Cwynion
Cwynion
Mae Prifysgol Bangor yn croesawu sylwadau ac awgrymiadau gan unigolion a grwpiau y mae ganddi gysylltiad â nhw, sy'n dangos yr ymrwymiad sydd ganddi i barhau i wella ansawdd ei darpariaeth. Os oes gennych gŵyn sy'n ymwneud â'r Brifysgol, dilynwch y drefn berthnasol isod. Bydd y drefn a ddilynwch yn dibynnu a ydych chi'n aelod o staff y Brifysgol, yn fyfyriwr neu'n aelod o'r cyhoedd.
Bydd Canolfan Bedwyr yn delio â chwynion sy'n ymwneud â Pholisi Iaith Gymraeg y Brifysgol neu weithrediad Safonau'r Gymraeg.
Staff
Yr Adnoddau Dynol sy'n delio â chwynion gan y staff a chwynion amdanynt.
Myfyrwyr
Gwasanaethau Llywodraethu sy'n delio â chwynion gan fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr.
Cwynion Cyffredinol
Dylai cwyn gyffredinol gan aelod o'r cyhoedd ynglŷn â choleg, ysgol, adran, gwasanaeth, uned, polisi neu weithgaredd neilltuol o'r Brifysgol ddilyn Trefn Gwyno'r Brifysgol.
Chwythu'r Chwiban
Mae gan y Brifysgol Bolisi Datgelu er Lles y Cyhoedd (Chwythu'r Chwiban), sy'n ceisio cynnig ffyrdd i aelodau o'r Brifysgol godi pryderon difrifol, datgelu gwybodaeth ynghylch amgylchiadau y mae'r unigolyn yn credu iddynt amlygu camymddygiad, a chael adborth ynglÅ·n ag unrhyw gamau a gymerwyd.
Rhagor o Wybodaeth
Os ydych chi'n ansicr pa drefn i'w dilyn, cysylltwch â Lauren Roberts yn Gwasanaethau Llywodraethu.