Gwasanaethau Myfyrwyr
Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnwys chwe gwasanaeth gwahanol ond integredig: Cefnogi Myfyrwyr, Gwasanaethau Anabledd, Gwasanaeth Cwnsela Myfyrwyr, Sgiliau a Chyflogadwyedd, Gweinyddu Myfyrwyr ac Ennyn Diddordeb Myfyrwyr.
Maent yn darparu amrywiaeth o wasanaethau arbenigol sy'n cefnogi myfyrwyr i oresgyn rhwystrau i gynnydd academaidd a rheoli'r materion ymarferol a phersonol sy'n gysylltiedig â bywyd prifysgol; Maent hefyd yn darparu ystod o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau a sesiynau hyfforddi sy'n galluogi myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i wireddu eu potensial academaidd ac i lwyddo yn eu nodau cysylltiedig â gyrfa. Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion academaidd, gwasanaethau eraill y Brifysgol, cyflogwyr a sefydliadau allanol mewn ffordd gyfannol i gefnogi myfyrwyr i wneud y gorau o’u hamser yn y Brifysgol.