Project gan yÌýGanolfan Astudiaethau ArthuraiddÌýyw 'Cartref y Chwedlau'. Caiff y project ei ariannu gan Gronfa Prifysgol Bangor, menter yr Is-Ganghellor, sy'n cefnogi meysydd o flaenoriaeth strategol i'r brifysgol arÌý140 mlwyddiant Prifysgol Bangor (1884). Nodau’r project yw amlygu rôl ganolog AstudiaethauÌýCymreig, Celtaidd, acÌýArthuraiddÌýyn lleol yn ardal Prifysgol Bangor, ac yn y broses o sefydlu llyfrgell y brifysgol yn nechrau ei hanes, a hybu ysgolheictod, addysgu ac ymchwil pellach yn y meysydd hynny. Mae gwreiddiau'r project ynÌýArchifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, ac yn fodd hefyd i ddathlu casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint.
I gyd-daro â’r arddangosfa ar-lein bydd y Ganolfan yn cynnal cyfres o Ddarlithoedd Arthuraidd yn 2024, fel rhan o ddathliad 140 Prifysgol Bangor. Bydd hefyd raglen addysgol i’r ysgolion cynradd lleol ar gyfer y Cwricwlwm Creadigol Newydd yng Nghymru, o dan arweiniad yr Athro Radulescu gydaÌý, aÌý.
Mae elfen ryngwladol i’r project, a ninnau'n cydweithio i greu ‘set rithwir o gasys arddangos’ ar y cyd â’rÌýÌýa gynhelir am flwyddyn ynÌý, Rochester, UDA, o gasgliadau preifat Dr Alan Lupack (aelod bwrdd allanol o’r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, a chyn Gyfarwyddwr Llyfrgell Rossell Hope Robbins) a'i wraig Dr Barbara Tepa Lupack.
Caiff y project ei gydlynu gan y Ganolfan, ac mae'n cyflwyno canlyniadau ymchwil a goruchwyliaeth gan staff y Ganolfan (Y Cyd-Gyfarwyddwyr,ÌýYr Athro Raluca RadulescuÌý²¹ÌýDr Aled Llion Jones, a Rheolwr y Casgliadau Arbennig,ÌýShan Robinson), y myfyrwyr PhD Claire Lober ac Aude Martin, a’r myfyriwr MA Joel Meredith. Mae cyfraniadau gan y cyn-fyfyrwyr Dr Ashley Walchester-Bailes,Ìý, cyn-fyfyrwyr MA Merlynn Spenser, Jessica Brandon a Maurita van Drogenbroek, hefyd yn rhan o’r arddangosfa, sydd hefyd yn dathlu 10 mlynedd ers dyfodiad casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint, a yn rhodd gan Gyngor Sir y Fflint yn 2014.
Ìý
Ìý
Ìý