ìý
  • Ìý
  • Ìý
  • Ìý
  • Ìý
  • Ìý
  • Ìý
  • Ìý

Byddwch mewn sefyllfa gref iÌýgystadlu'n llwyddiannus am astudio ar lefel PhD, a swyddi, ym Mhrifysgolion, sefydliadau ymchwil a diwydiannau iechyd yn y DU ac yn rhyngwladol. Bydd galw am eich sgiliau hefyd gan gyflogwyr mawr fel y diwydiant fferyllol, ymchwil feddygol a chyrff iechydÌýcyhoeddus.Ìý

Yn y 10 Uchaf

am Ansawdd Ymchwil

Complete University Guide 2022

Ein Hymchwil o fewn Gwyddorau Meddygol

Yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol, mae ein hymchwil yn defnyddio dulliau blaengar i roi sylw i gwestiynau sylfaenol ym maes meddygaeth a/neu ddatblygu cymwysiadau i ddiwallu anghenion clinigol difrifol. Mae gennym y nod cyffredinol o wella llwybr y claf, naill ai trwy gyfrannu gwybodaeth newydd i lenwi bwlch pwysig mewn gwybodaeth feddygol neu ddatblygu cymwysiadau sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at wella iechyd a lles.ÌýÌý

Rydym yn canolbwyntio'n gryf ar ymchwil canser lle mae ein timau ymchwil nid yn unig yn archwilio'r prosesau cymhleth sy'n arwain at ddatblygiad, cynnydd acÌýymwrthiantÌýcanserau i therapïau, ond maent hefyd yn datblygu'r sylfaen ar gyfer therapïau newydd a thechnolegau monitro cleifion. Mae'r timau ymchwil canser wedi'u lleoli yn Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, sy'n ein hintegreiddio â'r rhwydweithiau ymchwil ehangach mewn prifysgolion ymchwil eraill ledled y byd a darparwyr gofal iechyd. Mae hyn yn sicrhau bod ein hymchwil yn berthnasol i anghenion cleifion canser yng Nghymru a thu hwnt.Ìý

Mae arbenigedd ein staff yn cwmpasu amrywiaeth o feysydd ymchwil gan gynnwysÌýCymwysiadau a therapïau clinigol mewn Imiwnoleg Ddynol ac awtoimiwnedd;ÌýGeneteg Foleciwlaidd;ÌýGeneteg Feddygol;ÌýCanser;ÌýMicrobioleg Feddygol;ÌýBiocemeg Feddygol;ÌýAnatomeg ac Arferion Clinigol;ÌýNanodechnoleg.ÌýÌý

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.