Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Bydd y rhaglen Gwyddor Biofeddygol MSc yn rhoi persbectif amlddisgyblaethol o'r maes patholeg, geneteg feddygol a rheoli clefydau presennol ac sy'n datblygu. Bydd y rhaglen hon yn rhoi sylfaen eang o wybodaeth wyddonol i fyfyrwyr ynghylch iechyd ac afiechyd o bwys mewn diagnosteg fodern.
Mae'r modiwlau hyn wedi eu cynllunio i ddarparu profiad damcaniaethol ac ymarferol blaengar a chaiff myfyrwyr eu dysgu am sut i ymchwilio i wahanol gyflyrau meddygol gan gynnwys canser, anaf tocsicolegol, gwenwyn bwyd, anemia, llid yr ymennydd a chlefyd y galon.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Gwyddor Biofeddygol.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mynediad trwy lwybr academaidd: bydd ymgeiswyr wedi cael, neu ar y ffordd i gael, gradd BSc 2:2 (neu uwch), mewn pwnc gwyddorau bywyd cysylltiedig 芒 meddygaeth, gan Sefydliad Addysg Uwch cydnabyddedig.
Lefel iaith Saesneg. IELTS (neu gymhwyster cyfatebol) 7.0 yn gyffredinol neu uwch.
Gyrfaoedd
Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i agor cyfleoedd datblygu gyrfa ym meysydd Gwyddor Biofeddygol sy'n datblygu mewn perthynas 芒 disgyblaethau patholeg craidd i bobl sydd eisoes yn gweithio yn y sector clinigol/gofal iechyd ac sy'n astudio gyda ni'n rhan amser. Bydd graddedigion sy'n ystyried llwybrau cyflogaeth newydd mewn sefyllfa dda i fynd i swyddi cefnogi, gweithredu a datblygu ym maes cynhyrchu a gwerthu offer diagnostig sy'n ehangu'n gyflym yn ogystal 芒 llwybrau ffarmacolegol. Bydd y rhaglen hon hefyd yn galluogi'r rhai sy'n ystyried gyrfaoedd mewn ymchwil ar draws sefydliadau meddygol a chlinigol, sefydliadau academaidd a diwydiant ddechrau yn y swyddi hyn. DS Er mwyn ymarfer mewn labordy GIG fel Gwyddonydd Biofeddygol cofrestredig, bydd angen gradd isradd Gwyddor Biofeddygol achrededig yn gyntaf.