Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:

Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2)

Mae Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn fenter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan. Arweinir y fenter gan Brifysgol Bangor, sy’n cefnogi cymwysterau doethuriaeth, MPhil a graddau meistr ymchwil ym mhob prifysgol yng Nghymru, a noddir ar y cyd gan bartneriaid allanol o Gymru.

Ìý

Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth

Mae Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth yn rhaglen Cydgyfeirio Ewropeaidd o bwys a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector addysg uwch yng Nghymru. Gan elwa o Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF), mae KESS yn cefnogi prosiectau ymchwil cydweithredol ar lefelau Meistr a PhD ochr yn ochr â busnesau a sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn ardal Gydgyfeirio Cymru (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd).

Mae angen i academydd o Brifysgol Bangor a chwmni partner ymchwilio i gynigion prosiect - gyda'r prosiect yn canolbwyntio ar fynd i'r afael ag angen cwmni.

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid ESF rhaid i brosiectau gadw at y meini prawf canlynol:

  • Cael ei gwmpasu mewn partneriaeth â phartner cwmni.
  • Rhaid i weithgarwch y prosiect fod yn rhanbarth cydgyfeirio Cymru.
  • Bydd yn rhaid i bartner y cwmni gyfrannu cyfraniad ariannol blynyddol rhwng £3k - £4k +TAW (yn dibynnu ar faint y cwmni).
  • Rhaid i brosiectau ffitio o fewn un o feysydd her fawr LlC : Gwyddorau Bywyd ac Iechyd; Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd; TGCh a'r Economi Ddigidol; Peirianneg a Deunyddiau Uwch.
  • Rhaid iddo arwain at Radd Meistr trwy Ymchwil; MRes neu gymhwyster PhD.
  • Rhaid ei gwblhau mewn 3.5 mlynedd ar gyfer PhD; 1 flwyddyn 3 mis ar gyfer Meistr Ymchwil.
  • Unwaith y bydd prosiectau arfaethedig wedi'u cymeradwyo, cynigir ysgoloriaeth.

Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig y canlynol i'r cyfranogwr cymwys (myfyriwr):

  • Cyflog misol yn unol â chyfraddau RCUK: 3 blynedd o gyllid @ £14,002 y flwyddyn ar gyfer PhD; cyllid blwyddyn o £11,313 ar gyfer Meistri Ymchwil.
  • Mae BU yn hepgor ffioedd dysgu prifysgol.
  • Cyfle i gael mynediad at gyfres o hyfforddiant sgiliau lefel uwch a mynychu Ysgol Raddedigion KESS breswyl. Rhaid i bob cyfranogwr gwblhau Gwobr Datblygu Sgiliau Ôl-raddedig KESS.
  • O leiaf 30 diwrnod y flwyddyn yn gweithio gyda phartner y cwmni ar eu prosiect dynodedig.
  • Cyllideb KESS safonol ar gyfer costau eraill sy'n ymwneud â phrosiectau ymchwil (teithio, nwyddau traul ac offer).
  • Rhaid i fyfyrwyr gwblhau a chyflwyno eu traethawd ymchwil mewn 3.5 mlynedd ar gyfer PhD; 1 flwyddyn 3 mis ar gyfer Meistr Ymchwil.
  • Dylai ymgeiswyr fod yn byw yn ardal gydgyfeirio Cymru pan gânt eu penodi, a dylai fod ganddynt yr hawl i weithio yn y rhanbarth ar ôl cymhwyso.

Ìý

Cysylltiadau

Staff E-bost Swydd ¹ó´Úô²Ô
Penny Dowdney p.j.dowdney@bangor.ac.uk Rheolwr KESS 2 Cymru 01286 38 2266
Brian Murcutt b.murcutt@bangor.ac.uk Cydlynydd Project KESS 2 01286 38 2162
Aashu Jayadeep a.jayadeep@bangor.ac.uk Gweinyddwr yr Ysgol Ddoethurol 01286 38 2357
Caroline Barton c.barton@bangor.ac.uk

Swyddog Cefnogi Project KESS 2

01286 38 3582
Dawn Davies d.davies@bangor.ac.uk

Uwch Swyddog Cyllid KESS 2

01286 38 2846
Mererid Gordon m.h.gordon@bangor.ac.uk

Swyddog Dylunio, Marchnata

a Chyhoeddusrwydd KESS 2

01286 38 8715
Sandra Roberts s.l.roberts@bangor.ac.uk Swyddog Monitro KESS 2 01286 38 2501
Shaun Davies s.c.davies@bangor.ac.uk

Swyddog Clercyddol

Project KESS 2

01286 38 8863
KESS 2 KESS2@bangor.ac.uk Ymholiadau Cyffredinol Ìý
Sefydliad Enw ¸éô±ô ¹ó´Úô²Ô E-bost
Prifysgol Aberystwyth Gwern Hywel Rheolwr Project KESS 2 01970 628579 gwh5@aber.ac.uk
Prifysgol Caerdydd Esther Meadows Swyddog Cydymffurfio a Cyllid KESS 2 02920 879196 KESS@cardiff.ac.uk
Prifysgol Metropolitan Caerdydd Huw Hughes Cyfarwyddwr Prosiectau Ewropeaidd (Ymchwil) 02920 416612 hhughes@cardiffmet.ac.uk
Prifysgol Glyndŵr Stewart Milne Pennaeth Gwasanaethau Ymchwil 01792 481199 s.milne@glyndwr.ac.uk
Prifysgol Abertawe

Jane Kelly

Jane Phipps

Cydlynydd Project KESS 2

01792 513565

01792 513729

KESSstudentenquiries@swansea.ac.uk

Prifysgol Cymru Y Drindod

Dewi Sant (UWTSD)

Ìý

Nicola Powell Gweinyddwr KESS 2 01792 481199 Nicola.powell@uwtsd.ac.uk
Prifysgol De Cymru (USW) Clare Naylor Rheolwr Rhaglen USW KESS 2 01443 654496 kess@southwales.ac.uk