Canolfan Gweithgarwch Corfforol ar gyfer Iechyd a Lles (Canolfan PAWB)
Yng Nghanolfan PAWB ceir labordy addysgu ffisioleg mawr o’r radd flaenaf (a gostiodd mwy na £1 miliwn) a gynlluniwyd i ganiatáu i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau ymarferol yn effeithiol, a dau labordy ymchwil ar gyfer profion ffisioleg ymarfer ac adsefydlu.Ìý
Mae gan y rhain ergomedrau beicio, peiriannau rhwyfo, melinau traed, a phwysau rhydd fel y gellir asesu ymatebion ffisiolegol, biocemegol a seicolegol i ymarfer corff, gan gynnwys ffitrwydd aerobig a chynhwysedd anaerobig, a chryfder. Mae'r labordai hyn hefyd yn cynnwys offer i asesu pwysedd gwaed, egni a ddefnyddir, a chyfansoddiad y corff.
Ìý
Labordai Ymchwil Padarn
Mae Padarn yn gartref i labordy Biocemeg ac offer i ddadansoddi samplau biolegol amrywiol gan gynnwys meinwe, gwaed, poer ac wrin. Ceir hefyd ystafelloedd arbrofol seicoechddygol a labordy dadansoddi symudiad 3D, gyda system dadansoddi symudiad 12 camera Vicon 3D i ddadansoddi symudiadau’r corff cyfan, a system marcwyr gweithredol er mwyn ffilmio a dadansoddi symudiadau llai rhannau o’r corff. Mae yna hefyd dracwyr llygaid symudol i fesur symudiadau llygaid wrth gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff, a sbectolau achludiad i drin maes gwelededd yn uniongyrchol mewn amser real pan fo rhywun yn symud.
Mae gan y labordy ymchwil cardiofasgwlar beiriant uwchsain a systemau electrocardiogram 12 gwifren i fesur gweithgaredd yn y pibellau gwaed a'r galon. Mae Padarn hefyd yn gartref i'r labordy seicoffisioleg gyda chaledwedd a meddalwedd bioadborth a ddefnyddir ar gyfer ymchwil sy'n archwilio buddion posibl hyfforddiant bioadborth (e.e. dysgu rheoli tonnau'r ymennydd, tensiwn yn y cyhyrau, cyfradd curiad y galon) ar gyfer adsefydlu symudiadau a pherfformiad chwaraeon.