Cyrsiau Datblygu Proffesiynol

Cyrsiau Byd Addysg

Gweithdai ymarferol yw’r cyrsiau byd addysg a’u prif amcanion yw:

  • datblygu hyder ac annibyniaeth wrth loywi eich sgiliau iaith personol;
  • datblygu ymwybyddiaeth bersonol o reolau iaith a gwallau cyffredin a gallu cymhwyso hyn yn eich gwaith yn yr ysgol / coleg;
  • cyflwyno adnoddau defnyddiol a rhoi arweiniad ar sut i’w defnyddio – llyfrau gramadeg, Llawlyfr Gloywi Iaith Canolfan Bedwyr; geiriaduron; gwefannau termau; offer cywiro cyfrifiadurol – CYSGLIAD ac ati
  • gwneud ymarferion llafar ac ysgrifennu perthnasol i’ch gwaith yn yr ysgol / coleg
  • eich helpu i ymdrin yn hyderus â gofynion y Fframwaith Llythrennedd

Cyrsiau Agored i Bawb

Gweithdai ymarferol yw’r cyrsiau sy’n agored i bawb a’r prif amcanion yw:

  • datblygu hyder ac annibyniaeth wrth loywi eich sgiliau iaith personol;
  • datblygu ymwybyddiaeth gyffredinol o reolau iaith a gwallau cyffredin;
  • cyflwyno adnoddau defnyddiol a rhoi arweiniad ar sut i’w defnyddio – llyfrau gramadeg, Llawlyfr Gloywi Iaith Canolfan Bedwyr, geiriaduron, gwefannau termau, offer cywiro cyfrifiadurol – CYSGLIAD ac ati;
  • gwneud ymarferion llafar ac ysgrifennu perthnasol i’ch gwaith

Cyrsiau datblygu sgiliau iaith i gwmnïau a sefydliadau allanol

  • Rydyn ni hefyd yn cynnal cyrsiau iaith i gwmnïau, asiantaethau a sefydliadau allanol sy’n awyddus i’w staff ddatblygu eu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith. Mae’r cyrsiau hyn wedi’u seilio ar ein rhaglen o gyrsiau agored ond gallwn eu teilwra i’ch gofynion trwy drafodaeth. Gallwn eu cynnal yn ein hystafell ddysgu bwrpasol yma yng Nghanolfan Bedwyr neu ddod atoch chi i’w dysgu.
  • Rydyn ni’n ceisio cadw’r dosbarthiadau’n fychan fel ein bod hefyd yn gallu rhoi sylw i anghenion unigolion lle bo hynny’n addas. Yr uchafswm o ran nifer mewn dosbarth fel arfer ydy 12.

Dyma rai sefydliadau sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth hwn yn y gorffennol:

  • BBC Cymru
  • Parc Cenedlaethol Eryri
  • Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Rhwydwaith Cyfiawnder Gogledd a De Cymru
  • Gyrfa Cymru

Ìý

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?