Lleoliadau Profiad Gwaith
(Ar gyfer disgyblion addysg uwchradd)
Mae'r cyfrifoldeb dros gydlynu lleoliadau profiad gwaith disgyblion yn y Brifysgol yn cael ei reoli gan Jamie Herbert, Adnoddau Dynol. Bydd angen dilyn trefnau'r Brifysgol yn achos yr holl ddisgyblion sy’n dymuno cael profiad gwaith yn y Brifysgol.
Bydd Adnoddau Dynol yn ddiolchgar pe bae ysgolion yn sicrhau bod y disgyblion hynny sydd yn awyddus i gael lleoliad profiad gwaith o fewn y Brifysgol yn cyflwyno’r ffurflenni hyn i Adnoddau Dynol o leiaf 8 wythnos cyn dechrau eu lleoliad. Yn anffodus, oherwydd poblogrwydd y Brifysgol fel lleoliad profiad gwaith, ni all y Brifysgol sicrhau lle i ddisgybl os bydd yn derbyn y ffurflen lai na 8 wythnos cyn dechrau’r lleoliad. Mae'r amserlen hon hefyd yn sicrhau bod gennym ddigon o amser i gysylltu â’r Ysgol berthnasol o fewn y Brifysgol, gwirio y gall gymryd y disgybl, ac yna cynnal yr holl asesiadau risg perthnasol.
Pan fydd y Brifysgol yn derbyn am leoliad, bydd y disgybl a’r ysgol yn cael ebost cadarnhau gan Adnoddau Dynol. Bydd y ebost yn cynnwys lleoliad, dyddiad, hyd ac amser cychwyn y lleoliad, yn ogystal ag enw cyswllt o fewn Ysgol berthnasol y Brifysgol.
Ffurflen Gais Lleoliad Profiad Gwaith
Ffurflen Penodi: Lleoliad Gwaith (at ddefnydd y Brifysgol yn unig)
Am fwy o wybodaeth ar drefnau'r Brifysgol ar gyfer lleoliadau Profiad Gwaith cysylltwch â Jamie Herbert. E-bost: pth23tpg@bangor.ac.uk