Diogelu Data
Yn ystod 2018 newidiodd y gyfraith mewn perthynas â diogelu data. Mae gweithredu’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), a Deddf Diogelu Data newydd 2018 wedi newid y ffordd y mae Prifysgol Bangor yn casglu, defnyddio a storio gwybodaeth bersonol am unigolion (data personol). Maer Brifysgol wedi newid ei phrosesau er mwyn rhoi ystyriaeth i’r newidiadau hyn, ac mae polisïau a gweithdrefnau allweddol wedi cael eu diweddaru.
Swyddog Diogelu Data Prifysgol Bangor yw Sarah Riley, Pennaeth Gwasanaethau Gyfreithiol.
Mae Polisi Diogelu Data’r Brifysgol, sy’n esbonio sut mae’r Brifysgol yn rheoli’r gwaith o ddiogelu data, ar gael yma:
Mae ein Hysbysiadau Preifatrwydd, sy’n rhoi rhagor o fanylion ar sut mae’r Brifysgol yn defnyddio data personol, i’w cael yma:
- Staff
- Myfyrwyr
- Y Cyhoedd
- Hysbysiad Preifatrwydd Prifysgol Bangor: Profion Asymptomatig Covid-19
- Hysbysebiad Preifatrwydd y Cyngor
Yma gellir dod o hyd i wybodaeth bellach, sy’n rhoi manylion am sut y gall unigolyn gael mynediad at ei ddata personol:
Os ydych yn amau bod rhywbeth wedi digwydd a allai effeithio ar ddiogelwch data, ac os oes data personol wedi cael ei golli, ei ddwyn neu ei beryglu mae’n rhaid i chi ddilyn y camau sydd wedi eu nodi yn y Gweithdrefnau cyn gynted â phosib:
Isod ceir manylion polisïau eraill sydd hefyd yn rhoi arweiniad ar faterion yn ymwneud â diogelu data a diogelwch data:
- Cod Ymarfer Teledu Cylch Cyfyng
- Polisi Ailgylchu a Gwaredu Cyfrifiaduron
- Canllawiau ar Ddinistrio Cofnodion sy’n Cynnwys Data Cyfrinachol
- Rhybuddion Casglu yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) i Fyfyrwyr a Staff
Os oes angen hyfforddiant arnoch ar y Ddeddf Diogelu Data newydd / y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, cysylltwch â Colin Ridyard yn y Swyddfa Llywodraethu a Chydymffurfio (mhsa08@bangor.ac.uk).