Gwasanaethau Cyfreithiol
Darperir gwasanaethau cyfreithiol y Brifysgol gan ddau gwmni cyfreithiol yn dibynnu ar natur yr ymholiad.
- Mae Hugh James yn darparu gwasanaethau cyfreithiol ar gyfer materion Llywodraethu a Chydymffurfio ac ar gyfer materion Masnachol ac Eiddo Deallusol.
- Mae Veale Wasbrough Vizards yn darparu gwasanaethau cyfreithiol ar gyfer materion Eiddo ac Ystadau, materion sy’n ymwneud â Myfyrwyr a materion Cyflogaeth ac Adnoddau Dynol.
Mae'r ddau gwmni cyfreithiol hefyd yn cynnig hyfforddiant ac ystod o wasanaethau yn rhad ac am ddim sy’n ychwanegu gwerth i'r Brifysgol. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn drwy gysylltu â Nwanne Nwankor yn y tîm gwasanaethau cyfreithiol, trwy ddefnyddio’r e-bost a nodir isod. .
Rheolir y cytundeb gwasanaethau cyfreithiol gan Sarah Riley, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol ac er mwyn monitro defnydd y Brifysgol o wasanaethau cyfreithiol, ac i fod yn ymwybodol o’r costau i’r Brifysgol, rheolir mynediad at y cyngor cyfreithiol hwn trwy Sarah a’i thîm. Mae hyn yn galluogi'r Brifysgol i ystyried cyngor a dderbyniwyd yn flaenorol, ac i ystyried a ellir ymdrin â'r mater yn fewnol neu drafod â'r cwmni cyfreithiol perthnasol, fel y bo'n briodol. Os yw'r mater yn un cymhleth, gellir trefnu cyfarfodydd neu alwadau cynadledda hefyd, yn dilyn trafodaeth gyda Sarah.
Os oes angen cyngor cyfreithiol ar aelod o staff y Brifysgol, neu wybodaeth bellach am natur y gwasanaethau a gynigir, cysylltwch â Sarah Riley yn y lle cyntaf i amlinellu'r gofynion