Gwobrau'r Brifysgol
MSc trwy Ymchwil wedi ei gyllidio yn llawn i gychwyn 1 Hydref ar sail llawn amser.ÌýBydd y cyllid yn talu am ffioedd, tâl o £16,000, a ffi mainc am ymchwil/hyfforddiant ayyb o hyd at £5,000. Mae'n agored i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Y dyddiad cau yw 31 Gorffennaf.Ìý
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwchÌýDr Emma GreenÌýfydd yn rheoli'r broses ymgeisio.Ìý
(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)
Bydd gwerth yr ysgoloriaeth yr un fath ag Efrydiaeth Ôl-raddedig y Brifysgol, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael. Rhaid i'r ymgeisydd ddilyn cynllun astudio am radd ôl-raddedig ymchwil yn y Celfyddydau neu'r Gwyddorau ym Mhrifysgol Bangor.
Darperir Ysgoloriaethau Price Davies (sydd hefyd yn cynnwys Ysgoloriaethau Mynediad Price Davies) o incwm o gymynrodd a wnaed i Brifysgol Cymru yn 1900 gan y diweddar Mr Price Davies o Leeds.
Cymhwyster
- Rhaid i’r ymgeisydd ddilyn cynllun astudio am radd ôl-raddedig yn y Celfyddydau neu’r Gwyddorau ym Mhrifysgol Bangor.
- Yr ymgeisydd sydd, ym marn Senedd Prifysgol Bangor, fwyaf teilwng ar sail perfformiad yn yr arholiadau gradd
Gwybodaeth Ychwanegol
- Bydd gwerth yr ysgoloriaeth yr un fath ag Efrydiaeth Ôl-raddedig y Brifysgol, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael
- Yr ysgoloriaethau i’w dal am un flwyddyn academaidd o ddyddiad y dyfarniad ond gellir eu hadnewyddu am ail a thrydedd flwyddyn academaidd, yn gymesur ac yn amodol ar y cyllid sydd ar gael
Dylid cyflwyno ceisiadau i'r Ysgol Ddoethurol (pgr@bangor.ac.uk) erbyn 31 Awst 2024 fan bellaf.
(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)
Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £1,500 i gefnogi graddedigion dawnus o Brifysgolion Cymru sydd â diddordeb mewn iaith, llenyddiaeth, hanes a hynafiaethau Cymru.
(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)
Mae Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Llewelyn Williams yn galluogi ymchwil i Hanes Cymru, gan gynnwys deddfau Cymreig ac agweddau economaidd bywyd Cymreig. Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £7,000 i gefnogi graddedigion Hanes, Cyfraith ac Economeg dalentog sydd â diddordeb mewn ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgolion Cymru.
(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)
Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £2,000 i gefnogi graddedigion dawnus o Brifysgolion Cymru sydd â diddordeb mewn Newyddiaduraeth neu Faterion Rhyngwladol.
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ymchwil PhD ym maes Seicoleg Newid Ymddygiad a Chynllunio Iaith. Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae Postgrad Solutions Cyf yn cynnig tri-ar-ddeg Bwrsariaeth ôl-radd, werth £500 yr un.Ìý
Gall myfyrwyr DU (gan eithrio myfyrwyr o Gymru a myfyrwyr sydd wedi eu hariannu gan y GIG) fod yn gymwys i dderbyn Bwrsariaeth Mynediad Ôl-radd os oeddent yn derbyn un o'r canlynol tra'n fyfyrwyr yn ystod y flwyddyn academiaeth 2023-24 neu'n ddi-waith cyn cychwyn cwrs ol-radd yn Brifysgol Bangor.
- Grant CynhaliaethÌý
- Benthyciad CynhaliaethÌý
- Bwrsariaeth FoyerÌý
- Bwrsariaeth phrofiad gofal
- Gymhorthdal IncwmÌý/ÌýLwfans Ceisio Gwaith/ Credyd Cynhwysol
Rhaid i fyfyrwyr allu dangos tystiolaeth eu bod wedi derbyn y grantiau, bwrsariaethau neu fudd-daliadau hyn.
Dyfernir bwrsariaeth o £1000 i:
- fyfyrwyr oedd yn derbyn cyllid myfyrwyr mwyaf posib pan oeddent yn israddedigion yn ystod 2023-24.
- fyfyrwyr oedd yn ddi-waith yn union cyn cychwyn eu cwrs ôl-radd
Dyfernir bwrsari o £500 i:
- fyfyrwyr oedd yn israddedigion yn 2023-24 ac yn derbyn cyllid myfyrywyr rhannol.
I gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â'rÌý
Mae Prifysgol Bangor yn aelod o siarter Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau Athena SWAN ac felly wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth rhwng y rhywiau, ac i greu a hyrwyddo diwylliant cynhwysol i staff a myfyrwyr ar bob lefel. Diben ysgoloriaethau Bangor Gynhwysol cefnogi myfyrwyr sy'n graddio i barhau â'u hastudiaethau ym Mangor - yn enwedig mewn meysydd lle mae nifer o ein myfyrwyr yn dangos tangynrychiolaeth o rai grwpiau. Ysgoloriaethau yw'r rhain ar gyfer gradd meistr (hyfforddedig neu drwy ymchwil) mewn unrhyw ddisgyblaeth. Dyfernir un ysgoloriaeth i bob Coleg.Ìý
Beth mae'n ei gynnwys?
ÌýTaliad tuag at ffioedd dysgu cwrs Meistr ôl-radd hyfforddedig neu ymchwil am un flwyddyn (neu am ddwy flynedd os yr astudir y cwrs yn rhan amser). Bydd terfyn uchaf o £9,500. Ìý
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â athenaswan@bangor.ac.uk
Mae cynllun Ysgoloriaeth Chwaraeon Bangor yn bwriadu cydnabod a chefnogi rhagoriaeth a chyrhaeddiad mewn chwaraeon. Nid yw'r Ysgoloriaethau, sy'n werth £3,000 y flwyddyn, wedi'u cyfyngu i unrhyw gamp neilltuol nac i fyfyrwyr ar unrhyw gyrsiau penodol.
Ariannu Strwythurol
²Ñ²¹±ðÌýYsgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2)Ìýyn darparu cyfleoedd ar gyfer astudiaeth PhD ac Ymchwil Meistr wedi'i gyllido mewn cydweithrediad â busnes neu bartner gwmni gweithredol. Fe'i hariennir ganÌýGronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF)Ìýdrwy Lywodraeth Cymru ac mae'n cynnwys pob prifysgol yng Nghymru, a arweinir gan Brifysgol Bangor.
Ysgoloriaethau ar gaelÌý.
Allanol
Bwrsariaeth 'Leverhulme Trade Charities Trust'
Mwy o wybodaeth ar gaelÌý
FindaMasters.com Ysgoloriaeth
Mae FindaMasters.com yn cynnig ysgoloriaeth ar gael ym mhob pwnc mewn unrhyw brifysgol sydd wedi rhestru ar FindaMasters.com.Ìý.
FindaPhD.com Ysgoloriaeth
Mae FindaPhD.com yn cynnig ysgoloriaeth ar gael ym mhob pwnc mewn unrhyw brifysgol sydd wedi rhestru ar FindaPhD.com.Ìý.
Ymholiadau am Astudio Ol-radd ym Mangor
- -
Cyrsiau Wedi'u Hariannu
Mae nifer o gyfleoedd ariannu ar gael. Cysylltwch â'rÌýÌýi wybod mwy am y cyllid sydd ar gael.
Cofiwch bod rhai ysgolion academaidd hefyd yn cynnig ysgloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi eu pynciau. Ewch i'r dudalen arÌýÌý²Ô±ð³ÜÌýÌýi gael mwy o wybodaeth.
Ysgoloriaethau a Gwaddoliadau
- Ìý
Benthyciadau
Arweiniad Amgen Ar-lein at Gyllid Ôl-radd
Mae'r Arweiniad Amgen Ar-lein at Gyllid Ôl-radd yn ymwneud â ffynonellau amgen o gyllid - yn enwedig elusennau - a all ddyfarnu cyllid (ffioedd, cynhaliaeth, costau ymchwil) i unrhyw fyfyriwr, beth bynnag a fo ei (d)dinasyddiaeth.Ìý
Mae'r Arweiniad Amgen Ar-lein â chronfa ddata enfawr o gyfleoedd i gael cyllid, arweiniad cynhwysfawr ac offer niferus i'ch helpu i baratoi cais sy'n mynd i ennill grant ichi. I gynorthwyo ein myfyrwyr, mae Prifysgol Bangor wedi prynu trwydded ar gyfer yr Arweiniad, fel ei fod am ddim i holl fyfyrwyr a staff Bangor ei ddefnyddio!Ìý!Ìý
Os ydych yn ddarpar-fyfyriwr ac wedi gwneud cais i ddod i Brifysgol Bangor, anfonwchÌýe-bostÌýer mwyn cael PIN mynediad.
PostgraduateStudentships.co.uk
- Gwefan ywÌýÌýsy'n dod â'r holl wahanol fathau o gyllid sydd ar gael i ddarpar ôlraddedigion at ei gilydd mewn un lle. Felly, gellwch weld beth sydd ar gael o ffynonellau cyffredinol, yn ogystal â chyfleoedd a chyllid o'r brifysgol ei hun.
