Ein Cofnod Hysbysiad
Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi ei leoli yn Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer SK9 5AF.
Dan ddarpariaethau'r Ddeddf, mae'n ofynnol iddo/iddi gadw cofrestr o Ddefnyddwyr Data. Mae'r Comisiynydd yn llunio cofnod y defnyddiwr data o'r wybodaeth a roddir yn y ffurflen gais a lenwir gan y Defnyddiwr Data.
Mae'r cofnod yn cynnwys enw a chyfeiriad y defnyddiwr data, ynghyd â disgrifiad bras o'r canlynol:
- Y data personol a gedwir gan y defnyddiwr data.
- Y pwrpasau y defnyddir y data atynt.
- Dulliau prosesu'r data.
- Y ffynonellau y bwriadau'r defnyddiwr data gael yr wybodaeth ohonynt.
- Y bobl y gall y defnyddiwr data ddymuno dadlennu'r wybodaeth wrthynt
Gellir gweld y gofrestr ar y Rhyngrwyd - Z5157594 yw ein rhif cofrestru. Cliciwch i archwilio ein cofnod, dodwch ein rhif cofrestru yn y blwch penodol a clicio 'search' i gael golwg ar gofnod PCB.
A hithau'n gyfrifol am sicrhau bod cofnod PCB yn y gofrestr yn ddiweddar, mae Rheolwr Cofnodion y Brifysgol yn cadw copi o'r hysbysiad cyfredol. Gellir ei weld yn swyddfa'r Rheolwr Cofnodion neu ei weld ar y Rhyngrwyd fel a grybwyllwyd uchod.
Mae'r Comisiynydd yn sicrhau y cedwir at Egwyddorion Gwarchod data, a gall gyflwyno Rhybudd Gorfodi, gan gyfarwyddo rhywun sydd wedi cofrestru i gymryd camau penodol i gydymffurfio lle bernir na chadwyd at egwyddor. Gall hefyd gyflwyno Hysbysiadau Gwybodaeth lle bo o'r farn fod rheolwr yn meddu ar wybodaeth a fyddai'n dangos na chadwyd at yr egwyddorion. Mae Swyddfa'r Comisiynydd yn awdurdod sydd â hawl i erlyn ohono'i hun, gan ymchwilio i achosion a'u dwyn i'r llys.