- Ynganu enwau pobl ac enwau lleoedd/adeiladau/adrannau yn gywir
- Cyfarch a ffarwelio, ymadroddion sylfaenol
- Deialog/set o ymadroddion syml sy’n berthnasol i'r swydd e.e.:
- Uwch-reolwyr - agor a chau cyfarfod yn Gymraeg
- Derbynfa - trosglwyddo galwad ffôn
- Llyfrgell – adnewyddu llyfr wrth y ddesg
Ìý
Lefel iaith: Mynediad 1 (8-10 awr o ddysgu)
Mae Lefel 2 mewn dwy ran:
Rhan 1 (yr un fath i bawb)
- Rhifau, dyddiau'r wythnos, amser cyfarfod, teitl swydd/adran
- Set o ddeialogau penodol yn defnyddio chi, ti, yn cynnig panad/ trefnu cyfarfod
- Defnydd syml o'r gorffennol a'r presennol
- Ymateb yn syml i gwestiynau am y gwaith: ydw, ydy, do, iawn
- Creu neges syml 'allan o'r swyddfa' gan ddefnyddio templed, gosod yn ddwyieithog a newid y dyddiad
Rhan 2 (teilwra ar gyfer y swydd)
- Set o tua 20 o ymadroddion/brawddegau sy'n cael eu defnyddio yn aml gan yr aelod o staff yn ei swydd wrth ddelio efo pobl eraill
- Deialog/sefyllfa wedi'i sgriptio gyda'r aelod o staff ymlaen llaw
- Cyfeirio rhywun i ran arall o'r adeilad/safle (gweinyddwyr)
neu
- Ysgrifennu e-bost syml yn trefnu cyfarfod efo staff/cydweithiwr (uwch-reolwyr)
Lefel iaith: Mynediad 2 - cyn neu ar ôl arholiad Mynediad
- Cyfres o 6 deialog – wyneb yn wyneb a dros y ffôn - wedi’u seilio ar sefyllfaoedd sy'n codi yng ngwaith yr unigolyn.
- Pob deialog wedi'u sgriptio ymlaen llaw gyda’r aelod o staff, ond dim rhaid iddyn nhw gadw yn union at y sgript yn y prawf.
- Dau o’r deialogau yn cael eu gosod yn y prawf (heb i’r ymgeisydd wybod ymlaen llaw pa rai).
- Y tiwtor yn gofyn 2 gwestiwn gwaith ar ddechrau’r prawf: Be’ wnaethoch chi yn y gwaith ddoe / Be’ dach chi’n ‘neud yn y heddiw/yfory?
- Ysgrifennu 3 e-bost byr (cyn y prawf llafar yn eu hamser eu hunain) yn ymwneud â’r swydd e.e. neges allan o’r swyddfa; trefnu cyfarfod efo cydweithiwr; un e-bost yn ymateb i neges oddi wrth y tiwtor.
- Gellir amrywio deunydd y lefel yn ôl gofynion y swydd e.e. llyfrgell – hepgor yr e-byst a gosod 7 deialog wrth y ddesg a 2 dros y ffôn
Lefel iaith: Sylfaen – cyn neu ar ôl arholiad Sylfaen
Ìý
Gallu delio efo nifer o wahanol ymholiadau/sefyllfaoedd, gan gynnwys:
Sgwrs wyneb yn wyneb
- Sgwrs anffurfiol gyda’r tiwtor am y gwaith
- Sgwrs anffurfiol gydag un o’r cydweithwyr
Sgwrs dros y ffôn
- Aelod o staff yn ffonio i holi am y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith
- Ymgeisydd yn ffonio cydweithiwr i drefnu cyfarfod neu i drafod darn o waith
Tasgau ysgrifennu
- Llunio rhestr syml / set o nodiadau syml sy’n berthnasol i’w gwaith
- Llunio neges e-bost anffurfiol at gydweithiwr (yn ymwneud ag elfen ar eu gwaith).