Mae’n bleser gan Brifysgol Bangor gynnig ysgoloriaethau ymchwil Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (WGSSS) (Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol yr ESRC) sydd wedi’u hariannu’n ym mis Hydref 2025 ym meysydd pwnc y llwybrau canlynol.
- Dwyieithrwydd/Ieithyddiaeth
- Seicoleg
- Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer
- Troseddeg a’r Gyfraith
- Astudiaethau Cymdeithaseg/Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Gwyddor Data, Iechyd a Lles
- Addysg
- Gwaith Cymdeithasol, Gofal Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol
- Economeg
- Rheolaeth a Busnes
- Cynllunio amgylcheddol
Meini Prawf Mynediad:   Ìý
I dderbyn cyllid un o ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS, mae’n rhaid bod gennych chi gymwysterau neu brofiad sy'n cyfateb i radd anrhydedd yn y DU ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr. Mae croeso i fyfyrwyr sydd â chefndir academaidd anhraddodiadol hefyd wneud cais.  Ìý
Hyd yr astudiaeth:  Ìý
Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd amser llawn (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddi yn rhan-amser).    Ìý
Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwilio blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad o’r Anghenion Datblygu. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau am astudio’n amser llawn ac yn rhan-amser.  Ìý
Lleoliad ymarfer wrth ymchwilio:  Ìý
Bydd gofyn i bob myfyriwr a ariennir gan yr WGSSS gwblhau lleoliad Ymarfer wrth Ymchwilio a ariennir am gyfanswm o 3 mis (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddo yn rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliad academaidd, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.   Ìý
Gofynion rhyngwladol ynghylch bod yn gymwys:  Ìý
Mae ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS ar gael i fyfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol. Caiff hyd at 30% o'n carfan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Ni chodir y gwahaniaeth rhwng ffi y DU a'r ffi ryngwladol ar fyfyrwyr rhyngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion o ran bod yn gymwys.    Ìý
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:  
Mae’r WGSSS wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu diwylliant sy’n cynnwys pawb. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bob aelod o'r gymuned fyd-eang waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.   Ìý
Asesu:  Ìý
Bydd yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad. Yn rhan o'r broses gyfweld, bydd gofyn i ymgeiswy roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan y panel 
Sut i wneud cais:  Ìý
Dylai ceisiadau ddod i law erbyn 11/12/24 fan bellaf gan gynnwys yr holl ddogfennau sydd eu hangen. Oherwydd nifer y ceisiadau a ddaw i law, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.   Ìý
Dylid cyflwyno pob cais gan ddefnyddio’r dolenni canlynol (defnyddiwch y cyfeiriad e-bost cywir ar gyfer y llwybr a gyflwynir i:
- Dwyieithrwydd/Ieithyddiaeth – bilingwgsss@bangor.ac.uk
- Seicoleg – psychwgsss@bangor.ac.uk
- Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer – spexwgsss@bangor.ac.uk
- Troseddeg a'r Gyfraith – crimwgsss@bangor.ac.uk
- Astudiaethau Cymdeithaseg/Gwyddoniaeth a Thechnoleg - socwgsss@bangor.ac.uk
- Gwyddor Data, Iechyd a Lles – dshwbwgsss@bangor.ac.uk
- Addysg eduwgsss@bangor.ac.uk
- Gwaith Cymdeithasol, Gofal Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol – socialworkwgsss@bangor.ac.uk
- Economeg - econwgsss@bangor.ac.uk
- Rheolaeth a Busnes businesswgsss@bangor.ac.uk
- Cynllunio Amgylcheddol envirowgsss@bangor.ac.uk
Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:  Ìý
- CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen).Ìý
- Dau eirda academaidd neu broffesiynol (mae’n rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Mae’n rhaid i'r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd.Ìý
- Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol)  Ìý
- Os yw'n berthnasol, prawf o Gymhwysedd yn y Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad) Ìý
Cyllid:  Ìý
Mae ysgoloriaethau ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffioedd dysgu, cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol ag (£19,237 ar hyn o bryd) ac mae'n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.   Ìý
Os oes gennych chi anabledd, efallai y bydd gennych chi hawl i ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.   Ìý
Cyfleoedd Ôl-raddedig fesul Maes Pwnc
Mae'r Ysgolion Academaidd yn cynnig nifer o ysgoloriaethau, ysgoloriaethau a bwrsariaethau Ôl-raddedig.Ìý Mae modd gweld y cyfleoedd fesul maes pwnc.
- Gwyddorau Addysgol
- Busnes
- Cerddoriaeth
- Cyfryngau
- Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig
- Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
- Gwyddorau Eigion
- Gwyddorau Iechyd
- Gwyddorau Meddygol
- Gwyddorau Naturiol
- Hanes, Treftadaeth ac Archaeoleg
- Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth
- Seicoleg
- Y Gyfraith, Troseddeg a Gwyddorau Cymdeithas
- Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd