Diogelu a Prevent
Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i'r canlynol:
- Darparu amgylchedd diogel i'w holl staff, myfyrwyr ac ymwelwyr cyn belled ag y bo'n ymarferol resymol i wneud hynny.
- Darparu amgylchedd sy’n ddiogel rhag niwed i holl aelodau cymuned y Brifysgol cyn belled ag y bo'n ymarferol resymol i wneud hynny.
- Cefnogi hawliau plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed gael eu hamddiffyn rhag cam-driniaeth, rhyddid rhag niwed a chael amgylchedd diogel ac iach.
- Sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed rhag camdriniaeth neu niwed.
- Sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle i ymdrin â honiadau o gamdriniaeth.
Mae'r adnoddau a nodir isod yn amlinellu dull a chyfrifoldebau'r Brifysgol, yn ogystal â sut mae'r Brifysgol yn ymdrin â datgeliadau diogelu. Mae darpariaeth ddiogelu'r Brifysgol hefyd yn ymestyn i'w threfniadau o dan y Ddyletswydd Prevent, ei hystod o wasanaethau myfyrwyr, a'i hyfforddiant staff parhaus.
Am rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd o’r ddiogelu, cysylltwch â diogelu@bangor.ac.uk. Mae’r cyfeiriad hwn yn cael ei fonitro’n rheolaidd a gellir hefyd adrodd am bryderon am blentyn, person ifanc neu oedolyn agored i niwed a darparu unrhyw dystiolaeth sydd ar gael i diogelu@bangor.ac.uk. Gellir hefyd gwneud adroddiad trwy glicio ar y ddolen ar y dde.
Y Swyddog Diogelu dynodedig ar gyfer y Brifysgol yw’r Uwch Swyddog Diogelu, Ymddygiad a Chwynion, Steve Barnard (s.barnard@bangor.ac.uk)