Gall y dysgwr ymarfer y sefyllfaoedd ymlaen llaw ond heb wybod yn union pa gwestiynau fydd yn codi a beth yn union fydd y cynnwys - dim sgript
Lefel iaith: Canolradd – cyn neu ar ôl arholiad Canolradd
Sgwrs wyneb yn wyneb
- Sgwrs anffurfiol gyda rhywun yn y swyddfa
- Sgwrs gyda’r tiwtor – siarad am y gwaith (tiwtor yn holi am y gwaith)
- Aelod o staff yn galw yn y swyddfa (sgwrs heb ei pharatoi ymlaen llaw)
Sgwrs ar y ffôn
- Ffonio rhywun allanol e.e. aelod o staff mewn adran wahanol i gadarnhau rhywbeth
- Aelod o staff mewn swyddfa arall yn ffonio i drafod rhywbeth ( sgwrs heb ei pharatoi)
Ysgrifennu/darllen a deall
- Ysgrifennu e-bost anffurfiol i aelod o staff yn trefnu cyfarfod i drafod digwyddiad
- Eitem ffurfiol (e.e. Agenda, neges e-bost i grŵp o staff)
- Fel yr uchod ond disgwyl mwy o gywirdeb/rhuglder/gwell ddealltwriaeth nag yn lefel 5
- Angen marc uwch i lwyddo
- Cywiro darn o Gymraeg sy'n cynnwys gwallau
- Cynnwys elfen mentora – helpu staff eraill i ddysgu pethau gweithle ar lefel sylfaenol
Lefel iaith: Uwch 2 – Ar ôl arholiad Uwch
- Cyflwyniad / cyfweliad / cyfarfod (go iawn) – sy’n berthnasol i’r swydd
- Siarad efo grŵp o bobl (e.e. myfyrwyr, aelodau’r tîm, dysgwyr)
- Trafod darn o waith efo cydweithiwr – os yn bosib rhywun sy wedi bod yn siarad Saesneg efo’r ymgeisydd hyd yn hyn
- Sesiwn mentora efo aelod o’r staff sy’n dysgu Cymraeg – neu gynorthwyo tiwtor mewn sesiwn dysgu efo grŵp o ddysgwyr
- Yr un tasgau ysgrifennu â lefel 5 ond i’w gwneud mewn amser penodol (1 awr) yn ystod y prawf
Lefel iaith: Hyfedredd
Cyrsiau Cymraeg Wythnosol i staff
Bydd y cyrsiau i staff yn cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn ar TEAMS.
Os nad ydach chi’n siŵr o’ch lefel, neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Jenny neu Elen (Tiwtoriaid Cymraeg i staff).
Lefel | Cwrs | Day | Amser | Tiwtor |
---|---|---|---|---|
Beginners / Lefel 1 | Cyflwyniad (cwrs 8 wythnos) | Mercher | 12:00-12:50 | Elen |
Lefel 2 | Mynediad 1 | Llun | 13:15-14:00 | Elen |
Lefel 3 | Mynediad 2 | Iau | 12:00-12:50 | Elen |
Lefel 4 | Canolradd 1 | Mawrth | 13:00-13:50 | Jenny |
Lefel 5 | Canolradd 2 / Pellach | Llun | 13:00-13:50 | Jenny |
Lefel 6 | Uwch (sgwrs) | Mercher | 13:00-13:50 | Tiwtoriaid Canolfan Bedwyr |
Cwrs 8 wythnos i ddechreuwyr pur
Lefel: ar gyfer staff sy’n hollol newydd i’r iaith Gymraeg
Ynganu, ymadroddion a deialogau sylfaenol
Tiwtor: Elen Davies
Cysylltwch ag Elen am fwy o wybodaeth.
Cwrs ar gyfer staff sydd wedi cwblhau unedau dechreuol cwrs Cymraeg neu sydd â gwybodaeth syfaenol o’r iaith (ynganu ac ymadroddion rhagarweiniol).
Defnydd o’r amser presennol a’r gorffennol
Lefel: Mynediad 1
Tiwtor: Elen Davies
Bob dydd Llun 13:15–14:00
Ìý
Cwrs i staff sy’n gallu defnyddio’r amser presennol a’r gorffennol sylfaenol (dw i; rôn i; ’nes i ayyb.) Defnydd o’r presennol, gorffennol, a’r dyfodol, dymuniadau a gorchmynion.
Lefel: Mynediad 2 / Sylfaen 1
Tiwtor: Elen Davies
Bob dydd Iau 12:00–12:50
Ìý
Cwrs i staff sydd yn gyfarwydd ag amrywiaeth o batrymau ac amserau, ond sydd angen ennill hyder i’w defnyddio mewn sgwrs sylfaenol.
Adolygu ac ymarfer yr holl batrymau sylfaenol.
Lefel: Pellach 1
Tiwtor: Jenny Pye
Bob dydd Mawrth 13:00–13:50
Ìý
Cwrs i staff sy’n deall ac yn siarad rhywfaint o Gymraeg ond sydd am ennill hyder i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sgwrs o ddydd i ddydd.
Sgwrs Gymraeg ac adolygu patrymau iaith, amser y ferf, ymestyn geirfa.
Lefel: Pellach 2
Tiwtor: Jenny Pye
Bob dydd Llun 13:00–13:50
Ìý
Sesiynau sgwrsio i staff sy’n gallu cynnal sgwrs yn y Gymraeg ac sy’n defnyddio’r Gymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Adolygu patrymau, ymestyn geirfa, trafod pynciau yn y Gymraeg.
Lefel: Uwch
Tiwtor: Tiwtoriaid Canolfan Bedwyr
Bob dydd Mercher 13:00–13:30
Cyrsiau Allanol
Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin
Mae cyrsiau mwy dwys (2+ awr yr wythnos) hefyd ar gael am ddim i staff trwy Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin. Mae ar gael. Defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost prifysgol wrth gofrestru.